Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

65Gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliad
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D yn gwneud hawliad meddiant yn erbyn D ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud.

(2)Yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, caiff landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn yr isddeiliad (“I”) (“gorchymyn adennill meddiant estynedig”); ond ni chaniateir gwneud cais o dan yr is-adran hon oni bai bod—

(a)y gofynion a ddynodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni, neu

(b)y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion hynny.

(3)Mae’r gofynion fel a ganlyn—

(a)rhaid i landlord D fod wedi rhoi copi o’r hysbysiad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) o adran 64 i I yn unol ag is-adran (2) o’r adran honno, a

(b)ar yr un pryd, rhaid i landlord D fod wedi rhoi hysbysiad i I—

(i)o fwriad landlord D i wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, a

(ii)o hawl I i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad yn erbyn D.

(4)Pan ganiateir i landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I, mae gan I hawl i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad meddiant yn erbyn D (ni waeth pa un a yw landlord D yn gwneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ai peidio).

(5)Ni chaiff y llys ystyried cais landlord D am orchymyn adennill meddiant estynedig onid yw wedi penderfynu gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn D.

(6)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I oni bai y byddai’r llys, pe byddai D wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn I, wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I.