Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

54Yr hawl i feddiannu heb ymyrraeth gan y landlord

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth, drwy unrhyw weithred neu anwaith, ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd.

(2)Nid yw’r landlord yn ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd drwy arfer hawliau’r landlord o dan y contract yn rhesymol.

(3)Nid yw’r landlord yn ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd oherwydd methiant i gydymffurfio â rhwymedigaethau atgyweirio (o fewn ystyr adran 100(2)).

(4)Mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi ymyrryd â hawl deiliad y contract os yw person—

(a)sy’n gweithredu ar ran y landlord, neu

(b)sydd â buddiant yn yr annedd, neu ran ohoni, sy’n rhagori ar fuddiant y landlord,

yn ymyrryd â hawl deiliad y contract drwy unrhyw weithred neu anwaith cyfreithlon.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.