Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

36Datganiad ysgrifenedig anghyflawn
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn darparu datganiad ysgrifenedig anghyflawn o’r contract, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.

(2)Mae datganiad ysgrifenedig yn anghyflawn os nad yw’n cynnwys popeth y mae’n ofynnol iddo ei gynnwys o dan adran 32.

(3)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;

(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;

(c)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os nad yw’r datganiad ysgrifenedig—

(a)yn nodi darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract ac os nad yw’n cynnwys datganiad nad yw’r ddarpariaeth wedi ei hymgorffori oherwydd adran 20(1) neu 21(2), neu

(b)yn nodi darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract ac os nad yw’n cynnwys datganiad nad yw’r ddarpariaeth wedi ei hymgorffori oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).

(5)Mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu oni bai—

(a)bod adran 21 neu 25 yn gymwys mewn perthynas â hi, neu

(b)bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(6)Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o’r fath a grybwyllir yn is-adran (5)(b), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(7)Nid yw is-adran (6) yn gymwys os gellir priodoli hepgor y ddarpariaeth neu’r datganiad ysgrifenedig i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(8)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig cyflawn o’r contract i ddeiliad y contract.

(9)Os yw’r llys wedi ei fodloni bod y datganiad ysgrifenedig yn anghyflawn oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(10)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi’i gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.