xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH

Datganiad ysgrifenedig o’r contract

35Methu â darparu datganiad: digolledu

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)⁠(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(6)Y dyddiad perthnasol yw diwrnod cyntaf y cyfnod yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi’r datganiad ysgrifenedig cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.