Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

242Dehongli’r Bennod

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Yn y Bennod hon—

  • y diwrnod penodedig” (“the appointed day”) yw’r diwrnod a bennir o dan adran 257 fel y diwrnod y daw adran 239 i rym;

  • mae i “tenantiaeth ddiogel” yr ystyr sydd i “secure tenancy” yn Neddf Tai 1985 (p. 68), ond nid yw’n cynnwys tenantiaeth cymdeithas dai o fewn ystyr adran 86 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42);

  • mae i “tenantiaeth fyrddaliol sicr” yr ystyr sydd i “assured shorthold tenancy” yn Neddf Tai 1988 (p. 50)

  • mae i “tenantiaeth fyrddaliol warchodedig”, “tenantiaeth warchodedig”, “contract cyfyngedig” a “tenantiaeth statudol” yr ystyr sydd i “protected shorthold tenancy”, “protected tenancy”, “restricted contract” a “statutory tenancy” yn Neddf Rhenti 1977;

  • ystyr “tenantiaeth isradd” (“demoted tenancy”) yw tenantiaeth y mae adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) yn berthnasol iddi;

  • mae i “tenantiaeth ragarweiniol” yr ystyr sydd i “introductory tenancy”yn Neddf Tai 1996;

  • mae i “tenantiaeth sicr” yr ystyr sydd i “assured tenancy”yn Neddf Tai 1988 (ac mae’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).