xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i landlord cymunedol wneud a chynnal unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn—
(a)er mwyn hysbysu deiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord am gynigion perthnasol ar faterion rheoli tai, a
(b)er mwyn rhoi cyfle rhesymol i ddeiliaid contract wneud sylwadau ar y cynigion.
(2)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adran (1)—
(a)ond yn gymwys pan fo cynnig perthnasol ar fater rheoli tai yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr holl ddeiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord, neu ar grŵp perthnasol o ddeiliaid contract o’r fath, a
(b)ond yn gymwys mewn perthynas â’r deiliaid contract sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.
(3)Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar gynnig perthnasol ar fater rheoli tai, rhaid i’r landlord ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliaid contract yn unol â’r trefniadau.
(4)Ystyr “cynnig perthnasol ar fater rheoli tai” yw cynnig sydd, ym marn y landlord, yn ymwneud â—
(a)rhaglen newydd i gynnal, gwella neu ddymchwel anheddau sy’n ddarostyngedig i gontractau meddiannaeth, neu
(b)newid arferion neu bolisi’r landlord o ran rheoli, cynnal, gwella neu ddymchwel anheddau o’r fath.
(5)Ond nid yw cynnig yn gynnig perthnasol ar fater rheoli tai i’r graddau y mae’n ymwneud ag—
(a)y rhent sy’n daladwy neu gydnabyddiaeth arall sy’n ddyledus i’r landlord, neu
(b)tâl a godir am wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y landlord.
(6)Ystyr “grŵp perthnasol” yw grŵp sy’n—
(a)ffurfio grŵp cymdeithasol penodol, neu
(b)meddiannu anheddau sy’n ffurfio dosbarth penodol (boed drwy gyfeiriad at y math o annedd, neu’r ystad dai neu ardal arall mwy o faint y maent wedi eu lleoli ynddi).
(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i baragraff 12(7) yn Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu).