Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

216Seiliau ôl-ddyledion rhent difrifol
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181 neu 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol).

(2)Os yw’r llys yn fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant,

rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae adran 181(2) neu (yn ôl y digwydd) adran 187(2) yn gymwys er mwyn penderfynu a oes gan ddeiliad contract ôl-ddyledion rhent difrifol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).