xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 3DARPARIAETHAU SYLFAENOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

20Ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol

(1)Nid yw darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth—

(a)os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori, a

(b)os, ym marn deiliad y contract, effaith peidio â’i hymgorffori yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.

(2)Mae darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi—

(a)os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny iddi, a

(b)os, ym marn deiliad y contract, effaith ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),

(b)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(c)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(d)adrannau 103(1)(b) a (2) a 108 (amrywio contractau diogel),

(e)adrannau 122(1)(b) a (2) a 127 (amrywio contractau safonol cyfnodol),

(f)adran 134(1)(b) a (2) a 135 (amrywio contractau safonol cyfnod penodol),

(g)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(h)adran 149 (hawliadau meddiant),

(i)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),

(j)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),

(k)adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth),

(l)adran 177 (torri rheolau blaendal: contractau safonol cyfnodol),

(m)adran 186(2) a (4) (cyfyngiad ar derfynu contract safonol cyfnod penodol yn ystod chwe mis cyntaf meddiannaeth),

(n)adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth),

(o)adran 198 (torri rheolau blaendal: contractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord), a

(p)paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol).

(4)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).