Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

196Cyfyngiadau ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord: pedwar mis cyntaf meddiannaeth
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.

(2)Os yw’r contract yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a

(iii)os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a

(b)ystyr “contract gwreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;

(ii)pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio),

ac mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r adran hon, ac na chaniateir ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.