xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Diwedd cyfnod penodol: hysbysiad y landlord

186Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn llai na chwe mis ar ôl—

(a)dyddiad meddiannu’r contract, neu

(b)os yw’r contract yn gontract sy’n cymryd lle contract arall, dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (2), o ran y dyddiad a bennir—

(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, a

(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(4)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a

(iii)os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a

(b)ystyr “contract gwreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;

(ii)pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.

(5)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-adran (1), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(6)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol; mae is-adrannau (2) a (4) yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori is-adran (1) fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn ymgorffori is-adran (1) fel un o delerau’r contract ai peidio),

ac mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r is-adrannau hynny, ac na chaniateir eu hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddynt.