xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 6RHESYMOLDEB ATAL CYDSYNIAD, ETC.

RHAN 1RHAGARWEINIOL

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddiben dyfarnu—

(a)pa un a yw’n rhesymol i landlord wrthod cydsynio i drafodiad, neu

(b)pa un a yw amod y mae landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig iddo yn rhesymol.

(2)Mae Rhan 2 yn nodi amgylchiadau y mae’n rhaid eu hystyried at y diben hwnnw, i’r graddau y maent yn berthnasol (ac i’r graddau nad oes unrhyw ofyniad arall i’w hystyried at y diben hwnnw; er enghraifft, o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)).

(3)Mae Rhan 3 yn nodi amgylchiadau (yn ychwanegol at y rheini sydd yn Rhan 2) y mae’n rhaid eu hystyried at y diben hwnnw mewn perthynas â mathau penodol o drafodiad, i’r graddau y maent yn berthnasol (ac i’r graddau nad oes unrhyw ofyniad arall i’w hystyried at y diben hwnnw).

(4)Mae Rhannau 2 a 3 hefyd yn nodi amgylchiadau penodol pan fo bob amser yn rhesymol i landlord wrthod cydsynio neu osod amodau (yn ddarostyngedig i hawliau Confensiwn deiliad y contract ac unrhyw berson arall a effeithir gan benderfyniad y landlord).