xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CEITHRIADAU I ADRAN 7

RHAN 2LL+CTENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD

Y rheolLL+C

3(1)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi, yn gontract meddiannaeth oni bai y bodlonir yr amod hysbysu.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded—

(a)sy’n rhoi’r hawl i feddiannu annedd at ddibenion gwyliau,

(b)sy’n ymwneud â darparu llety mewn sefydliad gofal (gweler paragraff 4),

(c)sy’n drefniant hwylus dros dro (gweler paragraff 5), neu

(d)y mae’r eithriad llety a rennir yn gymwys iddi (gweler paragraff 6).

(3)Mae’r amod hysbysu wedi ei fodloni os yw’r landlord, cyn neu ar adeg gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn rhoi hysbysiad i’r person y’i gwneir ag ef yn datgan y bydd yn gontract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Ystyr “sefydliad gofal”LL+C

4Ystyr “sefydliad gofal” yw—

(a)ysbyty gwasanaeth iechyd, yn yr ystyr sydd i “health service hospital” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 49) (gweler adran 206(1) o’r Ddeddf honno),

[F1(b)ysbyty annibynnol, yn yr ystyr sydd i “independent hospital” yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno),

(c)man lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn,

(d)man lle y mae gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu, neu

(e)man y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn cysylltiad ag ef i ddarparu—

(i)gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu

(ii)gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno i bersonau sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf o dan 18 oed.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Ystyr “trefniant hwylus dros dro”LL+C

5(1)Mae tenantiaeth neu drwydded yn drefniant hwylus dros dro os caiff ei gwneud fel trefniant hwylus dros dro gyda pherson a aeth i’r annedd y mae’n berthnasol iddi (neu unrhyw annedd arall) fel tresmaswr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn mae’n amherthnasol a wnaed, cyn dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, denantiaeth neu drwydded arall i feddiannu’r annedd (neu unrhyw annedd arall) â’r person ai peidio.

(3)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sy’n dod i fodolaeth yn sgil adran 238 yn drefniant hwylus dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Ystyr “llety a rennir”LL+C

6(1)Mae’r eithriad llety a rennir yn gymwys—

(a)os yw telerau’r denantiaeth neu’r drwydded yn darparu i’r tenant neu’r trwyddedai rannu unrhyw lety gyda’r landlord, a

(b)os yw’r landlord, yn union cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn meddiannu annedd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r llety a rennir fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(2)Ond nid yw’r eithriad yn gymwys o dan is-baragraff (1) ond tra bo’r person sy’n landlord o bryd i’w gilydd mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded yn parhau i feddiannu annedd o’r fath fel unig gartref neu fel prif gartref y person hwnnw.

(3)Mae’r eithriad llety a rennir hefyd yn gymwys—

(a)os yw telerau’r denantiaeth neu’r drwydded yn darparu i’r tenant neu’r trwyddedai rannu unrhyw lety gyda pherson arall (“y buddiolwr”),

(b)os yw’r buddiolwr, yn union cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn meddiannu annedd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r llety a rennir fel ei unig gartref neu ei brif gartref,

(c)os yw’r annedd honno’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth, a

(d)os oes gan y buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth—

(i)hawl i fuddiant yn yr annedd, a

(ii)o ganlyniad i’r hawl honno, hawl i feddiannu’r annedd.

(4)Ond nid yw’r eithriad yn gymwys o dan is-baragraff (3) ond tra bo’r buddiolwr yn parhau i feddiannu annedd o’r fath fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(5)Mae tenant neu drwyddedai yn rhannu llety gyda’r landlord neu’r buddiolwr os yw’r tenant neu’r trwyddedai â defnydd ohoni yn gyffredin â’r landlord neu’r buddiolwr (boed yn gyffredin ag eraill ai peidio).

(6)Nid yw “llety” yn cynnwys ardal a ddefnyddir fel storfa, na grisiau, tramwyfa, coridor na dull arall o fynd iddo.

(7)Os yw dau neu ragor o bersonau yn landlord mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded, mae cyfeiriadau at y landlord yn gyfeiriadau at unrhyw un ohonynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2