xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 7)

ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7

RHAN 1TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU NAD YDYNT O FEWN ADRAN 7 SY’N GONTRACTAU MEDDIANNAETH OS RHODDIR HYSBYSIAD

Y rheol

1(1)Caniateir i denantiaeth neu drwydded nad yw o fewn adran 7 fod yn gontract meddiannaeth—

(a)os yw’n rhoi’r hawl i unigolyn (“y buddiolwr”), heblaw’r person y’i gwneir ag ef, feddiannu’r annedd fel cartref, a

(b)os bodlonir yr amod hysbysu.

(2)Caniateir i denantiaeth neu drwydded nad yw o fewn adran 7 am nad oes unrhyw rent na chydnabyddiaeth arall yn daladwy oddi tani (ac nad yw is-baragraff (1) yn gymwys iddi) fod yn gontract meddiannaeth os bodlonir yr amod hysbysu.

(3)Mae’r amod hysbysu wedi ei fodloni os yw’r landlord, cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded neu ar adeg ei gwneud, yn rhoi hysbysiad i’r person y’i gwneir ag ef yn datgan y bydd yn gontract meddiannaeth.

Contractau er budd rhywun arall: darpariaeth bellach

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan roddir hysbysiad o dan baragraff 1(3) mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded o fewn paragraff 1(1)(a).

(2)Caniateir i’r hysbysiad bennu darpariaethau o’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani sydd i gael effaith mewn perthynas â’r contract meddiannaeth fel pe bai cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn gyfeiriadau at y buddiolwr.

(3)Os yw’n gwneud hynny, mae’r darpariaethau a bennir yn yr hysbysiad yn cael effaith yn unol â hynny.

(4)Mae adran 20(1)(b) a (2)(b) yn gymwys i ddarpariaethau sylfaenol a bennir yn yr hysbysiad fel pe bai cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn gyfeiriadau at y buddiolwr.

RHAN 2TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD

Y rheol

3(1)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi, yn gontract meddiannaeth oni bai y bodlonir yr amod hysbysu.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded—

(a)sy’n rhoi’r hawl i feddiannu annedd at ddibenion gwyliau,

(b)sy’n ymwneud â darparu llety mewn sefydliad gofal (gweler paragraff 4),

(c)sy’n drefniant hwylus dros dro (gweler paragraff 5), neu

(d)y mae’r eithriad llety a rennir yn gymwys iddi (gweler paragraff 6).

(3)Mae’r amod hysbysu wedi ei fodloni os yw’r landlord, cyn neu ar adeg gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn rhoi hysbysiad i’r person y’i gwneir ag ef yn datgan y bydd yn gontract meddiannaeth.

Ystyr “sefydliad gofal”

4Ystyr “sefydliad gofal” yw—

(a)ysbyty gwasanaeth iechyd, yn yr ystyr sydd i “health service hospital” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 49) (gweler adran 206(1) o’r Ddeddf honno),

(b)ysbyty annibynnol, cartref gofal neu ganolfan breswyl i deuluoedd, yn yr ystyr sydd i “independent hospital”, “care home” a “residential family centre” yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (gweler adrannau 2 i 4 o’r Ddeddf honno), neu

(c)cartref plant y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno mewn perthynas ag ef.

Ystyr “trefniant hwylus dros dro”

5(1)Mae tenantiaeth neu drwydded yn drefniant hwylus dros dro os caiff ei gwneud fel trefniant hwylus dros dro gyda pherson a aeth i’r annedd y mae’n berthnasol iddi (neu unrhyw annedd arall) fel tresmaswr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn mae’n amherthnasol a wnaed, cyn dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, denantiaeth neu drwydded arall i feddiannu’r annedd (neu unrhyw annedd arall) â’r person ai peidio.

(3)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sy’n dod i fodolaeth yn sgil adran 238 yn drefniant hwylus dros dro.

Ystyr “llety a rennir”

6(1)Mae’r eithriad llety a rennir yn gymwys—

(a)os yw telerau’r denantiaeth neu’r drwydded yn darparu i’r tenant neu’r trwyddedai rannu unrhyw lety gyda’r landlord, a

(b)os yw’r landlord, yn union cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn meddiannu annedd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r llety a rennir fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(2)Ond nid yw’r eithriad yn gymwys o dan is-baragraff (1) ond tra bo’r person sy’n landlord o bryd i’w gilydd mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded yn parhau i feddiannu annedd o’r fath fel unig gartref neu fel prif gartref y person hwnnw.

(3)Mae’r eithriad llety a rennir hefyd yn gymwys—

(a)os yw telerau’r denantiaeth neu’r drwydded yn darparu i’r tenant neu’r trwyddedai rannu unrhyw lety gyda pherson arall (“y buddiolwr”),

(b)os yw’r buddiolwr, yn union cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn meddiannu annedd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r llety a rennir fel ei unig gartref neu ei brif gartref,

(c)os yw’r annedd honno’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth, a

(d)os oes gan y buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth—

(i)hawl i fuddiant yn yr annedd, a

(ii)o ganlyniad i’r hawl honno, hawl i feddiannu’r annedd.

(4)Ond nid yw’r eithriad yn gymwys o dan is-baragraff (3) ond tra bo’r buddiolwr yn parhau i feddiannu annedd o’r fath fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(5)Mae tenant neu drwyddedai yn rhannu llety gyda’r landlord neu’r buddiolwr os yw’r tenant neu’r trwyddedai â defnydd ohoni yn gyffredin â’r landlord neu’r buddiolwr (boed yn gyffredin ag eraill ai peidio).

(6)Nid yw “llety” yn cynnwys ardal a ddefnyddir fel storfa, na grisiau, tramwyfa, coridor na dull arall o fynd iddo.

(7)Os yw dau neu ragor o bersonau yn landlord mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded, mae cyfeiriadau at y landlord yn gyfeiriadau at unrhyw un ohonynt.

RHAN 3TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU NAD YDYNT BYTH YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH

Y rheol

7(1)Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth ar unrhyw adeg pan fo’r paragraff hwn yn berthnasol iddi.

(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded os yw pob un o’r personau y’i gwneir â hwy wedi eu heithrio rhag bod yn ddeiliaid contract gan adran 7(6) (unigolion nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed).

(3)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys i—

(a)tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (p. 56) (tenantiaethau busnes) yn gymwys iddi;

(b)meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 (p. 80);

(c)tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977 (p. 42);

(d)tenantiaeth ddiogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai, o fewn ystyr adran 86 o Ddeddf Rhenti 1977;

(e)tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5);

(f)tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8);

(g)tenantiaeth hir (gweler paragraff 8);

(h)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety’r lluoedd arfog (gweler paragraff 9);

(i)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety mynediad uniongyrchol (gweler paragraff 10).

Ystyr “tenantiaeth hir”

8(1)Ystyr “tenantiaeth hir” yw—

(a)tenantiaeth am gyfnod penodol o fwy na 21 mlynedd (pa un a ellir ei derfynu neu y caniateir ei derfynu cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu drwy ailfynediad neu fforffediad ai peidio),

(b)tenantiaeth am gyfnod sydd wedi ei bennu gan y gyfraith oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus, ac eithrio tenantiaeth drwy is-les o dan un nad yw’n denantiaeth hir, neu

(c)tenantiaeth a wneir yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr hawl i brynu), gan gynnwys tenantiaeth a wneir yn unol â’r Rhan honno fel y mae’n cael effaith oherwydd adran 17 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (yr hawl i gaffael).

(2)Ond nid yw tenantiaeth y gellir ei therfynu drwy hysbysiad ar ôl marwolaeth yn denantiaeth hir oni bai ei bod yn denantiaeth cydberchnogaeth.

(3)Tenantiaeth cydberchnogaeth yw tenantiaeth—

(a)a wnaed â chymdeithas dai a oedd yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig,

(b)a wnaed am bremiwm a gyfrifwyd drwy gyfeirio at ganran o werth yr annedd neu gost ei darparu, ac

(c)a oedd, pan gafodd ei gwneud, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cydberchnogaeth a oedd mewn grym ar y pryd.

(4)Mae tenantiaeth a wnaed cyn bod unrhyw reoliadau cydberchnogaeth mewn grym i’w thrin fel pe bai o fewn is-baragraff (3)(c) os oedd, pan wnaed y denantiaeth, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cyntaf o’r fath i ddod i rym ar ôl iddi gael ei gwneud.

(5)Ystyr “rheoliadau cydberchnogaeth” yw rheoliadau o dan—

(a)adran 140(4)(b) o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), neu

(b)paragraff 5 o Atodlen 4A i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) a wnaed at ddibenion paragraff 4(2)(b) o’r Atodlen honno.

Ystyr “llety’r lluoedd arfog”

9Llety’r lluoedd arfog yw llety a ddarperir i—

(a)aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi,

(b)aelod o deulu aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi, neu

(c)sifiliad sy’n ddarostyngedig i ddisgyblaeth y lluoedd arfog (o fewn ystyr adran 370 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52)),

at ddibenion unrhyw un neu ragor o luoedd Ei Mawrhydi.

Ystyr “llety mynediad uniongyrchol”

10(1)Llety mynediad uniongyrchol yw llety—

(a)a ddarperir gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,

(b)a ddarperir (cyn belled a’i fod ar gael) mewn ymateb i’r galw i unrhyw berson yr ymddengys ei fod yn bodloni meini prawf a bennir gan y landlord cymunedol neu’r elusen, ac

(c)na ddarperir ond am gyfnodau o 24 awr (neu lai) ar y tro.

(2)Caiff llety fod yn llety mynediad uniongyrchol hyd yn oed os caiff ei ddarparu i’r un person am sawl cyfnod yn olynol.

RHAN 4TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: DIGARTREFEDD

11Nid yw tenantiaeth neu drwydded o fewn adran 7, ond a wneir gydag unigolyn gan awdurdod tai lleol oherwydd swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (digartrefedd), yn gontract meddiannaeth oni bai bod yr awdurdod yn fodlon bod ganddo ddyletswydd tuag at yr unigolyn o dan adran 75(1) o’r Ddeddf honno (dyletswydd i sicrhau bod llety addas ar gael).

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, yn unol ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau darparu tai i’r digartref, yn gwneud trefniadau â landlord perthnasol ar gyfer darparu llety.

(2)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond a wneir â landlord perthnasol yn unol â’r trefniadau, yn gontract meddiannaeth hyd nes yn union ar ôl diwedd y cyfnod hysbysu.

(3)Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod hysbysu, yn rhoi hysbysiad i’r person y gwneir y denantiaeth neu’r drwydded ag ef ei bod yn gontract meddiannaeth.

(4)Y cyfnod hysbysu yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ag—

(a)y diwrnod y cafodd y person hwnnw ei hysbysu—

(i)o ganlyniad asesiad yr awdurdod o dan adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu o benderfyniad yr awdurdod o dan adran 80(5) o’r Ddeddf honno, neu (yn ôl y digwydd)

(ii)o benderfyniad yr awdurdod o dan adran 184(3) neu 198(5) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), neu

(b)os oes—

(i)adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 85 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 neu apêl i’r llys sirol o dan adran 88 o’r Ddeddf honno, neu (yn ôl y digwydd)

(ii)adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 202 o Ddeddf Tai 1996 neu apêl i’r llys o dan adran 204 o’r Ddeddf honno,

y diwrnod yr hysbysir y person hwnnw o ganlyniad yr asesiad neu o benderfyniad yr adolygiad, neu’r diwrnod y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.

(5)Yn y paragraff hwn—

RHAN 5TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: LLETY Â CHYMORTH

13(1)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond sy’n ymwneud â llety â chymorth (gweler adran 143), yn gontract meddiannaeth os yw’r landlord yn bwriadu nad yw’r llety a ddarperir o dan y denantiaeth neu’r drwydded i fod yn ddarostyngedig i gontract meddiannaeth.

(2)Ond os yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol, mae’n dod yn gontract meddiannaeth yn union ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Y cyfnod perthnasol (yn ddarostyngedig i baragraff 14) yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded ac sy’n dod i ben â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.

(4)Dyddiad meddiannu tenantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth o dan is-baragraff (2) yw’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(5)At ddibenion y Rhan hon, dyddiad dechrau tenantiaeth neu drwydded yw’r diwrnod y mae gan y tenant neu’r trwyddedai hawl o dan y denantiaeth neu’r drwydded i feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth neu’r drwydded am y tro cyntaf.

Ystyr y cyfnod perthnasol pan fo contractau blaenorol

14(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) (“y denantiaeth neu’r drwydded bresennol”)—

(a)os oedd gan y tenant neu’r trwyddedai hawl flaenorol i feddiannu llety â chymorth o dan un neu ragor o gontractau blaenorol perthnasol, a

(b)os yw’r denantiaeth neu’r drwydded bresennol yn olynu contract blaenorol perthnasol yn uniongyrchol.

(2)Tenantiaeth neu drwydded yw contract blaenorol perthnasol, sy’n ymwneud â llety â chymorth ac—

(a)â’r annedd y mae’r denantiaeth neu’r drwydded bresennol yn berthnasol iddi (“yr annedd bresennol”);

(b)os yw’r annedd bresennol yn ffurfio rhan o adeilad yn unig, ag annedd arall—

(i)sydd yn yr adeilad hwnnw, neu

(ii)os yw’r adeilad hwnnw yn un o nifer o adeiladau a reolir fel un endid, sydd yn unrhyw un neu ragor o’r adeiladau hynny.

(3)Os un tenant neu drwyddedai un unig sydd, ac un contract blaenorol perthnasol, y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r contract blaenorol perthnasol, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.

(4)Os un tenant neu drwyddedai yn unig sydd, a bod dau neu ragor o gontractau blaenorol perthnasol yn olynu ei gilydd yn uniongyrchol, y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r cyntaf o’r contractau hynny, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.

(5)Os oes cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad a gyfrifir—

(i)drwy ddarganfod, mewn perthynas â phob cyd-denant neu gyd-drwyddedai, y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dechrau o dan is-baragraffau (3)(a) neu (4)(a) pe byddai’n unig denant neu’n unig drwyddedai, a

(ii)drwy gymryd y cynharaf o’r dyddiadau hynny, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad o estyniad.

(6)Mae tenantiaeth neu drwydded (“contract 2”) yn olynydd uniongyrchol i denantiaeth neu drwydded arall (“contract 1”) os yw contract 1 yn dod i ben yn union cyn dyddiad dechrau contract 2.

Ymestyn y cyfnod perthnasol

15(1)Caniateir i’r landlord (unwaith neu fwy nag unwaith) ymestyn cyfnod perthnasol tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) drwy roi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ni chaniateir ymestyn y cyfnod perthnasol gan fwy na thri mis ar unrhyw achlysur unigol.

(3)Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dod i ben o dan ba un bynnag o’r canlynol sy’n gymwys—

(a)paragraff 13(3)(a) neu (b);

(b)paragraff 14(3)(a) neu (b);

(c)paragraff 14(4)(a) neu (b);

(d)paragraff 14(5)(a) neu (b).

(4)Cyn rhoi hysbysiad o estyniad, rhaid i’r landlord ymgynghori â’r tenant neu’r trwyddedai.

(5)Ni chaiff landlord (ac eithrio awdurdod tai lleol) roi hysbysiad o estyniad heb gydsyniad yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal.

(6)Rhaid i’r hysbysiad o estyniad—

(a)datgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol,

(b)nodi’r rhesymau dros ymestyn y cyfnod perthnasol,

(c)os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, datgan bod yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal wedi cydsynio i’r estyniad, a

(d)pennu’r dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol yn dod i ben.

(7)Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu’r tenant neu’r trwyddedai bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 16, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

(8)Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol, caiff y landlord ystyried—

(a)ymddygiad y tenant neu’r trwyddedai (neu, os oes mwy nag un tenant neu drwyddedai, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a

(b)ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.

(9)Caiff y landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (8)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau at ddibenion is-baragraff (5), gan gynnwys darpariaeth am y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn perthynas â sicrhau cydsyniad awdurdod tai lleol.

Adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn

16(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 15 i denant neu drwyddedai.

(2)Caiff y tenant neu’r trwyddedai wneud cais i’r llys sirol am adolygiad—

(a)pan fo’r landlord yn awdurdod tai lleol, o’r penderfyniad i roi hysbysiad o estyniad, neu

(b)pan na fo’r landlord yn awdurdod tai lleol, o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i gydsynio bod y landlord yn rhoi’r hysbysiad o estyniad.

(3)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai.

(4)Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-baragraff (3), ond dim ond os yw’n fodlon—

(a)os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw’r tenant neu’r trwyddedai wedi gallu gwneud y cais mewn pryd, neu

(b)os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod y tenant neu’r trwyddedai wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(5)Caiff y llys sirol—

(a)cadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad, neu

(b)amrywio hyd yr estyniad (yn ddarostyngedig i baragraff 15(2)).

(6)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, neu amrywio hyd yr estyniad, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(7)Os yw’r llys sirol yn amrywio hyd yr estyniad, mae’r hysbysiad o estyniad yn cael effaith yn unol â hynny.

(8)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad—

(a)nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o estyniad, a

(b)caiff y llys sirol wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(9)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad a bod y landlord yn rhoi hysbysiad pellach o estyniad o dan baragraff 15 i’r tenant neu’r trwyddedai cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad, mae’r hysbysiad yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi yn unol â pharagraff 15(3) (heblaw at ddibenion is-baragraff (3)).

(10)Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn amrywio hyd yr estyniad neu’n diddymu’r penderfyniad.

RHAN 6PŴER I DDIWYGIO’R ATODLEN

17Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.