Anghenion deiliad y contract a’i deulu
4(1)Rhaid i’r llys ddyfarnu a yw llety yn rhesymol addas mewn perthynas ag anghenion deiliad y contract a’i deulu yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Rhaid i’r llys ystyried (ymysg pethau eraill)—
(a)anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran maint y llety,
(b)os yw’r landlord yn landlord preifat, anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran cymeriad y llety,
(c)modd deiliad y contract a’i deulu,
(d)os yw deiliad y contract neu aelod o’i deulu yn gweithio neu’n derbyn addysg, pellter y llety o’r man (neu’r mannau) gwaith neu addysg,
(e)os yw agosrwydd at gartref unrhyw aelod o deulu deiliad y contract yn hanfodol i lesiant deiliad y contract neu’r aelod hwnnw o’i deulu, agosrwydd y llety at y cartref hwnnw,
(f)telerau’r contract presennol a thelerau’r contract meddiannaeth y mae’r llety i’w feddiannu oddi tano, ac
(g)os oedd y landlord yn darparu dodrefn/celfi o dan y contract presennol, pa un a yw dodrefn/celfi i’w darparu at ddefnydd deiliad y contract a’i deulu ac, os felly, natur y dodrefn/celfi hynny.
(3)Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, rhaid i’r llys hefyd ystyried natur y llety y mae’n arfer gan y landlord ei ddyrannu i bersonau sydd ag anghenion tebyg.
(4)Os yw’r landlord yn landlord preifat, caiff y llys ystyried, fel dewis arall i’r materion yn is-baragraff (2)(a) i (c), pa un a yw’r llety yn debyg o ran rhent a maint i’r llety a ddarperir yn y gymdogaeth gan landlordiaid cymunedol ar gyfer personau cyffelyb.
(5)Ystyr “personau cyffelyb” yw’r rheini y mae eu hanghenion, o ran maint, yn debyg ym marn y llys i rai deiliad y contract a theulu deiliad y contract.
(6)At ddibenion is-baragraff (4) mae tystysgrif awdurdod tai lleol sy’n datgan—
(a)maint y llety a ddarperir gan yr awdurdod i ddiwallu anghenion personau sydd â theuluoedd o ba faint bynnag a bennir yn y dystysgrif, a
(b)swm y rhent a godir gan yr awdurdod am lety o’r maint hwnnw,
yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffeithiau sydd wedi eu datgan felly.
(7)Wrth ystyried y materion yn is-baragraff (2)(f) ni chaiff y llys ystyried unrhyw un neu ragor o delerau’r contract meddiannaeth sy’n ymwneud â lletywyr ac isddeiliaid.