xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Nid yw’r adran hon yn gymwys ond mewn perthynas â chontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.
(2)Os yw’r landlord yn penderfynu rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu i roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol), caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad hwnnw.
(3)Rhaid gwneud cais am adolygiad i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.
(1)Os yw deiliad y contract, yn unol ag adran 202, yn gofyn am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad, rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.
(2)Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—
(a)cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu
(b)gwrthdroi’r penderfyniad.
(3)Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant ar ei ôl.
(4)Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad nodi’r rhesymau dros y cadarnhad.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan yr adran hon.
(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5), ymysg pethau eraill—
(a)ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a
(b)dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad y contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.