xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

Terfynu gan ddeiliad contract: hysbysiad deiliad contract

168Hysbysiad deiliad contract

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

169Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

170Adennill meddiant

(1)Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

171Cyfyngiadau ar adran 170

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 170 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 168 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

172Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contract

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.