Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

PENNOD 11HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL)

212Sail hysbysiad deiliad y contract

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os—

(a)yw’r landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 (hysbysiad deiliad y contract), a

(b)yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.

(2)Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 213 (adolygiad gan y llys sirol).

213Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar y sail yn adran 165 (deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), ac—

(a)bod y landlord yn landlord cymunedol, neu

(b)bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.

(2)Caiff deiliad y contract wneud cais yn yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.

(3)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu.

(4)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(5)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—

(a)rhoi’r hysbysiad adennill meddiant o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;

(b)gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(6)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (2) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.

214Pwerau i ohirio ildio meddiant

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o annedd o dan adran 212.

(2)Ni chaiff y llys ohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn, oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys y câi caledi eithriadol ei achosi pe na byddai ildio meddiant yn cael ei ohirio hyd ddyddiad diweddarach.

(3)Ni chaniateir gohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn mewn unrhyw achos.

(4)Caniateir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.