xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Mae’r tabl a ganlyn yn darparu trosolwg o’r Rhan hon—
PENNOD | CONTRACTAU MEDDIANNAETH Y MAE’N BERTHNASOL IDDYNT | CYNNWYS Y BENNOD |
---|---|---|
1 | Pob contract meddiannaeth (ac eithrio adran 151, nad yw ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig) | (a) ffyrdd y gellir terfynu contractau meddiannaeth, (b) amgylchiadau y gall landlordiaid wneud hawliad i’r llys i adennill meddiant o annedd oddi tanynt, ac (c) “hysbysiadau adennill meddiant”, sef hysbysiadau y mae’n rhaid i landlordiaid eu rhoi i ddeiliaid contractau cyn gwneud hawliad meddiant o dan adran 157 (tor contract), adran 161 (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad), adran 165 neu 170 (adennill meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), adrannau 181 a 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol) neu adran 191 (adennill meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad y contract). |
2 | Pob contract meddiannaeth | Amgylchiadau penodol pryd y gall contractau meddiannaeth derfynu heb hawliad meddiant. |
3 | Pob contract meddiannaeth | Hawliadau meddiant gan landlordiaid— (a) ar y sail fod deiliad y contract wedi torri’r contract, a (b) ar seiliau rheoli ystad. |
4 | Contractau diogel | Hawl deiliad y contract i derfynu’r contract. |
5 | Contractau safonol cyfnodol | (a) hawl deiliad y contract i derfynu’r contract, a (b) hawliau’r landlord i derfynu’r contract a gwneud hawliad meddiant. |
6 a 7 | Contractau safonol cyfnod penodol | (a) yr hyn sy’n digwydd ar ddiwedd y cyfnod, (b) hawl deiliad y contract i derfynu’r contract, a (c) hawliau’r landlord i derfynu’r contract a gwneud hawliad meddiant. |
8 | Contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig | Adolygiad gan landlord, pan fo’n ofynnol gan ddeiliad y contract, o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant ar seiliau penodol. |
9 a 10 | Pob contract meddiannaeth | (a) pwerau’r llys mewn perthynas â phob hawliad meddiant, a (b) pwerau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â seiliau meddiant yn ôl disgresiwn. |
11 | Contractau diogel | Pwerau a dyletswyddau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â hysbysiad deiliad y contract. |
12 | Contractau safonol | Pwerau a dyletswyddau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â seiliau meddiant absoliwt. |
13 i 15 | Pob contract meddiannaeth | (a) hawliau’r landlord pan fo deiliad y contract yn cefnu ar yr annedd, (b) terfynu a gwahardd pan fo cyd-ddeiliaid contract, a (c) fforffedu a rhybudd i ymadael heb fod ar gael mewn perthynas â chontractau meddiannaeth. |
(1)Ni chaniateir terfynu contract meddiannaeth ond yn unol ag—
(a)telerau sylfaenol y contract sy’n ymgorffori darpariaethau sylfaenol a ddynodir yn y Rhan hon neu delerau eraill a gynhwysir yn y contract yn unol â’r Rhan hon, neu
(b)deddfiad.
(2)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar—
(a)unrhyw hawl sydd gan y landlord neu ddeiliad y contract i ddad-wneud y contract, na
(b)gweithrediad cyfraith llesteirio.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
(1)Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad i’r llys i adennill meddiant o’r annedd oddi wrth ddeiliad y contract (“hawliad meddiant”) ond yn yr amgylchiadau a amlinellir ym Mhenodau 3 i 5 a 7.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad adennill meddiant y mae’n ofynnol i landlord ei roi i ddeiliad contract cyn gwneud hawliad meddiant.
(2)Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â nodi’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad)—
(a)datgan bwriad y landlord i wneud hawliad meddiant,
(b)rhoi manylion y sail, ac
(c)datgan ar ôl pa ddyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i—
(a)hysbysiad a roddir yn unol ag adran 173 (hysbysiad gan landlord) mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
(b)hysbysiad adennill meddiant a roddir yn unol ag adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol) mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
(2)Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â chydymffurfio gydag unrhyw ofynion eraill o dan y Ddeddf hon) hysbysu deiliad y contract am yr hawl i wneud cais am adolygiad o dan adran 202 (adolygiad gan landlord), a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol rhagarweiniol a phob contract safonol ymddygiad gwaharddedig.