xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4CYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 2CYFLWR ANHEDDAU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Cyfyngiadau ar rwymedigaethau’r landlord o dan y Bennod hon

95Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: cyffredinol

(1)Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar landlord mewn perthynas ag annedd nad yw’r landlord yn gallu ei gwneud yn ffit i bobl fyw ynddi am gost resymol.

(2)Nid yw adrannau 91(1) a 92(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord—

(a)cadw mewn cyflwr da unrhyw beth y mae gan ddeiliad y contract hawl mynd ag ef o’r annedd, na

(b)ailadeiladu neu adfer cyflwr yr annedd neu unrhyw ran ohoni, os caiff ei dinistrio neu ei difrodi gan achos perthnasol.

(3)Os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, nid yw adrannau 91(1) a 92(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ailadeiladu nac adfer cyflwr unrhyw ran arall o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, os caiff ei dinistrio neu ei difrodi gan achos perthnasol.

(4)Tân, storm, llifogydd neu unrhyw ddamwain anochel arall yw’r achosion perthnasol.

(5)Nid yw adran 92(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord wneud gwaith nac atgyweiriadau oni bai bod y methiant i gadw mewn cyflwr da, neu’r methiant i gadw mewn cyflwr sy’n gweithio’n iawn, yn effeithio ar fwynhad deiliad y contract—

(a)o’r annedd, neu

(b)o’r rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

96Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: bai deiliad y contract

(1)Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar y landlord os nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi yn llwyr neu’n bennaf oherwydd gweithred neu anwaith (gan gynnwys gweithred neu anwaith sy’n gyfystyr â diffyg gofal) ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

(2)Nid oes rhwymedigaeth ar y landlord yn sgil adran 92(1) na (2) i wneud gwaith nac atgyweiriadau os gellir priodoli’r methiant i gadw mewn cyflwr da, neu fethiant gosodiad gwasanaeth i weithio, yn llwyr neu’n bennaf i ddiffyg gofal ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

(3)Ystyr “diffyg gofal” yw methu â gofalu’n briodol—

(a)am yr annedd, neu

(b)os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, am y rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

97Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: hysbysiad

(1)Nid yw rhwymedigaethau’r landlord o dan adrannau 91(1)(b) a 92(1) a (2) yn codi hyd nes bod y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn dod i wybod bod angen gwaith neu atgyweiriadau.

(2)Mae’r landlord yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau o dan y darpariaethau hynny os yw’n gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol o fewn cyfnod rhesymol ar ôl y diwrnod y daw’r landlord i wybod bod ei angen neu eu hangen.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)os yw’r landlord (yr “hen landlord”) yn trosglwyddo buddiant yr hen landlord yn yr annedd i berson arall (y “landlord newydd”), a

(b)os yw’r hen landlord (neu os dau neu ragor o bersonau ar y cyd yw’r hen landlord, unrhyw un ohonynt) yn gwybod cyn dyddiad y trosglwyddiad bod gwaith neu atgyweiriadau’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag adran 91(1) neu 92(1) neu (2).

(4)Mae’r landlord newydd i’w drin fel pe bai’n dod i wybod bod angen y gwaith hwnnw neu’r atgyweiriadau hynny ar ddyddiad y trosglwyddiad, ond nid cyn hynny.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.