Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

PENNOD 8DELIO

Hawliau i ddelio â chontract meddiannaeth

57Dulliau o ddelio a ganiateir

(1)Ni chaiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ddelio â’r contract meddiannaeth, yr annedd nac unrhyw ran o’r annedd ac eithrio—

(a)mewn ffordd a ganiateir gan y contract, neu

(b)yn unol â gorchymyn eiddo teuluol (gweler adran 251).

(2)Ni chaiff cyd-ddeiliad contract ddelio â’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract meddiannaeth (nac â’r contract meddiannaeth, yr annedd nac unrhyw ran o’r annedd), ac eithrio—

(a)mewn ffordd a ganiateir gan y contract, neu

(b)yn unol â gorchymyn eiddo teuluol.

(3)Os yw deiliad y contract yn gwneud unrhyw beth sy’n torri is-adran (1), neu os yw cyd-ddeiliad contract yn gwneud unrhyw beth sy’n torri is-adran (2)—

(a)nid yw’r trafodiad yn rhwymo’r landlord, a

(b)mae deiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract yn torri’r contract (er nad yw’r trafodiad yn rhwymo’r landlord).

(4)Mae “delio” yn cynnwys—

(a)creu tenantiaeth, neu greu trwydded sy’n rhoi’r hawl i feddiannu’r annedd;

(b)trosglwyddo;

(c)morgeisio neu arwystlo mewn ffordd arall.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

58Delio, a chydsyniad y landlord

(1)Pan na fo teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i ddeiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract ddelio ag unrhyw beth a grybwyllir yn adran 57(1) neu (2) oni chafwyd cydsyniad y landlord, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

(2)Nid yw adran 19(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 (p. 36) (effaith cyfamodau i beidio ag aseinio etc. heb gydsyniad) yn gymwys i denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth.

Contractau isfeddiannaeth

59Contractau isfeddiannaeth: dehongli

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae “contract isfeddiannaeth” yn gontract meddiannaeth—

(a)a wneir gyda landlord sy’n ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth, a

(b)sy’n ymwneud â’r annedd i gyd neu ran o’r annedd y mae’r contract hwnnw yn berthnasol iddi.

(3)Ystyr “isddeiliad” yw deiliad y contract o dan y contract isfeddiannaeth.

(4)Ystyr “prif landlord” yw’r landlord o dan y prif gontract.

60Nid yw contract isfeddiannaeth byth yn cael effaith fel trosglwyddiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn gwneud contract isfeddiannaeth, a bod cyfnod y contract isfeddiannaeth yn dod i ben ar yr un pryd â chyfnod y prif gontract.

(2)Mae’r contract isfeddiannaeth yn cael effaith fel contract isfeddiannaeth (ac nid fel trosglwyddiad i’r isddeiliad).

61Methiant i gydymffurfio ag amodau a osodir gan y prif landlord

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn caniatáu i ddeiliad y contract ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gyda chydsyniad y prif landlord.

(2)Os yw’r prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau (gweler adran 84), cyn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gyda pherson rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r person hwnnw o’r amodau hynny.

(3)Os nad yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) ac yr ymrwymir i gontract isfeddiannaeth, mae deiliad y contract i’w drin fel pe bai wedi cyflawni tor contract ymwrthodol o’r contract isfeddiannaeth (gweler adran 154).

(4)Os yw’r prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau ac yr ymrwymir i gontract isfeddiannaeth—

(a)mae adran 32 i’w darllen mewn perthynas â’r contract hwnnw fel pe bai’n darparu (yn ychwanegol at y gofynion eraill yn yr adran honno) fod yn rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o’r contract isfeddiannaeth nodi’r amodau a osodir gan y prif landlord, a

(b)mae adran 37 i’w darllen mewn perthynas â’r contract hwnnw fel pe bai’n darparu (yn ychwanegol at y darpariaethau eraill yn yr adran honno)—

(i)yn is-adran (1), y caiff yr is-ddeiliad wneud cais i’r llys am ddatganiad bod y datganiad ysgrifenedig yn nodi amod yn anghywir neu’n nodi amod na chafodd ei gosod gan y prif landlord,

(ii)bod gan y prif landlord hawl i fod yn barti i’r achos ar y cais, a

(iii)y caiff y llys, os yw’n fodlon bod y naill neu’r llall o’r seiliau yn is-baragraff (i) wedi ei phrofi, wneud datganiad yn nodi’r amod cywir neu, yn ôl y digwydd, y caiff ddatgan nad yw’r amod yn amod a osodwyd gan y prif landlord.

(5)Nid yw contract isfeddiannaeth wedi ei wneud yn unol â’r prif gontract ond oherwydd—

(a)bod y prif landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, a

(b)na chydymffurfir â’r amodau.

(6)Mewn achos o’r fath caiff y prif landlord ddewis trin y contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol sydd â’r nodweddion a ganlyn—

(a)mae’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontract safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori heb eu haddasu,

(b)nid oes effaith i unrhyw delerau yn y contract diogel neu’r contract safonol cyfnod penodol sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny, ac

(c)fel arall, mae telerau’r contract safonol cyfnodol yr un fath â thelerau’r contract diogel neu’r contract safonol cyfnod penodol.

(7)Os yw’r prif landlord yn dewis ei drin fel contract safonol cyfnodol o dan is-adran (6), rhaid i’r prif landlord hysbysu deiliad y contract a’r isddeiliad am y dewis hwnnw.

(8)Dim ond ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud a chyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben y caiff y prif landlord roi hysbysiad o dan is-adran (7).

(9)Os yw’r prif landlord yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adrannau (7) a (8), mae’r contract i’w drin fel contract safonol cyfnodol sydd â’r nodweddion a grybwyllir yn is-adran (6) o ran unrhyw gwestiwn sy’n codi rhwng yr isddeiliad ac unrhyw berson heblaw deiliad y contract.

62Y prif gontract yn dod i ben

(1)Mae’r adran hon yn gymwys (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—

(a)os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw’r prif gontract yn dod i ben ar ôl dyddiad meddiannu’r prif gontract.

(2)Os yw’r contract isfeddiannaeth yn dal i fodoli yn union cyn i’r prif gontract ddod i ben⁠—

(a)mae’r contract isfeddiannaeth yn parhau (fel contract meddiannaeth nad yw’n gontract isfeddiannaeth), a

(b)mae hawliau a rhwymedigaethau deiliad y contract fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i’r prif landlord.

(3)Os yw’r isddeiliad yn gofyn i’r prif landlord am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract o dan adran 31(4), (ac nad yw is-adran (5) o’r adran hon yn gymwys), mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn adrannau 34(4) a 35(5) (methiant i ddarparu datganiad) yn cynnwys y person a oedd yn ddeiliad y contract o dan y prif gontract.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—

(a)prif landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol ag adran 61(7) a (8), mewn perthynas â chontract, a

(b)y contract yn parhau oherwydd is-adran (2)(a) o’r adran hon.

(5)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, at ddibenion adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig o’r contract) mae dyddiad meddiannu’r contract i’w drin—

(a)os rhoddir yr hysbysiad a grybwyllir yn adran 61(7) i’r isddeiliad cyn diwedd y prif gontract, fel y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben;

(b)os rhoddir yr hysbysiad i’r isddeiliad ar y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben neu ar ôl hynny, fel y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r prif gontract yn gontract safonol cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod penodol.

63Y prif gontract yn dod i ben: darpariaeth bellach

(1)Nid oes dim yn adran 62 yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y prif landlord o dan adran 61(6) (y pŵer i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol).

(2)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud y prif landlord yn atebol i’r isddeiliad mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth a gyflawnwyd gan ddeiliad y contract.

(3)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud yr isddeiliad yn atebol i’r prif landlord mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth gan yr isddeiliad a ddigwyddodd cyn i’r prif gontract ddod i ben.

(4)Ond gall y prif landlord fod yn atebol i’r isddeiliad, neu’r isddeiliad i’r prif landlord, i’r graddau y mae unrhyw dor contract isfeddiannaeth yn parhau ar ôl i’r prif gontract ddod i ben.

(5)Nid yw is-adrannau (3) a (4) yn effeithio ar unrhyw bŵer y mae’r contract isfeddiannaeth yn ei roi i’r prif landlord.

64Hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract pan fo isddeiliad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D, ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud, yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i D, neu hysbysiad arall yn hysbysu D bod rhaid iddo ildio meddiant.

(2)Ar yr un pryd ag y mae’n rhoi hysbysiad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i D, rhaid i landlord D roi hysbysiad i’r isddeiliad—

(a)sy’n datgan ei fod yn bwriadu gwneud hawliad meddiant yn erbyn D, a

(b)sy’n pennu’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad.

65Gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)os yw landlord D yn gwneud hawliad meddiant yn erbyn D ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud.

(2)Yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, caiff landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn yr isddeiliad (“I”) (“gorchymyn adennill meddiant estynedig”); ond ni chaniateir gwneud cais o dan yr is-adran hon oni bai bod—

(a)y gofynion a ddynodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni, neu

(b)y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion hynny.

(3)Mae’r gofynion fel a ganlyn—

(a)rhaid i landlord D fod wedi rhoi copi o’r hysbysiad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) o adran 64 i I yn unol ag is-adran (2) o’r adran honno, a

(b)ar yr un pryd, rhaid i landlord D fod wedi rhoi hysbysiad i I—

(i)o fwriad landlord D i wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, a

(ii)o hawl I i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad yn erbyn D.

(4)Pan ganiateir i landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I, mae gan I hawl i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad meddiant yn erbyn D (ni waeth pa un a yw landlord D yn gwneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ai peidio).

(5)Ni chaiff y llys ystyried cais landlord D am orchymyn adennill meddiant estynedig onid yw wedi penderfynu gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn D.

(6)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I oni bai y byddai’r llys, pe byddai D wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn I, wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I.

66Gwahardd deiliad y contract ar ôl cefnu ar gontractau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw deiliad contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a

(b)bod yr isddeiliad (“I”) yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(2)Caiff I weithredu i ddod â’r prif gontract i ben yn unol â’r adran hon.

(3)Rhaid i I roi hysbysiad i D—

(a)yn datgan bod I yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i D hysbysu I mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw’n ystyried ei fod yn barti i un o’r contractau hynny, neu i’r ddau ohonynt, ac

(c)yn hysbysu D y caniateir i’r prif gontract gael ei derfynu ar ôl y cyfnod rhybuddio ac y caniateir i’w hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract isfeddiannaeth gael eu trosglwyddo i landlord D.

(4)Rhaid i I roi copi o’r hysbysiad i landlord D.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i I wneud y cyfryw ymholiadau sy’n angenrheidiol i’w fodloni ei hun nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff I, os yw wedi ei fodloni fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn—

(a)sy’n dod â’r prif gontract i ben, a

(b)bod hawliau a rhwymedigaethau D fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth i’w trosglwyddo i landlord D yn unol ag adrannau 62 a 63.

(7)Ni chaiff y llys wrando ar gais I o dan is-adran (6) os yw I wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (4); ond os yw’n ystyried bod hynny’n rhesymol caiff y llys hepgor y gofyniad hwnnw.

(8)Mae gan landlord D hawl i fod yn barti i achos ar gais a wneir gan I o dan is-adran (6).

(9)Os yw’r llys yn fodlon nad yw D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth, caiff wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano o dan is-adran (6); ac os yw’n gwneud hynny rhaid iddo bennu’r dyddiad y daw’r prif gontract i ben.

(10)Ond ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan is-adran (9)—

(a)os yw landlord D yn barti i’r achos,

(b)os yw landlord D yn haeru y byddai’r llys wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I, pe byddai D wedi gwneud cais am orchymyn o’r fath mewn hawliad meddiant a wnaed gan D yn erbyn I, ac

(c)os yw’r llys yn fodlon y byddai wedi gwneud y gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I yn yr amgylchiadau hynny.

(11)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i D.

67Rhwymedïau’r deiliad contract sydd wedi ei wahardd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn yn erbyn D o dan adran 66(9).

(2)Cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gorchymyn, caiff D wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (3) am orchymyn a datganiad o dan is-adran (4)(a).

(3)Y seiliau yw—

(a)bod I wedi methu â rhoi hysbysiad i D o dan adran 66(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 66(5);

(b)bod D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract neu’r contract isfeddiannaeth neu’r ddau ohonynt a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 66(3);

(c)nad oedd gan I, pan wnaeth gais i’r llys, seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod D yn ystyried nad oedd yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.

(4)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi, caiff—

(a)dadwneud ei orchymyn o dan adran 66(9) drwy orchymyn, a gwneud datganiad bod y prif gontract yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

68Y pŵer i amrywio cyfnodau sy’n ymwneud â gwahardd ar ôl achos o gefnu ar gontract

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 66(11) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 67(2) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.

Trosglwyddo

69Ffurf trosglwyddiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r canlynol (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—

(a)trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract;

(b)trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth.

(2)Rhaid i’r trosglwyddiad gael ei lofnodi neu ei gyflawni gan bob un o’r partïon i’r trosglwyddiad.

(3)Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r trosglwyddiad, rhaid i’r trosglwyddiad hefyd gael ei lofnodi neu ei gyflawni gan y landlord.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).

(5)Nid yw trosglwyddiad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael unrhyw effaith os nad yw’n cydymffurfio ag is-adran (2) ac, os yw’n gymwys, is-adran (3).

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i drosglwyddiad yn unol â theler sydd wedi ei gynnwys yn y contract o dan adran 139 neu 142 (trosglwyddiadau penodol o gontractau safonol cyfnod penodol).

70Effaith trosglwyddiad awdurdodedig

(1)Os yw contract meddiannaeth yn cael ei drosglwyddo gan ddeiliad y contract i berson (“P”) yn unol â’r contract ac adran 69, ar y dyddiad trosglwyddo—

(a)bydd gan P hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad y contract o dan y contract, a

(b)ni fydd gan ddeiliad y contract hawl i unrhyw hawliau, a bydd yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y contract.

(2)Os yw hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i berson (“P”) yn unol â’r contract ac adran 69, ar y dyddiad trosglwyddo—

(a)bydd gan P hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract o dan y contract, a

(b)ni fydd gan gyd-ddeiliad y contract hawl i unrhyw hawliau, a bydd yn peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaethau o dan y contract.

(3)Mae is-adran (2)(a) yn ddarostyngedig i unrhyw deler sydd wedi ei gynnwys yn y contract oherwydd adran 141(3) neu 142(3) (contractau safonol cyfnod penodol: trosglwyddiadau o fuddiant cyd-ddeiliad contract).

(4)Nid oes dim yn is-adran (1)(b) na (2)(b) yn dileu unrhyw hawl nac yn ildio unrhyw atebolrwydd sy’n cronni cyn y dyddiad trosglwyddo.

(5)Y dyddiad trosglwyddo yw’r dyddiad y mae deiliad y contract a P yn cytuno arno fel y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn cael effaith.

71Effaith trosglwyddiad heb ei awdurdodi

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract i berson (“P”) nad yw’n unol â’r contract, a

(b)trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth i berson (“P”), nad yw’n unol â’r contract.

(2)Os yw’r landlord yn derbyn taliadau oddi wrth P mewn perthynas â meddiannaeth P o’r annedd, ar adeg—

(a)pan fo’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn gwybod nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract, neu

(b)pan ddylai’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) wybod yn rhesymol nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract,

bydd y trosglwyddiad yn rhwymo’r landlord o’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(3)Mae adran 70 yn gymwys—

(a)fel pe bai’r trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract ac adran 69, a

(b)fel pe bai’r dyddiad trosglwyddo oedd y diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(4)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff taliadau eu derbyn gyntaf fel y disgrifir yn is-adran (2).

(5)Nid yw is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol—

(a)yn cymryd camau i ddod â’r contract meddiannaeth i ben, neu

(b)yn dod ag achos llys i droi P allan fel tresmaswr neu’n dangos bwriad i drin P fel tresmaswr mewn unrhyw ffordd arall.

(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at drosglwyddiad yn cynnwys trosglwyddiad honedig nad yw’n cydymffurfio ag adran 69.

72Gweithredoedd a chyfamodau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gontractau meddiannaeth sy’n denantiaethau.

(2)Nid yw adran 52 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (rhaid trosglwyddo tir drwy weithred) yn gymwys i drosglwyddiad o’r contract.

(3)Nid yw Deddf Landlord a Thenant (Cyfamodau) 1995 (p. 30) yn gymwys i—

(a)trosglwyddiad gan ddeiliad contract o unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn adran 57(1), neu gan gyd-ddeiliad contract o unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn adran 57(2), neu

(b)trosglwyddiad a gâi ei drin o dan adran 28(6)(b) o’r Ddeddf honno fel aseiniad o’r annedd.

Olynu

73Olynu yn dilyn marwolaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys yn dilyn marwolaeth yr unig ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adran 139(2), sy’n ymwneud â chontractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth benodol ynghylch trosglwyddiad yn dilyn marwolaeth unig ddeiliad contract).

(2)Os un person yn unig sy’n gymwys i olynu deiliad y contract mae’r person hwnnw yn olynu i’r contract.

(3)Os oes mwy nag un person yn gymwys i olynu deiliad y contract, mae’r person a nodir yn unol ag adran 78 yn olynu i’r contract.

74Personau sy’n gymwys i olynu

(1)Mae person yn gymwys i olynu deiliad y contract os yw’r person hwnnw—

(a)yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract neu’n olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract, a

(b)heb ei eithrio gan is-adran (3) na (4).

(2)Ond os oedd deiliad y contract yn olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, nid oes unrhyw berson yn gymwys i’w olynu.

(3)Mae person wedi ei eithrio os nad yw wedi cyrraedd 18 oed ar adeg marwolaeth deiliad y contract.

(4)Mae person wedi ei eithrio os oedd, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract, yn meddiannu’r annedd neu ran ohoni o dan gontract isfeddiannaeth.

(5)Nid yw person wedi ei eithrio gan is-adran (4)—

(a)os yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract, neu’n olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract sy’n bodloni’r amod aelod o’r teulu yn adran 76(2) oherwydd adran 250(1)(a) neu (b) (priod, partner sifil etc.), a

(b)os daeth y contract isfeddiannaeth yr oedd yn meddiannu’r annedd neu ran ohoni oddi tano i ben cyn marwolaeth deiliad y contract.

75Olynydd â blaenoriaeth

(1)Mae person yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract—

(a)os yw—

(i)yn briod neu’n bartner sifil i ddeiliad y contract, neu

(ii)os yw’n byw gyda deiliad y contract fel pe baent yn briod neu’n bartneriaid sifil, a

(b)os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract.

(2)Ond nid oes unrhyw berson yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.

76Olynydd wrth gefn: aelod o’r teulu

(1)Mae person yn olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract os nad yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract ac—

(a)os yw’n bodloni’r amod aelod o’r teulu,

(b)os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract, ac

(c)os yw’n bodloni’r amod aelod o’r teulu oherwydd adran 250(1)(c) (aelodau o’r teulu heblaw priod, partner sifil etc.), ei fod hefyd yn bodloni’r amod preswyliad sylfaenol.

(2)Mae person yn bodloni’r amod aelod o’r teulu os yw’n aelod o deulu deiliad y contract.

(3)Mae person yn bodloni’r amod preswyliad sylfaenol os oedd, drwy gydol y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract—

(a)yn meddiannu’r annedd, neu

(b)yn byw gyda deiliad y contract.

(4)Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn is-adrannau (2) a (3)(b) yn cynnwys y person a olynwyd gan ddeiliad y contract.

77Olynydd wrth gefn: gofalwr

(1)Mae person yn olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract os nad yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract ac—

(a)os yw’n bodloni’r amod gofalwr,

(b)os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract, ac

(c)os yw’n bodloni’r amod preswyliad gofalwr.

(2)Mae person yn bodloni’r amod gofalwr os oedd, ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract, yn ofalwr mewn perthynas â—

(a)deiliad y contract, neu

(b)aelod o deulu deiliad y contract a oedd, ar adeg darparu’r gofal, yn byw gyda deiliad y contract.

(3)Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn is-adran (2) yn cynnwys y person a olynwyd gan ddeiliad y contract.

(4)Mae person yn bodloni’r amod preswyliad gofalwr—

(a)os yw’n bodloni’r amod preswyliad sylfaenol yn adran 76(3) a (4), a

(b)os nad oedd gan y person, pan fu farw deiliad y contract, hawl i feddiannu unrhyw annedd arall fel cartref.

(5)Ystyr “gofalwr” yw person—

(a)sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal sylweddol i berson arall yn rheolaidd, a

(b)nad yw’n darparu neu na fydd yn darparu’r gofal hwnnw oherwydd contract cyflogaeth neu unrhyw gontract arall ag unrhyw berson.

(6)Nid yw person yn darparu gofal oherwydd contract ond am fod bwyd neu lety yn cael eu rhoi iddo, neu ond oherwydd y gall ddod yn gymwys i olynu fel olynydd wrth gefn.

78Mwy nag un olynydd cymwys

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo mwy nag un person yn gymwys i olynu deiliad y contract.

(2)Os yw un o’r personau yn olynydd â blaenoriaeth, mae’r olynydd â blaenoriaeth yn olynu i’r contract.

(3)Os yw dau neu ragor o’r personau yn olynwyr â blaenoriaeth, y person (neu’r personau) sy’n olynu i’r contract yw—

(a)yr olynydd (neu’r olynwyr) â blaenoriaeth sydd wedi ei ddethol (neu eu dethol) drwy gytundeb rhwng yr olynwyr â blaenoriaeth, neu

(b)os ydynt yn methu â chytuno (neu’n methu â hysbysu’r landlord o gytundeb) o fewn cyfnod rhesymol, pa un bynnag ohonynt y mae’r landlord yn ei ddethol.

(4)Os yw’r holl bersonau yn olynwyr wrth gefn, y person (neu’r personau) sy’n olynu i’r contract yw—

(a)y person (neu’r personau) sydd wedi ei ddethol (neu eu dethol) drwy gytundeb rhwng yr olynwyr wrth gefn, neu

(b)os ydynt yn methu â chytuno (neu’n methu â hysbysu’r landlord o gytundeb) o fewn cyfnod rhesymol, pa un bynnag ohonynt y mae’r landlord yn ei ddethol.

(5)Pan fo’r landlord yn dethol o dan is-adran (3)(b), caiff olynydd â blaenoriaeth nad yw’n cael ei ddethol apelio i’r llys yn erbyn detholiad y landlord.

(6)Pan fo’r landlord yn dethol o dan is-adran (4)(b), caiff olynydd wrth gefn nad yw’n cael ei ddethol apelio i’r llys yn erbyn detholiad y landlord.

(7)Rhaid gwneud cais am apêl o dan is-adran (5) neu (6) cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn hysbysu’r person nad yw wedi ei ddethol.

(8)Rhaid i’r llys ddyfarnu’r apêl ar sail ei rinweddau (ac nid drwy adolygiad).

79Effaith olyniaeth

(1)Mae person sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 73(2) neu adrannau 73(3) a 78(2) yn dod yn ddeiliad y contract ar y dyddiad perthnasol.

(2)Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adrannau 73(3) a 78(3) neu (4) yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad perthnasol, a

(b)y dyddiad y deuir i gytundeb neu’r diwrnod y mae’r landlord yn dethol rhywun.

(3)Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth yn dilyn apêl o dan adran 78(5) neu (6) yn erbyn detholiad y landlord yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad perthnasol, a

(b)y diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

(4)Y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y byddai’r contract wedi dod i ben o dan adran 155 pe na byddai unrhyw un yn gymwys i olynu i’r contract.

(5)Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben pan fydd person (neu bersonau) yn dod yn ddeiliad y contract o dan is-adran (2) neu (3)—

(a)nid yw’r olynwyr perthnasol i’w trin fel tresmaswyr mewn perthynas â’r annedd, a

(b)at ddibenion unrhyw atebolrwydd o dan y contract, mae’r olynwyr perthnasol i’w trin fel pe baent yn gyd-ddeiliaid contract o dan y contract.

(6)“Yr olynwyr perthnasol” yw’r personau—

(a)sy’n gymwys i olynu deiliad y contract a fu farw, a

(b)sy’n byw yn yr annedd.

80Amnewid olynydd ar ôl terfynu’n gynnar

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo person (“O”) yn olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 78(2) (olynwyr â blaenoriaeth),

(b)pan fo O, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â marwolaeth y deiliad contract blaenorol, yn rhoi hysbysiad o dan ddarpariaeth hysbysiad deiliad contract ei fod yn bwriadu terfynu’r contract, neu’n cytuno â’r landlord y dylai’r contract ddod i ben, ac

(c)pan fyddai’r contract wedi dod i ben, oni bai am yr adran hon, yn unol â darpariaeth hysbysiad deiliad y contract neu â’r cytundeb.

(2)Nid yw’r contract yn dod i ben os oes un neu ragor o bersonau yn gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol.

(3)Os un person yn unig sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol, mae’r person hwnnw yn olynu i’r contract.

(4)Os oes mwy nag un person yn gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol, mae’r person a nodir yn unol ag adran 78(4) yn olynu i’r contract.

(5)Dyfernir a oes person sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol drwy gymhwyso adran 74 mewn perthynas â’r deiliad contract blaenorol; ond mae O i’w drin fel pe na bai’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “y deiliad contract blaenorol” (“the preceding contract-holder”) yw’r deiliad contract yr olynodd O i’r contract o ganlyniad i’w farwolaeth, ac

  • ystyr “darpariaeth hysbysiad deiliad y contract” (“contract-holder’s notice provision”) yw adran 163 neu 168 (hysbysiad deiliad y contract i derfynu contract diogel neu gontract safonol cyfnodol) neu gymal terfynu deiliad y contract (o dan gontract safonol cyfnod penodol).

81Effaith amnewid olynydd

(1)Mae person sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adran 80(3) yn dod yn ddeiliad y contract ar y dyddiad perthnasol.

(2)Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth o dan adrannau 80(4) a 78(4) yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) o dan y contract ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad perthnasol, a

(b)y diwrnod y deuir i gytundeb neu’r diwrnod y mae’r landlord yn gwneud detholiad.

(3)Mae person (neu bersonau) sy’n olynu i gontract meddiannaeth yn dilyn apêl o dan adran 78(6) yn erbyn detholiad y landlord yn dod yn ddeiliad y contract (neu yn dod yn ddeiliaid y contract) ar ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad perthnasol, a

(b)y diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

(4)Y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y byddai’r contract wedi dod i ben, oni bai am adran 80(2).

(5)Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben pan fydd person (neu bersonau) yn dod yn ddeiliad y contract o dan is-adran (2) neu (3)—

(a)nid yw’r olynwyr perthnasol i’w trin fel tresmaswyr mewn perthynas â’r annedd, a

(b)at ddibenion unrhyw atebolrwydd o dan y contract, mae’r olynwyr perthnasol i’w trin fel pe baent yn gyd-ddeiliaid contract o dan y contract.

(6)“Yr olynwyr perthnasol” yw personau—

(a)sy’n gymwys i olynu deiliad y contract a fu farw (ac y digwyddodd yr olyniaeth o dan adran 78(2) o ganlyniad i’w farwolaeth), a

(b)sy’n byw yn yr annedd.

82Hysbysiad o hawliau o dan adran 80

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord o dan gontract meddiannaeth—

(a)yn derbyn hysbysiad o dan ddarpariaeth hysbysiad deiliad contract, neu

(b)yn cytuno â deiliad y contract i ddod â’r contract i ben,

yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn adran 80(1)(a) a (b).

(2)Rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn derbyn hysbysiad O neu (yn ôl y digwydd) â’r diwrnod y gwneir y cytundeb, roi hysbysiad i—

(a)meddianwyr yr annedd (ac eithrio O), a

(b)unrhyw olynwyr posibl nad ydynt yn meddiannu’r annedd, y mae eu cyfeiriad yn hysbys i’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, i unrhyw un ohonynt).

(3)Person sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol o dan adran 80 yw olynydd posibl.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)datgan bod O wedi rhoi hysbysiad ei fod yn bwriadu dod â’r contract i ben neu fod O a’r landlord wedi cytuno i ddod â’r contract i ben, a

(b)egluro effaith adran 80.

83Olyniaeth: dehongli

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at bwrpas dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth os olynodd i’r contract fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract mewn perthynas â’r contract meddiannaeth hwnnw a fu farw.

(3)Os yw deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, mae hefyd yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas ag—

(a)unrhyw gontract safonol cyfnodol sy’n dod i fodolaeth yn sgil adran 184(2) ar ddiwedd y cyfnod penodol, a

(b)oni bai bod y contract yn darparu fel arall, unrhyw gontract o dan adran 184(6).

(4)Os yw deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth a derfynir o dan adran 220 (achos o gefnu), mae hefyd yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas ag unrhyw gontract meddiannaeth y daw yn ddeiliad y contract oddi tano o ganlyniad i orchymyn o dan adran 222(3)(b) (darparu llety addas arall yn dilyn apêl).

(5)Mae deiliad contract y trosglwyddir contract meddiannaeth iddo drwy neu yn unol â gorchymyn eiddo teuluol yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract os oedd y person y trosglwyddwyd y contract oddi wrtho yn olynydd o’r fath.

(6)Mae deiliad contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â chontract meddiannaeth os oedd ei drin fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn yn amod o ran cydsynio i drafodiad yn ymwneud â’r contract.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os yw, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae contract diogel (“y contract cyntaf”) yn dod i ben—

(a)deiliad y contract o dan y contract cyntaf yn dod yn ddeiliad contract o dan gontract diogel arall (“yr ail gontract”), a

(b)naill ai’r annedd neu’r landlord yr un fath o dan yr ail gontract ag o dan y contract cyntaf.

(8)Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract cyntaf mae hefyd yn olynydd o’r fath mewn perthynas â’r ail gontract, oni bai bod yr ail gontract yn darparu fel arall.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill