Hawliau i ddelio â chontract meddiannaeth
57Dulliau o ddelio a ganiateir
(1)Ni chaiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ddelio â’r contract meddiannaeth, yr annedd nac unrhyw ran o’r annedd ac eithrio—
(a)mewn ffordd a ganiateir gan y contract, neu
(b)yn unol â gorchymyn eiddo teuluol (gweler adran 251).
(2)Ni chaiff cyd-ddeiliad contract ddelio â’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract meddiannaeth (nac â’r contract meddiannaeth, yr annedd nac unrhyw ran o’r annedd), ac eithrio—
(a)mewn ffordd a ganiateir gan y contract, neu
(b)yn unol â gorchymyn eiddo teuluol.
(3)Os yw deiliad y contract yn gwneud unrhyw beth sy’n torri is-adran (1), neu os yw cyd-ddeiliad contract yn gwneud unrhyw beth sy’n torri is-adran (2)—
(a)nid yw’r trafodiad yn rhwymo’r landlord, a
(b)mae deiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract yn torri’r contract (er nad yw’r trafodiad yn rhwymo’r landlord).
(4)Mae “delio” yn cynnwys—
(a)creu tenantiaeth, neu greu trwydded sy’n rhoi’r hawl i feddiannu’r annedd;
(b)trosglwyddo;
(c)morgeisio neu arwystlo mewn ffordd arall.
(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
58Delio, a chydsyniad y landlord
(1)Pan na fo teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i ddeiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract ddelio ag unrhyw beth a grybwyllir yn adran 57(1) neu (2) oni chafwyd cydsyniad y landlord, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.
(2)Nid yw adran 19(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 (p. 36) (effaith cyfamodau i beidio ag aseinio etc. heb gydsyniad) yn gymwys i denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth.