Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Cynlluniau blaendal

45Gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal

(1)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn talu blaendal (neu os yw person arall yn talu blaendal ar ei ran), rhaid ymdrin â’r blaendal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.

(2)Cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r blaendal yn cael ei dalu, rhaid i’r landlord—

(a)cydymffurfio â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig, a

(b)rhoi’r wybodaeth ofynnol i ddeiliaid y contract (ac i unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran).

(3)Y cyfryw wybodaeth a gaiff ei rhagnodi yw’r wybodaeth ofynnol, sy’n ymwneud ag—

(a)y cynllun blaendal awdurdodedig sy’n gymwys,

(b)cydymffurfiaeth y landlord â gofynion cychwynnol y cynllun, ac

(c)gweithrediad y Bennod hon, gan gynnwys hawliau deiliad y contract (a hawliau unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran) mewn perthynas â’r blaendal.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

46Cynlluniau blaendal: darpariaeth bellach

(1)Mae Atodlen 5 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau blaendal.

(2)Mae adrannau 177 a 198 yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â gofynion penodol yn ymwneud â thalu sicrwydd neu’n ymwneud â chynlluniau blaendal.

47Cynlluniau blaendal: dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “blaendal” (“deposit”) yw arian sy’n cael ei dalu fel sicrwydd;

  • ystyr “cynllun blaendal awdurdodedig” (“authorised deposit scheme”) yw cynllun blaendal sydd mewn grym yn unol â threfniadau o dan baragraff 1 o Atodlen 5 (ac mae i “cynllun blaendal” (“deposit scheme”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw);

  • ystyr “gofynion cychwynnol” (“initial requirements”), mewn perthynas â chynllun blaendal awdurdodedig, yw gofynion y cynllun y mae’n rhaid i’r landlord gydymffurfio â hwy pan delir blaendal;

  • ystyr “sicrwydd” (“security”) yw sicrwydd ar gyfer cyflawni rhwymedigaethau deiliad y contract a chyflawni atebolrwydd deiliad y contract.

(2)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at flaendal, mewn perthynas ag adeg ar ôl i flaendal gael ei dalu, yn gyfeiriadau at swm sy’n cynrychioli’r blaendal.