Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Contractau a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddyntLL+C

17Contract a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddyntLL+C

(1)Mae contract meddiannaeth a wneir â landlord preifat yn gontract safonol oni bai bod y landlord, cyn neu ar adeg gwneud y contract, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n datgan bod y contract yn gontract diogel.

(2)Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract diogel.

(3)Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 17 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2