xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1TROSOLWG O’R DDEDDF

Trosolwg o weddill y Ddeddf

5Trosolwg o Rannau 3 i 9: gweithredu a therfynu contractau meddiannaeth

(1)Mae a wnelo Rhannau 3 i 9 â chontractau meddiannaeth.

(2)Mae Rhan 3 yn gymwys i bob contract meddiannaeth; mae’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â hawliau a rhwymedigaethau partïon i gontractau meddiannaeth.

(3)Nid yw Rhannau 4 i 8 ond yn gymwys i fathau penodol o gontract meddiannaeth—

(a)mae a wnelo Rhan 4 â rhwymedigaethau landlordiaid o ran cyflwr anheddau; mae Pennod 2 (sy’n nodi’r rhwymedigaethau) yn gymwys i bob contract meddiannaeth, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol am gyfnod o saith mlynedd neu ragor, ac mae Penodau 1 a 3 yn gymwys yn gyffredinol,

(b)nid yw Rhan 5 ond yn gymwys i gontractau diogel (ac nid yw adran 118 ond yn gymwys i gontractau diogel a wneir â landlord cymunedol),

(c)nid yw Rhan 6 ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnodol,

(d)nid yw Rhan 7 ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol, ac

(e)nid yw Rhan 8 ond yn gymwys i gontractau safonol â chymorth (sef contract meddiannaeth sy’n ymwneud â llety sy’n cael ei ddarparu mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth).

(4)Mae a wnelo Rhan 9 â therfynu contractau meddiannaeth; yn benodol, mae’n cynnwys—

(a)Penodau sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth, a

(b)Penodau sydd ond yn gymwys i fathau penodol o gontract meddiannaeth.

6Trosolwg o Rannau 10 ac 11: darpariaeth gyffredinol

(1)Mae a wnelo Rhan 10 â materion amrywiol sydd naill ai—

(a)yn atodol i Rannau 2 i 9, neu

(b)ynghylch cymhwyso a gweithredu’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 11 yn cynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch dehongli’r Ddeddf hon, a

(b)darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.