Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 9 – Terfynu Etc. Contractau Meddiannaeth

Pennod 7 – Terfynu Contractau Safonol Cyfnod Penodol
Adran 186 – Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod

428.Caiff landlord, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod penodol, roi hysbysiad i ddeiliad y contract, i’r perwyl fod yn rhaid iddo ildio meddiant ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad. Ni chaiff y dyddiad penodedig fod yn llai na chwe mis ar ôl dyddiad meddiannu’r contract hwnnw neu, os yw’r contract hwnnw yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall (gweler is-adran (4)), dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol (unwaith eto, gweler is-adran (4)). Yn ychwanegol at hynny, ni chaiff y dyddiad penodedig fod cyn diwrnod olaf y cyfnod penodol, na dim llai na dau fis ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad. Mae’r adran hon hefyd yn darparu y caiff landlord wneud hawliad meddiant ar y sail ei fod wedi cyflwyno’r hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd y cyfnod penodol. O dan adran 215, os darbwyllir y llys fod gofynion y sail wedi eu bodloni, rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant, yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau dynol deiliad y contract.

429.Felly, waeth pa mor hir yw’r cyfnod penodol, ni chaiff landlord wneud hawliad meddiant nes bod chwe mis wedi mynd heibio ers y dyddiad y daeth deiliad y contract â hawl i feddiannu’r annedd o dan y contract. Gall landlord wneud hawliad meddiant y diwrnod ar ôl i’r cyfnod penodol ddod i ben (oni bai bod y cyfnod penodol yn llai na chwe mis), ar yr amod bod yr hysbysiad gofynnol wedi ei roi i ddeiliad y contract o leiaf ddau fis cyn hynny.

430.Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r adran hon heb ei haddasu fel teler ym mhob contract safonol cyfnod penodol. Ond ni chaiff is-adrannau (2) a (4) eu hymgorffori mewn contract nad yw’n ymgorffori is-adran (1) fel teler, fodd bynnag (fel na all y landlord roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd y cyfnod), neu os yw o fath a restrir yn Atodlen 9.

Adran 187 – Ôl-ddyledion rhent difrifol ac Adran 188 – Cyfyngiadau ar adran 187

431.Mae effaith y darpariaethau hyn yr un fath yn union ag effaith y darpariaethau cyfatebol sy’n ymwneud â chontractau safonol cyfnodol (gweler y nodiadau ar gyfer adrannau 181 a 182).

Adran 189 – Cymal terfynu deiliad contract ac Adran 190 – Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

432.Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys cymal terfynu deiliad y contract. Mae hyn yn galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol. Pan fo cymal terfynu o’r fath wedi ei gynnwys, rhaid i ddeiliad y contract sy’n dymuno dibynnu arno er mwyn gadael y contract roi hysbysiad i’r landlord sy’n pennu’r dyddiad terfynu. Mae adrannau 190 i 193 yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori ym mhob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad contract. Mae adran 190 yn pennu na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn gynharach na phedair wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad. Mae’r darpariaethau hyn yn cael yr un effaith, i bob pwrpas, â’r darpariaethau sy’n ymwneud â hysbysiadau deiliaid contract o dan gontractau diogel a chontractau safonol cyfnodol.

Adran 191 – Adennill meddiant

433.Mae’r adran hon yn caniatáu i landlord adennill meddiant o’r annedd os digwydd i ddeiliad contract, ar ôl rhoi hysbysiad i’r landlord o dan gymal terfynu deiliad contract, fethu ag ildio meddiant ar y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad hwnnw.

Adran 192 – Cyfyngiadau ar adran 191

434.Mae’r adran hon yn gosod cyfyngiadau ar arfer y pŵer sydd gan y landlord i gael meddiant ar y sail yn adran 190. Os yw’r landlord yn ceisio meddiant ar y sail hon, rhaid iddo roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract gan ddatgan y sail, a hynny o fewn dau fis i’r dyddiad a bennwyd ar gyfer ildio meddiant gan ddeiliad y contract. Caiff y landlord wneud hawliad meddiant o’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, ond ni chaiff wneud hynny yn ddiweddarach na chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw.

Adran 193 – Terfynu contract o dan gymal terfynu deiliad y contract

435.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar neu cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddwyd o dan gymal terfynu deiliad y contract, y bydd y contract yn dod i ben ar y dyddiad hwnnw. Pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, bydd y contract yn dod i ben ar y dyddiad y mae deiliad y contract yn ildio meddiant.

436.Os yw deiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod hysbysu, yn tynnu’r hysbysiad a roddwyd o dan gymal terfynu deiliad y contract yn ôl, ac nad yw’r landlord yn gwrthwynebu hynny mewn ysgrifen o fewn cyfnod rhesymol, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith.

Adran 194 – Cymal terfynu’r landlord ac Adran 195 - Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

437.Gall contract safonol cyfnod penodol gynnwys cymal terfynu’r landlord. Mae’r cymal terfynu hwn yn galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol, drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract. Mae adrannau 195 i 201 yn ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir ym mhob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord. Mae adran 195 yn darparu na chaiff y dyddiad ar gyfer ildio meddiant a bennir yn yr hysbysiad fod yn hwyrach na dau fis ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

Adrannau 196 i 201 – Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord a threfniadau ar gyfer adennill meddiant

438.Gweler y nodiadau sy’n ymdrin ag adrannau 175 i 180 o ran y cyfyngiadau ar ddefnyddio hysbysiad landlord o dan gontract safonol cyfnodol, a’r trefniadau cysylltiedig ar gyfer adennill meddiant. Mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â defnyddio cymal terfynu landlord yr un fath, i bob pwrpas.