Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 4 - Cyflwr Anheddau

Pennod 1
Adran 89 – Cymhwyso’r Rhan

258.Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaethau ynglŷn â chyflwr yr anheddau. Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i gontractau diogel, contractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod sy’n llai na saith mlynedd. Mae adran 217 (hawliadau meddiant dialgar er mwyn osgoi rhwymedigaethau i atgyweirio etc.) yn rhoi disgresiwn i’r llys o ran gwneud gorchymyn adennill meddiant os bodlonir y llys fod y landlord wedi gwneud hawliad meddiant er mwyn osgoi cydymffurfio â’r rhwymedigaethau sydd yn Rhan 4.

Adran 90 – Contractau safonol cyfnod penodol: pennu hyd y cyfnod

259.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu a ddylid trin contractau safonol cyfnod penodol fel pe baent wedi eu gwneud am gyfnodau llai, neu fwy, na saith mlynedd. Mae hyn yn bwysig gan fod y rhwymedigaethau a bennir yn Rhan 4 yn gymwys i gontractau a wneir am gyfnod llai na saith mlynedd yn unig.

260.Pan fo contract safonol cyfnod penodol yn gontract am gyfnod o fwy na saith mlynedd, ond y caiff y landlord ei derfynu cyn diwedd y cyfnod hwnnw o saith mlynedd, mae is-adran (4) yn darparu y caiff ei drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod llai na saith mlynedd. Byddai sefyllfa o’r fath yn gymwys yn achos contract sydd â ‘chymal terfynu’r landlord’ y gellir ei arfer yn ystod saith mlynedd gyntaf y contract.

261.Os yw contract safonol cyfnod penodol yn rhoi’r opsiwn i ddeiliad y contract adnewyddu’r contract ar ddiwedd y cyfnod, ac y byddai’r cyfnod cychwynnol a’r cyfnod adnewyddedig, gyda’i gilydd, yn hwy na saith mlynedd pe byddai deiliad y contract yn penderfynu arfer yr opsiwn, mae isadran (5) yn darparu y caiff y contract ei drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod hwy na saith mlynedd. Ond os yw is-adran (4) yn gymwys (hynny yw, os yw’r contract yn cynnwys cymal terfynu y gellir ei arfer o fewn y saith mlynedd gyntaf), caiff y contract ei drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod byrrach na saith mlynedd.

Pennod 2 – Cyflwr Anheddau

262.Mae Pennod 2 yn gwneud darpariaethau ynglŷn â chyflwr anheddau. Mae adrannau 91, 92, 93, 95, 96, 97, 98 a 99 yn ddarpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth y mae Rhan 4 yn gymwys iddo (gweler Pennod 1).

Adran 91 – Rhwymedigaeth y landlord: annedd ffit i bobl fyw ynddi

263.Os yw’r adran hon wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, mae’n ofynnol fod landlord yn sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi drwy gydol cyfnod y contract. Mae adran 94 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â phenderfynu ynghylch ffitrwydd.

Adran 92 – Rhwymedigaeth y landlord o ran cyflwr yr annedd

264.Os yw’r adran hon wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, mae’n ofynnol fod landlord yn cadw’r annedd mewn cyflwr da. Mae hyn yn gymwys i strwythur a thu allan yr annedd yn ogystal â’r gosodiadau gwasanaeth (er enghraifft, mewn perthynas â dŵr, nwy, trydan, gwresogi a glanweithdra).

Adran 93 – Rhwymedigaethau o dan adrannau 91 a 92: atodol

265.Os yw’r adran hon wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, bydd yn ofynnol bod y landlord yn cywiro unrhyw ddifrod a achosir o ganlyniad i waith a gyflawnir er mwyn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau o ran sicrhau ffitrwydd i bobl fyw ac atgyweirio. At hynny, ni ddylai’r landlord osod unrhyw rwymedigaethau ar ddeiliad y contract os yw deiliad y contract yn gorfodi rhwymedigaethau’r landlord. Er enghraifft, ni chaiff y landlord gynnwys teler yn y contract sy’n ei gwneud yn ofynnol bod deiliad y contract yn talu am unrhyw atgyweiriadau a fyddai’n ofynnol yn sgil teler yn y contract sy’n ymgorffori adrannau 91 neu 92.

Adran 94 – Penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi

266.Rhaid i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau faterion penodol sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Gellir gwneud hyn drwy gyfeirio at y rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Tai 2004 (sy’n ymwneud â’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai). Caiff y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi gyfeirio at y mathau o beryglon a restrir mewn rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 2004 (gan gynnwys lleithder a llwydni, oerfel gormodol a pherygl tân), neu gyfeirio at faterion a allai godi oherwydd methiant i gydymffurfio â rhwymedigaeth i gadw’r annedd mewn cyflwr da. At hynny, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod gofynion ar landlordiaid er mwyn atal amgylchiadau a allai beri i annedd fod yn anaddas i bobl fyw ynddi. Caiff y rheoliadau hefyd ragnodi nad ystyrir bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi os nad yw landlord yn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau o’r fath.

Adran 95 – Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: cyffredinol

267.Os yw’r adran hon wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, ni fydd y rhwymedigaeth ar y landlord i sicrhau bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ac mewn cyflwr da yn gymwys os na fyddai modd i’r landlord gydymffurfio heb fynd i gostau afresymol. Ni fydd yn ofynnol ychwaith fod landlord yn ailadeiladu annedd a ddinistrir gan dân, storm neu lifogydd.

Adran 96 – Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: bai deiliad y contract

268.Os yw’r adran hon wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, nid oes rhwymedigaeth ar y landlord i sicrhau bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi nac i wneud atgyweiriadau, os yw’r annedd yn anffit i fyw ynddi, neu angen ei hatgyweirio, oherwydd gweithred, anwaith neu ddiffyg gofal ar ran deiliad y contract neu feddiannydd arall a ganiateir.

Adran 97 – Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: hysbysiad

269.Os yw adrannau 91 a 92 wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract heb eu haddasu, bydd rhwymedigaethau’r landlord i wneud atgyweiriadau yn gymwys tra pery’r contract. Ond os yw adran 97 wedi ei hymgorffori, ni fydd y rhwymedigaethau hynny (ar wahân i’r rhwymedigaeth i sicrhau bod eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo ar ddyddiad meddiannu’r contract) yn gymwys oni bai bod y landlord yn dod i wybod bod angen y gwaith neu’r atgyweiriadau.

270.Er mwyn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau i wneud atgyweiriadau, rhaid i’r landlord gyflawni’r gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol o fewn cyfnod rhesymol ar ôl dod i wybod bod eu hangen. Os bydd y landlord yn newid, trinnir y landlord newydd fel pe bai’n gwybod am yr angen i weithredu o’r dyddiad trosglwyddo, os oedd y landlord blaenorol yn gwybod bod angen gwneud gwaith neu atgyweiriadau cyn y newid.

271.Mae hyn yn gymwys i’r un graddau mewn sefyllfaoedd pan fo cyd-landlordiaid, fel bod ymwybyddiaeth o’r angen am waith neu atgyweiriadau gan unrhyw un o’r cyd-landlordiaid yn golygu y bydd y rhwymedigaethau o dan adrannau 91(1)(b) a 92(1) a (2) yn berthnasol i’r cyd-landlordiaid.

Adran 98 – Hawl y landlord i fynd i’r annedd

272.Os yw’r adran hon wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, mae hawl gan y landlord i fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol i archwilio neu wneud atgyweiriadau, ond rhaid iddo roi o leiaf 24 awr o rybudd i ddeiliad y contract cyn gwneud hynny (os bydd argyfwng, mae gan y landlord hawliau eraill o dan y gyfraith i fynd i’r eiddo heb roi hysbysiad). Fodd bynnag, ni fydd y landlord yn atebol am fethu â chydymffurfio â’r gofynion o ran ffitrwydd i bobl fyw ac atgyweiriadau os oes angen mynediad i ran o’r adeilad nad oes gan y landlord hawl i fynd iddi, ac na lwyddodd y landlord i gael mynediad iddi ar ôl gwneud ymdrech resymol.

Adran 99 – Hawliau meddianwyr a ganiateir i orfodi’r Bennod

273.Os yw’r adran hon wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, yn ychwanegol at ddeiliad y contract, caiff unrhyw un y caniateir iddo feddiannu’r annedd, sy’n dioddef o ganlyniad i fethiant y landlord i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau o ran ffitrwydd i bobl fyw ac atgyweiriadau, hefyd ddod ag achos llys yn erbyn y landlord yn ei hawl ei hun. Diffinnir ‘meddiannydd a ganiateir’ yn adran 244.

Pennod 3 – Amrywiol

274.Yn wahanol i Bennod 2, mae’r Bennod hon yn gymwys i bob contract meddiannaeth. Mae’n ymdrin â dau fater ar wahân sydd ill dau yn ymwneud â rhwymedigaethau landlordiaid a deiliaid contractau o ran cynnal a chadw ac atgyweirio anheddau.

Adran 100 - Cyflawni rhwymedigaethau atgyweirio yn llythrennol

275.Mae’r adran hon yn darparu, mewn unrhyw achos am dorri rhwymedigaethau i atgyweirio, i gynnal a chadw, i adnewyddu, i adeiladu neu i amnewid unrhyw eiddo, neu mewn achos am dorri rhwymedigaethau i gadw unrhyw annedd mewn cyflwr ffit i bobl fyw ynddi (gan gynnwys torri rhwymedigaethau’r landlord o dan un o delerau’r contract sy’n ymgorffori adrannau 91 a 92), y caiff y llys orchymyn i landlord ymgymryd ag atgyweiriadau er gwaethaf unrhyw reol o’r gyfraith gyffredin a allai, fel arall, gyfyngu ar hynny.

Adran 101 – Gwast ac ymddwyn fel tenant

276.Mae’r adran hon yn darparu nad yw’r cysyniadau cyfraith gyffredin o ‘wast’ ac ‘ymddwyn fel tenant’ wrth ddefnyddio annedd yn gymwys mewn perthynas â chontractau meddiannaeth. ‘Gwast’ yw difrod neu niwed a achosir gan weithredoedd neu esgeulustod ar ran deiliad y contract, tra bo ‘ymddwyn fel tenant’ yn golygu gofalu am yr eiddo o ddydd i ddydd (er enghraifft dadflocio sinc neu newid ffiws). Rhagwelir y gwneir darpariaeth atodol drwy reoliadau, a fydd, os caiff ei hymgorffori fel un o delerau’r contract, yn ei gwneud yn ofynnol fod deiliad contract yn gofalu am yr annedd ac unrhyw osodiadau a ffitiadau sydd ynddi.