Adran 21 – Effaith peidio ag ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac addasu darpariaethau sylfaenol
118.Os yw landlord a deiliad contract yn cytuno i addasu darpariaeth sylfaenol, neu i beidio â’i hymgorffori, mae adran 21 yn darparu ar gyfer addasu neu hepgor fel mater o drefn ddarpariaethau sylfaenol ac atodol eraill, y caniateir peidio â’u hymgorffori, neu eu haddasu, er mwyn rhoi effaith i’r cytundeb. Er enghraifft, os na chafodd y ddarpariaeth sylfaenol sy’n caniatáu gwneud hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol o dan gontract safonol cyfnodol (adran 181) ei hymgorffori, dylid hepgor hefyd y ddarpariaeth sylfaenol berthnasol sy’n cyfyngu ar ddefnyddio’r sail honno i feddiannu (yn adran 182). Mae’r adran hon yn sicrhau y byddai hynny’n digwydd.
119.Mae addasu fel mater o drefn, a hepgor ymgorffori fel mater o drefn, yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau â chytundeb i addasu neu beidio ag ymgorffori; ni ddylent arwain at addasu neu beidio ag ymgorffori unrhyw un o’r darpariaethau sylfaenol a restrir yn adran 20(3). Ystyr hynny yw, pe bai cytundeb i addasu neu i beidio ag ymgorffori darpariaeth sylfaenol, a bod hynny’n golygu na fyddai darpariaeth sylfaenol a restrir yn adran 20(3) yn cael ei hymgorffori, neu y byddai’n cael ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau, ni fyddai’r cytundeb i beidio ag ymgorffori’r ddarpariaeth sylfaenol, neu i ymgorffori’r ddarpariaeth honno ynghyd ag addasiadau (o dan adran (1) neu (2)), yn cael unrhyw effaith.
120.Gellir newid telerau sylfaenol contract meddiannaeth ar ôl gwneud y contract hefyd (cyfeirir at hyn yn y Ddeddf fel ‘amrywiad’). Mae terfynau, fodd bynnag, ar yr hawl hon ac mae’r terfynau’n amrywio rhwng contractau diogel (gweler Pennod 2 o Ran 5), contractau safonol cyfnodol (gweler Pennod 2 o Ran 6) a chontractau safonol cyfnod penodol (gweler Pennod 2 o Ran 7). Trafodir pob un o’r Penodau hynny ymhellach isod.