Os felly, pa fath o gontract meddiannaeth ydyw?
10.Gellir ateb y cwestiwn hwn drwy gyfeirio at Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf. Y ddwy brif ystyriaeth wrth ateb y cwestiwn hwn yw:
pwy yw’r landlord, a
yr hyn a gytunwyd rhwng y tenant neu’r trwyddedai (y cyfeirir ato yn y Ddeddf fel ‘deiliad y contract’) a’r landlord.
11.Fel rheol, er bod y Ddeddf yn cynnwys eithriadau, bydd contract meddiannaeth a wneir gyda ‘landlord cymunedol’ yn ‘gontract diogel’. Diffinnir ‘landlord cymunedol’ yn adran 9; y prif fathau o landlordiaid cymunedol yw awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a mathau eraill o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a darparwyr tai cymdeithasol preifat cofrestredig. Tenantiaeth ddiogel sy’n rhoi’r sicrwydd meddiannaeth (y cyfeirir ato weithiau fel ‘sicrwydd deiliadaeth’) cryfaf i ddeiliad y contract.
12.Fel rheol eto, ac yn ddarostyngedig i eithriadau, bydd contract meddiannaeth a wneir gyda ‘landlord preifat’ yn ‘gontract safonol’. Mae unrhyw landlord nad yw’n landlord cymunedol yn landlord preifat at ddibenion y Ddeddf.
13.Contractau ‘cyfnodol’ yw contractau diogel; golyga hyn y byddant yn treiglo o un cyfnod i’r llall (o wythnos i wythnos neu o fis i fis fel arfer). Gall contractau safonol fod naill ai’n rhai cyfnodol neu’n rhai a wneir am gyfnod penodol. Ar wahân i wahaniaethau sy’n ymwneud â sicrwydd meddiannaeth, ceir amryw o wahaniaethau rhwng contractau diogel a chontractau safonol (a rhwng contractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol); mae’r rhain i’w gweld drwy’r Ddeddf, ac fe’u hystyrir yn y sylwadau adran wrth adran yn y Nodiadau hyn.