Deddf Cymwysterau Cymru 2015

Cymwysterau blaenoriaethol

13Dyletswydd i lunio rhestr o gymwysterau blaenoriaethol

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru lunio ar y cyd restr o gymwysterau y mae’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni mewn cysylltiad â phob un ohonynt.

(2)Yr amod yw bod Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod sicrhau a chynnal hyder y cyhoedd yn y cymhwyster yn flaenoriaeth i Gymwysterau Cymru, oherwydd arwyddocâd y cymhwyster gan roi sylw i anghenion dysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.

(3)Caiff y rhestr wneud darpariaeth drwy gyfeirio at gymwysterau, neu ddisgrifiadau o gymhwyster.

(4)Rhaid cyhoeddi’r rhestr, ym mha ffordd bynnag y mae Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru yn cytuno arni.

(5)Caiff Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru adolygu’r rhestr ar y cyd ac, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol, ei diwygio.

(6)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol yn gyfeiriadau at gymhwyster sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr, neu at gymhwyster sydd o ddisgrifiad sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr;

(b)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn gyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol y mae penderfyniad o dan adran 14 yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef;

(c)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig yn gyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol nad yw penderfyniad o dan adran 14 yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef.

14Cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig

(1)Caiff Cymwysterau Cymru wneud penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â chymhwyster blaenoriaethol os yw’r amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni.

(2)Mae penderfyniad o dan yr adran hon yn benderfyniad sy’n pennu uchafswm nifer (naill ai un neu ragor) y ffurfiau ar y cymhwyster sydd i fod yn rhai y mae modd eu cymeradwyo o dan y Rhan hon ar unrhyw un adeg.

(3)Yr amod yw bod Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni, gan roi sylw i brif nodau Cymwysterau Cymru, ac i’r amcanion yn is-adran (4), ei bod yn ddymunol cyfyngu ar nifer y ffurfiau ar y cymhwyster a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru o dan y Rhan hon i’r uchafswm nifer a bennir yn y penderfyniad.

(4)Yr amcanion yw—

(a)osgoi anghysondeb rhwng ffurfiau gwahanol ar yr un cymhwyster (pa un ai drwy gyfeirio at lefel y cyrhaeddiad a ddangosir drwy ffurfiau gwahanol ar yr un cymhwyster, neu fel arall), a

(b)galluogi Cymwysterau Cymru i arfer dewis rhwng cyrff dyfarnu gwahanol, wrth ymrwymo i drefniadau o dan adran 15, a rhwng ffurfiau gwahanol ar gymhwyster, wrth roi cymeradwyaeth o dan adran 17.

(5)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi penderfyniad o dan yr adran hon.

(6)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 15 i 17 er mwyn sicrhau nad yw nifer y ffurfiau ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig a gymeradwyir ganddo o dan y Rhan hon yn fwy na’r uchafswm nifer a bennir yn y penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â’r cymhwyster.

(7)Os yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu gwneud penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â chymhwyster, rhaid iddo cyn gwneud hynny—

(a)hysbysu pob corff cydnabyddedig, ac unrhyw berson arall y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried y gellid disgwyl yn rhesymol fod ganddo buddiant yn y penderfyniad arfaethedig, am y cynnig, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir iddo gan y personau hynny mewn cysylltiad â’r cynnig.

(8)Caniateir i benderfyniad o dan yr adran hon gael ei ddirymu neu ei amrywio; ac mae darpariaethau blaenorol yr adran hon yn gymwys at ddibenion amrywio penderfyniad fel pe bai penderfyniad yn cael ei wneud.

15Pŵer i wneud trefniadau i ddatblygu cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig

(1)Caiff Cymwysterau Cymru ymrwymo i drefniadau gyda chorff dyfarnu y mae eu heffaith yn darparu i’r corff ddatblygu ffurf newydd ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig, gyda golwg ar gymeradwyaeth ragolygol i’r ffurf honno ar y cymhwyster o dan adran 16.

(2)Caiff y trefniadau wneud darpariaeth ynghylch, ymhlith pethau eraill—

(a)y meini prawf i’w bodloni gan y ffurf ar y cymhwyster sydd i’w datblygu;

(b)taliadau i’w gwneud gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’i datblygu.

(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwneud trefniadau o dan yr adran hon.

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.

(5)Rhaid i’r cynllun ddarparu ar gyfer gweithdrefn sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw.

(6)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.

16Cymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig a ddatblygir yn unol â threfniadau adran 15

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff dyfarnu wedi datblygu ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn unol â threfniadau o dan adran 15.

(2)Os cydnabyddir y corff dyfarnu mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, caiff wneud cais i Gymwysterau Cymru i’r ffurf ar y cymhwyster gael ei chymeradwyo o dan yr adran hon.

(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(4)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(5)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).

(6)At ddibenion y Rhan hon, dyfarnu ffurf ar gymhwyster yng Nghymru yw ei dyfarnu i bersonau a asesir mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

17Cymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn absenoldeb trefniadau adran 15

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru ffurf ar gymhwyster sy’n gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig, ond nad yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu ymrwymo i drefniadau mewn cysylltiad â hi o dan adran 15.

(2)Caiff Cymwysterau Cymru, ar gais gan gorff a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo ffurf ar y cymhwyster i’r corff o dan sylw ei dyfarnu yng Nghymru.

(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth o dan is-adran (2);

(b)ystyried gan Gymwysterau Cymru y ceisiadau hynny.

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.

(5)Rhaid i’r cynllun ddarparu ar gyfer gweithdrefn sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw.

(6)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.

(8)Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).

18Cymeradwyo cymwysterau blaenoriaethol anghyfyngedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud i Gymwysterau Cymru i ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig gael ei chymeradwyo gan gorff dyfarnu a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(4)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).