Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cymwysterau Cymru 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Deddf Cymwysterau Cymru 2015

2015 dccc 5

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu corff newydd o’r enw Cymwysterau Cymru; i ddarparu i Gymwysterau Cymru allu cydnabod cyrff sy’n gyfrifol am ddyfarnu cymwysterau penodol yng Nghymru a chymeradwyo cymwysterau penodol a ddyfernir yng Nghymru a chyflawni swyddogaethau penodol eraill; ac at ddibenion cysylltiedig.

[5 Awst 2015]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1TROSOLWG

1Trosolwg

(1)Mae’r adran hon yn drosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf.

(2)Mae Rhan 2—

(a)yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac (yn Atodlen 1) yn gwneud darpariaeth ynghylch ei aelodaeth a’i drefniadau llywodraethu,

(b)yn nodi prif nodau Cymwysterau Cymru, ac

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru, wrth arfer ei swyddogaethau, weithredu mewn ffordd y mae’n ystyried ei bod yn briodol at ddiben cyflawni’r nodau hynny.

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cydnabod gan Gymwysterau Cymru gyrff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru.

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru gymwysterau i’w dyfarnu yng Nghymru. Mae⁠—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru lunio rhestr o gymwysterau sydd i fod yn flaenoriaeth i Gymwysterau Cymru,

(b)yn galluogi Cymwysterau Cymru o dan amgylchiadau penodol i benderfynu y dylid cyfyngu ar nifer y ffurfiau ar y cymwysterau hynny a gymeradwyir ganddo (naill ai i un neu i fwy nag un),

(c)yn galluogi Cymwysterau Cymru i ymrwymo i drefniadau gyda chorff i ddatblygu ffurf newydd ar gymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru, pan fo wedi gwneud penderfyniad fel y’i disgrifir ym mharagraff (b) mewn cysylltiad â’r cymhwyster o dan sylw, a

(d)yn galluogi Cymwysterau Cymru i ystyried cymeradwyo cymhwyster i’w ddyfarnu yng Nghymru nad yw wedi ei gynnwys ar y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (a).

(5)Mae Rhan 5 yn galluogi Cymwysterau Cymru i ddynodi cymhwyster at ddiben galluogi i gwrs sy’n arwain ato gael ei gyllido gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru, neu ei ddarparu gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru.

(6)Mae Rhan 6—

(a)yn darparu mai dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi cymeradwyo neu ddynodi’r ffurf ar y cymhwyster y mae cwrs addysg neu hyfforddiant yn arwain ati y caniateir i’r cwrs gael ei gyllido gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru, neu ei ddarparu gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru, a

(b)yn gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar effaith yr amodau a osodir gan Ofqual, mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru; ac sy’n cyfyngu ar effaith yr amodau cydnabod a osodir gan Gymwysterau Cymru fel nad ydynt yn gymwys mewn cysylltiad â dyfarnu cymwysterau y tu allan i Gymru.

(7)Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch camau y caiff Cymwysterau Cymru eu cymryd os yw’n ystyried bod corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru wedi methu â chydymffurfio ag amod y mae’r gydnabyddiaeth o’r corff hwnnw, neu’r gymeradwyaeth i gymhwyster a ddyfernir ganddo, yn ddarostyngedig iddo.

(8)Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau eraill Cymwysterau Cymru, gan gynnwys—

(a)y pŵer i ddarparu gwasanaeth ymgynghori a gwasanaethau eraill ar sail fasnachol,

(b)y ddyletswydd i lunio datganiad polisi,

(c)sut y mae Cymwysterau Cymru i ymdrin â chwynion,

(d)ffioedd y caniateir i Gymwysterau Cymru eu codi, ac

(e)y ddyletswydd i roi sylw i egwyddorion penodol wrth gyflawni gweithgareddau rheoleiddiol.

(9)Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys nodi mynegai o dermau wedi eu diffinio a ddefnyddir yn y Ddeddf.

(10)Yn Rhan 9, mae adran 56 yn nodi ystyr y term “cymhwyster” fel y’i defnyddir yn y Ddeddf.

RHAN 2SEFYDLU A PHRIF NODAU CYMWYSTERAU CYMRU

2Sefydlu Cymwysterau Cymru

(1)Mae Cymwysterau Cymru wedi ei sefydlu fel corff corfforaethol.

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch Cymwysterau Cymru.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo staff ac eiddo i Gymwysterau Cymru.

3Prif nodau Cymwysterau Cymru

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i Gymwysterau Cymru weithredu mewn ffordd y mae’n ystyried ei bod yn briodol at ddiben cyflawni’r prif nodau a ganlyn—

(a)sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;

(b)hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

(2)Wrth ystyried yr hyn sy’n briodol at ddiben cyflawni ei brif nodau, mae’r materion y mae Cymwysterau Cymru i roi sylw iddynt yn cynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a)dymunoldeb hyrwyddo twf cynaliadwy yn economi Cymru;

(b)dymunoldeb hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys drwy argaeledd trefniadau asesu sy’n darparu ar gyfer asesu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac argaeledd cymwysterau sydd fel arall yn hyrwyddo neu’n hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg;

(c)ystod a natur y cymwysterau sydd ar gael ac ystod a natur eu trefniadau asesu;

(d)gofynion rhesymol cyflogwyr, sefydliadau addysg uwch a’r proffesiynau o ran addysg a hyfforddiant (gan gynnwys o ran safonau gofynnol cymhwysedd ymarferol);

(e)pa un a yw’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth y mae’n ofynnol eu dangos at ddiben penderfynu a yw cymhwyster i gael ei ddyfarnu i berson yn adlewyrchu’r wybodaeth gyfredol a’r arferion gorau cyfredol;

(f)pa un a yw cymwysterau yn dangos lefel o gyrhaeddiad sy’n gyson â’r hyn a ddangosir gan beth bynnag y mae Cymwysterau Cymru yn ei ystyried yn gymwysterau cyffelyb, pa un a’u dyfernir yn Ewrop neu rywle arall;

(g)pa un a ddarperir cymwysterau yn effeithlon ac er mwyn sicrhau gwerth am arian;

(h)priod rolau a chyfrifoldebau pob un o’r personau a ganlyn mewn cysylltiad â system gymwysterau Cymru (gan gynnwys drwy gyfeirio at gydweithredu rhwng y personau hynny, a pha mor effeithiol ydynt wrth gyflawni eu rolau)—

(i)cyrff dyfarnu, darparwyr dysgu, Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru;

(ii)unrhyw bersonau eraill sy’n cyflawni swyddogaethau y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol at ddiben system gymwysterau Cymru.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at system gymwysterau Cymru yn gyfeiriadau at y system, yn ei chyfanrwydd, y dyfernir cymwysterau drwyddi i bersonau a asesir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru at y diben hwn.

RHAN 3CYDNABOD CYRFF DYFARNU

Cyffredinol

4Cydnabod cyrff dyfarnu

(1)Caiff Cymwysterau Cymru gydnabod corff dyfarnu o dan ddarpariaethau’r Rhan hon.

(2)Mae Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau) yn gwneud darpariaeth i gorff a gydnabyddir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster wneud cais i Gymwysterau Cymru i ffurf ar y cymhwyster hwnnw gael ei chymeradwyo.

(3)Mae Rhan 5 (dynodi cymwysterau eraill) yn gwneud darpariaeth i gorff a gydnabyddir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster wneud cais i Gymwysterau Cymru i ffurf ar y cymhwyster hwnnw gael ei dynodi o dan adran 29.

Meini prawf cydnabod

5Dyletswydd i osod meini prawf cydnabod cyffredinol

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod cyffredinol”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol).

(2)Caiff y meini prawf cydnabod cyffredinol wneud darpariaeth wahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu.

6Pŵer i osod meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster

(1)Caiff Cymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 9 (cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwyster).

(2)Caiff y meini prawf wneud darpariaeth wahanol ar gyfer—

(a)disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu;

(b)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster.

7Diwygio meini prawf cydnabod cyffredinol a meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster

(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio—

(a)y meini prawf cydnabod cyffredinol;

(b)y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster.

(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r meini prawf, rhaid iddo—

(a)cyhoeddi’r meini prawf fel y’u diwygiwyd, a

(b)pennu pa bryd y mae’r diwygiadau i gael effaith.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (2)(b) beidio â rhagflaenu’r dyddiad y cyhoeddir y meini prawf diwygiedig.

Cydnabod cyrff dyfarnu

8Cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol

(1)Caiff corff dyfarnu wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael ei gydnabod yn gyffredinol yn gorff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru.

(2)Caiff y corff dyfarnu bennu yn ei gais gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’n dymuno cael ei gydnabod mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

(3)Os yw’r corff yn bodloni’r meini prawf cydnabod cyffredinol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 5, rhaid i Gymwysterau Cymru gydnabod y corff dyfarnu.

(4)Os nad yw’r corff yn bodloni’r holl feini prawf hynny caiff Cymwysterau Cymru, er hynny, os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gydnabod y corff.

(5)Wrth benderfynu a yw’n briodol cydnabod corff o dan is-adran (4), rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i—

(a)pa un a yw’r corff yn bodloni’r meini prawf cydnabod cyffredinol yn sylweddol,

(b)effaith ei fethiant i fodloni’r meini prawf hynny yn llawn, ac

(c)pa mor debygol ydyw o fodloni’r meini prawf yn llawn wedi hynny.

(6)Pan fo cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster wedi ei bennu gan gorff dyfarnu yn unol ag is-adran (2), nid yw cyfeiriadau at y meini prawf cydnabod cyffredinol yn is-adrannau (3) i (5) i gael eu trin fel pe baent yn cynnwys y meini prawf hynny i’r graddau y maent yn gymwys mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster a bennir.

(7)Pan fo corff dyfarnu wedi ei gydnabod o dan yr adran hon ac eithrio mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster a bennir ganddo yn unol ag is-adran (2), neu gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y mae cydnabyddiaeth o dan yr adran hon wedi ei hildio neu wedi ei thynnu’n ôl mewn cysylltiad â’i ddyfarnu, caiff wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster.

(8)Mae is-adrannau (2) i (6) yn gymwys at ddibenion cais o dan is-adran (7) fel pe bai’n gais o dan is-adran (1).

(9)Effaith cydnabod o dan yr adran hon yw bod y corff yn cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu cymwysterau yng Nghymru ac eithrio—

(a)y cymwysterau hynny y mae meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster yn gymwys mewn cysylltiad â hwy,

(b)unrhyw gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster a bennir yn unol ag is-adran (2), ac

(c)unrhyw gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y mae cydnabyddiaeth o dan yr adran hon wedi peidio â chael effaith mewn cysylltiad â’i ddyfarnu yn rhinwedd cael ei hildio neu ei thynnu’n ôl.

9Cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwyster

(1)Caiff corff dyfarnu wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y gosodir meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster mewn perthynas ag ef o dan adran 6.

(2)Os yw’r corff yn bodloni’r ddau o’r canlynol—

(a)y meini prawf cydnabod cyffredinol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 5, a

(b)y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster sy’n berthnasol mewn cysylltiad â’r cymhwyster a’r corff o dan sylw,

rhaid i Gymwysterau Cymru gydnabod y corff mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(3)Os nad yw’r corff yn bodloni’r holl feini prawf hynny caiff Cymwysterau Cymru, er hynny, os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gydnabod y corff mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(4)Wrth benderfynu a yw’n briodol cydnabod corff o dan is-adran (3), rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i—

(a)pa un a yw’r corff yn bodloni’n sylweddol y meini prawf y cyfeirir atynt yn is-adran (2),

(b)effaith ei fethiant i fodloni’r meini prawf hynny yn llawn, ac

(c)pa mor debygol ydyw o fodloni’r meini prawf hynny yn llawn wedi hynny.

(5)Effaith cydnabyddiaeth o dan yr adran hon, cyhyd â bod y corff yn cael ei gydnabod o dan adran 8, yw ei fod yn cael ei gydnabod hefyd mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster a bennir yn y gydnabyddiaeth o dan yr adran hon.

10Rheolau ynghylch ceisiadau am gydnabyddiaeth

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud rheolau ynghylch gwneud ceisiadau iddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff y rheolau wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Cânt wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys ceisiadau;

(b)y ffordd y mae ceisiadau i gael eu gwneud (gan gynnwys o ran unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais).

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r rheolau a wneir o dan yr adran hon.

11Darpariaeth bellach ynghylch cydnabyddiaeth

(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwrthod cais am gydnabyddiaeth a wneir o dan y Rhan hon, rhaid iddo roi datganiad i’r corff dyfarnu o dan sylw sy’n nodi ei resymau dros wrthod y cais.

(2)Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cydnabyddiaeth o dan y Rhan hon, gan gynnwys—

(a)cyfnod para’r gydnabyddiaeth;

(b)yr amodau y mae’r gydnabyddiaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt;

(c)ildio cydnabyddiaeth a thynnu cydnabyddiaeth yn ôl.

12Cydnabod: dehongli

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, cydnabyddir corff mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster⁠—

(a)os na osodir unrhyw feini prawf o dan adran 6 mewn cysylltiad â’r cymhwyster, os cydnabyddir y corff o dan adran 8 (ar yr amod nad yw’r cymhwyster yn un a bennir, neu o ddisgrifiad a bennir, gan y corff o dan adran 8(2) ac nad yw’n un y mae cydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad ag ef wedi peidio â chael effaith fel y’i nodir ym mharagraff 1(2) o Atodlen 3);

(b)os gosodir meini prawf o dan adran 6 mewn cysylltiad â’r cymhwyster, neu gymwysterau o’r disgrifiad hwnnw, os yw’r corff—

(i)yn cael ei gydnabod o dan adran 8, a

(ii)yn cael ei gydnabod o dan adran 9 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at gydnabyddiaeth yn gyfeiriadau at gydnabyddiaeth o dan y Rhan hon;

(b)mae cyfeiriadau at gorff cydnabyddedig yn gyfeiriadau at gorff dyfarnu a gydnabyddir o dan y Rhan hon.

(3)At ddibenion y Rhan hon, dyfarnu cymhwyster yng Nghymru yw ei ddyfarnu i bersonau a asesir mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU

Cymwysterau blaenoriaethol

13Dyletswydd i lunio rhestr o gymwysterau blaenoriaethol

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru lunio ar y cyd restr o gymwysterau y mae’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni mewn cysylltiad â phob un ohonynt.

(2)Yr amod yw bod Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod sicrhau a chynnal hyder y cyhoedd yn y cymhwyster yn flaenoriaeth i Gymwysterau Cymru, oherwydd arwyddocâd y cymhwyster gan roi sylw i anghenion dysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.

(3)Caiff y rhestr wneud darpariaeth drwy gyfeirio at gymwysterau, neu ddisgrifiadau o gymhwyster.

(4)Rhaid cyhoeddi’r rhestr, ym mha ffordd bynnag y mae Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru yn cytuno arni.

(5)Caiff Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru adolygu’r rhestr ar y cyd ac, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol, ei diwygio.

(6)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol yn gyfeiriadau at gymhwyster sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr, neu at gymhwyster sydd o ddisgrifiad sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr;

(b)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn gyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol y mae penderfyniad o dan adran 14 yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef;

(c)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig yn gyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol nad yw penderfyniad o dan adran 14 yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef.

14Cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig

(1)Caiff Cymwysterau Cymru wneud penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â chymhwyster blaenoriaethol os yw’r amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni.

(2)Mae penderfyniad o dan yr adran hon yn benderfyniad sy’n pennu uchafswm nifer (naill ai un neu ragor) y ffurfiau ar y cymhwyster sydd i fod yn rhai y mae modd eu cymeradwyo o dan y Rhan hon ar unrhyw un adeg.

(3)Yr amod yw bod Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni, gan roi sylw i brif nodau Cymwysterau Cymru, ac i’r amcanion yn is-adran (4), ei bod yn ddymunol cyfyngu ar nifer y ffurfiau ar y cymhwyster a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru o dan y Rhan hon i’r uchafswm nifer a bennir yn y penderfyniad.

(4)Yr amcanion yw—

(a)osgoi anghysondeb rhwng ffurfiau gwahanol ar yr un cymhwyster (pa un ai drwy gyfeirio at lefel y cyrhaeddiad a ddangosir drwy ffurfiau gwahanol ar yr un cymhwyster, neu fel arall), a

(b)galluogi Cymwysterau Cymru i arfer dewis rhwng cyrff dyfarnu gwahanol, wrth ymrwymo i drefniadau o dan adran 15, a rhwng ffurfiau gwahanol ar gymhwyster, wrth roi cymeradwyaeth o dan adran 17.

(5)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi penderfyniad o dan yr adran hon.

(6)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 15 i 17 er mwyn sicrhau nad yw nifer y ffurfiau ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig a gymeradwyir ganddo o dan y Rhan hon yn fwy na’r uchafswm nifer a bennir yn y penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â’r cymhwyster.

(7)Os yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu gwneud penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â chymhwyster, rhaid iddo cyn gwneud hynny—

(a)hysbysu pob corff cydnabyddedig, ac unrhyw berson arall y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried y gellid disgwyl yn rhesymol fod ganddo buddiant yn y penderfyniad arfaethedig, am y cynnig, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir iddo gan y personau hynny mewn cysylltiad â’r cynnig.

(8)Caniateir i benderfyniad o dan yr adran hon gael ei ddirymu neu ei amrywio; ac mae darpariaethau blaenorol yr adran hon yn gymwys at ddibenion amrywio penderfyniad fel pe bai penderfyniad yn cael ei wneud.

15Pŵer i wneud trefniadau i ddatblygu cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig

(1)Caiff Cymwysterau Cymru ymrwymo i drefniadau gyda chorff dyfarnu y mae eu heffaith yn darparu i’r corff ddatblygu ffurf newydd ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig, gyda golwg ar gymeradwyaeth ragolygol i’r ffurf honno ar y cymhwyster o dan adran 16.

(2)Caiff y trefniadau wneud darpariaeth ynghylch, ymhlith pethau eraill—

(a)y meini prawf i’w bodloni gan y ffurf ar y cymhwyster sydd i’w datblygu;

(b)taliadau i’w gwneud gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’i datblygu.

(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwneud trefniadau o dan yr adran hon.

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.

(5)Rhaid i’r cynllun ddarparu ar gyfer gweithdrefn sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw.

(6)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.

16Cymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig a ddatblygir yn unol â threfniadau adran 15

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff dyfarnu wedi datblygu ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn unol â threfniadau o dan adran 15.

(2)Os cydnabyddir y corff dyfarnu mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, caiff wneud cais i Gymwysterau Cymru i’r ffurf ar y cymhwyster gael ei chymeradwyo o dan yr adran hon.

(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(4)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(5)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).

(6)At ddibenion y Rhan hon, dyfarnu ffurf ar gymhwyster yng Nghymru yw ei dyfarnu i bersonau a asesir mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

17Cymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn absenoldeb trefniadau adran 15

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru ffurf ar gymhwyster sy’n gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig, ond nad yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu ymrwymo i drefniadau mewn cysylltiad â hi o dan adran 15.

(2)Caiff Cymwysterau Cymru, ar gais gan gorff a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo ffurf ar y cymhwyster i’r corff o dan sylw ei dyfarnu yng Nghymru.

(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth o dan is-adran (2);

(b)ystyried gan Gymwysterau Cymru y ceisiadau hynny.

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.

(5)Rhaid i’r cynllun ddarparu ar gyfer gweithdrefn sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw.

(6)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.

(8)Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).

18Cymeradwyo cymwysterau blaenoriaethol anghyfyngedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud i Gymwysterau Cymru i ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig gael ei chymeradwyo gan gorff dyfarnu a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.

(4)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).

Cymwysterau eraill

19Cymeradwyo cymwysterau nad ydynt yn gymwysterau blaenoriaethol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo cais yn cael ei wneud i Gymwysterau Cymru, i ffurf ar gymhwyster gael ei chymeradwyo, gan gorff dyfarnu a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, a

(b)pan fo Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni nad yw’r cymhwyster o dan sylw yn gymhwyster blaenoriaethol.

(2)Caiff Cymwysterau Cymru, yn ôl ei ddisgresiwn, benderfynu pa un ai i ystyried y ffurf ar y cymhwyster i’w chymeradwyo.

(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried y ffurf ar y cymhwyster i’w chymeradwyo, caiff gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(4)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).

(5)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwneud penderfyniadau o dan is-adran (2).

(6)Rhaid i’r cynllun, ymhlith pethau eraill, nodi ffactorau sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu pa un ai i ystyried ffurf ar gymhwyster i’w chymeradwyo.

(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.

(8)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

(9)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.

Meini prawf cymeradwyo

20Meini prawf cymeradwyo

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf i’w cymhwyso ganddo wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo ffurf ar gymhwyster o dan y Rhan hon.

(2)Caiff y meini prawf wneud darpariaeth wahanol drwy gyfeirio at gymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r meini prawf.

(4)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r meini prawf, rhaid iddo gyhoeddi’r meini prawf fel y’u diwygiwyd.

Pŵer i Weinidogion Cymru bennu gofynion sylfaenol

21Pŵer i bennu gofynion sylfaenol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu gofynion sylfaenol, mewn perthynas â chymhwyster, sydd i’w bodloni gan unrhyw ffurf ar y cymhwyster hwnnw a gymeradwyir o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r gofynion ymwneud â’r wybodaeth, y sgiliau neu’r ddealltwriaeth y mae’n ofynnol eu dangos at ddiben penderfynu a yw’r cymhwyster i gael ei ddyfarnu i berson.

(3)Ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn angenrheidiol pennu gofyniad er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm a ddilynir gan bersonau sy’n ymgymryd â chwrs sy’n arwain at gymhwyster yn briodol at anghenion rhesymol y personau hynny y caniateir i’r gofyniad hwnnw gael ei bennu mewn perthynas â’r cymhwyster.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu gofynion sylfaenol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chymwysterau Cymru ac unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y maent yn ystyried eu bod yn briodol, gan bennu—

(a)y gofynion sylfaenol arfaethedig, a

(b)eu rhesymau dros eu cynnig.

(5)Pan fo gofynion wedi eu pennu mewn perthynas â chymhwyster drwy reoliadau o dan yr adran hon, ni chaiff Cymwysterau Cymru gymeradwyo ffurf ar y cymhwyster hwnnw o dan y Rhan hon oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y ffurf honno ar y cymhwyster yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.

Darpariaeth atodol sy’n berthnasol i bob cymeradwyaeth

22Amodau cymeradwyo

(1)O ran cymeradwyo ffurf ar gymhwyster —

(a)rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod o fewn is-adran (2), a

(b)mae i fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill y caiff Cymwysterau Cymru eu gosod naill ai ar adeg rhoi’r gymeradwyaeth neu wedi hynny.

(2)Mae amod o fewn yr is-adran hon yn amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffurf ar gymhwyster sydd i’w dyfarnu fel cymhwyster a gymeradwywyd gael ei nodi â rhif cymeradwyo.

(3)Mae rhif cymeradwyo yn rhif (gyda neu heb lythrennau neu symbolau) sydd wedi ei ddyrannu i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru.

(4)Dim ond os yw ffurf ar gymhwyster wedi ei ddyfarnu â’i rhif cymeradwyo yn unol â’r amod a grybwyllir o fewn is-adran (2) y’i dyfernir fel cymhwyster a gymeradwywyd.

(5)Caiff yr amodau y caiff Cymwysterau Cymru eu gosod wneud darpariaeth wahanol, mewn cysylltiad â dyfarnu’r un cymhwyster, at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at yr amgylchiadau pan fo cymhwyster yn cael ei ddyfarnu, neu at y personau neu’r disgrifiadau o bersonau y dyfernir cymhwyster iddynt).

(6)Os yw Cymwysterau Cymru, ar ôl cymeradwyo ffurf ar gymhwyster i’w dyfarnu gan gorff cydnabyddedig—

(a)yn gosod amodau newydd y mae’r gymeradwyaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt, neu

(b)yn amrywio’r amodau y mae’r gymeradwyaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt,

rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff dyfarnu am yr amodau newydd (neu’r amodau sydd wedi eu hamrywio).

(7)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)pennu’r dyddiad y bydd yr amodau newydd (neu’r amodau fel y maent wedi eu hamrywio) yn cael effaith, a

(b)rhoi rhesymau dros y newid.

23Cyfnod para’r gymeradwyaeth

(1)Mae cymeradwyaeth o dan adran 16 neu 17—

(a)yn cael effaith o ba ddyddiad bynnag a bennir gan Gymwysterau Cymru, a

(b)i gael ei rhoi am gyfnod cyfyngedig a bennir gan Gymwysterau Cymru wrth roi’r gymeradwyaeth.

(2)O ran cymeradwyaeth o dan adran 18 neu 19—

(a)mae’n cael effaith o ba ddyddiad bynnag a bennir gan Gymwysterau Cymru, a

(b)caniateir iddi gael ei rhoi am gyfnod amhenodol neu am gyfnod cyfyngedig a bennir gan Gymwysterau Cymru wrth roi’r gymeradwyaeth.

24Rheolau ynghylch ceisiadau am gymeradwyaeth

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud rheolau ynghylch gwneud ceisiadau iddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff y rheolau wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Caiff y rheolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys ceisiadau;

(b)y ffordd y mae ceisiadau i gael eu gwneud (gan gynnwys o ran unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais).

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r rheolau a wneir o dan yr adran hon.

Ildio cymeradwyaeth a thynnu cymeradwyaeth yn ôl

25Ildio cymeradwyaeth

(1)Caiff corff dyfarnu roi hysbysiad i Gymwysterau Cymru ei fod yn dymuno i gymeradwyaeth i ffurf ar gymhwyster a ddyfernir ganddo beidio â chael effaith (“hysbysiad ildio”).

(2)Rhaid i hysbysiad ildio bennu’r dyddiad y mae’r corff yn dymuno i’r gymeradwyaeth beidio â chael effaith pan ddaw i ben.

(3)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad ildio ddod i law, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff dyfarnu (“cydnabyddiaeth o ildio”) sy’n darparu bod y gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben neu, os yw Cymwysterau Cymru o’r farn ei bod yn briodol, pan ddaw dyddiad gwahanol i ben.

(4)Os yw’r gydnabyddiaeth o ildio yn pennu bod y gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw dyddiad gwahanol i’r un a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, rhaid i’r gydnabyddiaeth o ildio roi rhesymau dros hyn.

(5)Mae’r gymeradwyaeth yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio i ben.

(6)Wrth benderfynu a yw’r gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, neu pan ddaw dyddiad gwahanol i ben, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r canlynol—

(a)yr angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw;

(b)dymuniad y corff y dylai’r gymeradwyaeth beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben.

26Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad ag ildio cymeradwyaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion cydnabyddiaeth o ildio o dan adran 25.

(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw, caiff wneud darpariaeth yn y gydnabyddiaeth o ildio sydd o fewn is-adran (3).

(3)Mae darpariaeth o fewn yr is-adran hon yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y ffurf ar y cymhwyster, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei thrin, at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon gan Gymwysterau Cymru i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

(4)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-adran (3)—

(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn y gydnabyddiaeth o ildio, a

(b)mae’r ffurf ar y cymhwyster i gael ei thrin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben, at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio at ddibenion yr adran hon;

  • ystyr “dyddiad ildio” (“surrender date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel y dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw i ben.

27Tynnu cymeradwyaeth yn ôl

(1)Caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl gymeradwyaeth o dan y Rhan hon i ffurf ar gymhwyster os yw wedi ei fodloni—

(a)na chydymffurfiwyd ag amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo,

(b)bod y corff sy’n dyfarnu’r ffurf ar y cymhwyster wedi peidio â chael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, neu

(c)yn achos cymeradwyaeth i ffurf ar gymhwyster a roddir o dan adran 18 neu 19, fod y cymhwyster o dan sylw wedi dod yn gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig.

(2)Cyn tynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff dyfarnu o dan sylw hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.

(3)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu tynnu’r gymeradwyaeth yn ôl, a

(b)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i dynnu cymeradwyaeth yn ôl.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i dynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu tynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff dyfarnu am y penderfyniad, sy’n pennu’r dyddiad y bydd y gymeradwyaeth yn cael ei thynnu’n ôl pan ddaw i ben (y “dyddiad tynnu’n ôl”).

(6)Ar unrhyw adeg cyn y dyddiad tynnu’n ôl, caiff Cymwysterau Cymru, gyda chytundeb y corff dyfarnu o dan sylw, roi hysbysiad i’r corff sy’n amrywio’r dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i gael ei thynnu’n ôl.

(7)Pan roddir hysbysiad o dan is-adran (6), mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad tynnu’n ôl i gael ei drin, o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, fel y dyddiad tynnu’n ôl at ddibenion unrhyw hysbysiad pellach o dan yr is-adran honno.

(8)Wrth benderfynu ar ddyddiad at ddibenion yr adran hon, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster.

28Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thynnu cymeradwyaeth yn ôl

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion hysbysiad o dan adran 27(5).

(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw, caiff wneud darpariaeth yn yr hysbysiad sydd o fewn is-adran (3).

(3)Mae darpariaeth o fewn yr is-adran hon yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y ffurf ar y cymhwyster, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei thrin, at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon gan Gymwysterau Cymru i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

(4)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-adran (3)—

(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn yr hysbysiad, a

(b)mae’r ffurf ar y cymhwyster i gael ei thrin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben, at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad at ddibenion yr adran hon;

  • ystyr “dyddiad tynnu’n ôl” (“withdrawal date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i gael ei thynnu’n ôl pan ddaw i ben.

RHAN 5DYNODI CYMWYSTERAU ERAILL

29Dynodi cymwysterau eraill

(1)Caiff Cymwysterau Cymru, ar gais o dan is-adran (2), ddynodi ffurf ar gymhwyster o dan yr adran hon.

(2)Mae cais o dan yr is-adran hon yn gais gan gorff cydnabyddedig i Gymwysterau Cymru i ffurf ar gymhwyster—

(a)a gynigir ganddo, a

(b)y’i cydnabyddir mewn cysylltiad â hi,

gael ei dynodi o dan yr adran hon.

(3)Ni chaiff Cymwysterau Cymru ddynodi ffurf ar gymhwyster o dan yr adran hon oni bai ei fod wedi ei fodloni bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(4)Yr amodau yw—

(a)y byddai’n briodol i gwrs addysg neu hyfforddiant sydd o fewn adran 34(2) ac sy’n arwain at ddyfarnu’r ffurf ar gymhwyster gael ei gyllido’n gyhoeddus, a

(b)ei bod yn briodol ar hyn o bryd, gyda golwg ar ganiatáu’r cyllid cyhoeddus hwnnw, ddynodi’r ffurf ar gymhwyster o dan yr adran hon yn hytrach na’i chymeradwyo o dan Ran 4.

(5)At ddibenion is-adran (4)(a) mae cwrs addysg neu hyfforddiant yn cael ei gyllido’n gyhoeddus os y’i cyllidir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru, neu os y’i darperir gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 34(12)).

(6)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (4)(a) at gwrs addysg neu hyfforddiant yn gyfeiriad at gwrs addysg neu hyfforddiant penodol neu at gyrsiau o’r fath yn gyffredinol.

(7)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddynodiad adran 29 yn gyfeiriadau at ddynodi ffurf ar gymhwyster o dan yr adran hon.

30Darpariaeth bellach ynghylch dynodiadau adran 29

(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud dynodiad adran 29, rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae’r dynodiad yn cael effaith ohono a’r dyddiad y mae’n peidio â chael effaith pan ddaw i ben.

(2)Mae dynodiad adran 29 yn peidio â chael effaith—

(a)os yw’r corff dyfarnu y mae’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw wedi ei dynodi mewn cysylltiad ag ef yn peidio â chael ei gydnabod mewn cysylltiad â’r ffurf honno ar gymhwyster, ar yr un pryd ag y mae’r gydnabyddiaeth honno yn peidio â chael effaith (gweler paragraff 1(2) o Atodlen 3 am hyn);

(b)os yw’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw yn cael ei chymeradwyo o dan Ran 4, o ddyfodiad i rym y gymeradwyaeth fel y’i pennir o dan adran 23 (ond gweler adran 31).

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo ffurf ar gymhwyster wedi ei dynodi o dan adran 29 a bod y cymhwyster yn gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig (gweler adran 14 am hyn).

(4)Mae’r dynodiad adran 29 y cyfeirir ato yn is-adran (3) yn peidio â chael effaith o ddyfodiad i rym y gymeradwyaeth gyntaf i unrhyw ffurf ar y cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig o dan adran 16 neu 17 fel y’i pennir o dan adran 23 (ond gweler adran 31).

(5)Os yw dynodiad adran 29 yn peidio â chael effaith yn unol ag is-adran (2) neu (4), rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff dyfarnu o dan sylw hysbysiad am y dyddiad y mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith ohono.

(6)Caiff Cymwysterau Cymru bennu bod dynodiad adran 29 i gael effaith at ddibenion penodol, gan gynnwys drwy gyfeirio at yr amgylchiadau y dyfernir y cymhwyster odanynt a’r person neu’r disgrifiad o berson y caniateir i’r cymhwyster gael ei ddyfarnu iddo.

(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi dynodiad adran 29.

31Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dynodiadau adran 29

(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi o dan adran 29, caiff wneud darpariaeth sydd o fewn is-adran (2).

(2)Mae darpariaeth o fewn yr is-adran hon yn ddarpariaeth i’r perwyl, er gwaethaf adran 30(2)(b) neu (4), fod ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi o dan adran 29 i gael ei thrin, at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru, fel pe bai wedi ei dynodi o dan adran 29 hyd nes y daw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru i ben.

32Dirymu dynodiadau adran 29

(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddirymu dynodiad adran 29.

(2)Cyn dirymu dynodiad adran 29, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff cydnabyddedig y mae’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw wedi ei dynodi mewn cysylltiad ag ef hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.

(3)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu dirymu’r dynodiad adran 29, a

(b)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i ddirymu’r dynodiad adran 29.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i ddirymu dynodiad adran 29, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu dirymu dynodiad adran 29, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad gan esbonio pa bryd y mae’r dirymiad i gymryd effaith.

(6)Mae’r dirymiad i gymryd effaith ar 1 Medi sy’n dod yn y flwyddyn ar ôl i’r penderfyniad i ddirymu gael ei wneud ond dim ond mewn perthynas â dysgwr sy’n dechrau cwrs addysg neu hyfforddiant ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw y mae’r dirymiad yn gymwys.

(7)Rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (5) gael ei roi—

(a)os gwneir y penderfyniad i ddirymu ar 31 Rhagfyr, ar y diwrnod hwnnw, neu

(b)os gwneir y penderfyniad i ddirymu ar unrhyw ddiwrnod arall, yn ddi-oed a beth bynnag ar neu cyn y 31 Rhagfyr ar ôl y penderfyniad.

(8)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi hysbysiad am benderfyniad i ddirymu dynodiad adran 29.

33Rheolau ynghylch ceisiadau am ddynodiad

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud rheolau ynghylch gwneud ceisiadau iddo o dan adran 29.

(2)Caiff y rheolau wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Caiff y rheolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys ceisiadau;

(b)y ffordd y mae ceisiadau i gael eu gwneud (gan gynnwys o ran unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais).

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r rheolau a wneir o dan yr adran hon.

RHAN 6DARPARIAETH BELLACH SY’N BERTHNASOL I GYDNABOD, CYMERADWYO A DYNODI

Cyllido etc cyrsiau penodol

34Cyfyngu ar gyllido a darparu cyrsiau penodol

(1)Oni bai bod gofyniad a nodir yn is-adran (3) neu (5) wedi ei fodloni, ni chaniateir i gwrs addysg neu hyfforddiant sy’n arwain at ddyfarnu ffurf ar gymhwyster ac sydd o fewn is-adran (2)—

(a)cael ei gyllido gan gorff awdurdodedig, neu

(b)cael ei ddarparu gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru.

(2)Mae cwrs addysg neu hyfforddiant o fewn yr is-adran hon os y’i darperir, neu os bwriedir iddo gael ei ddarparu—

(a)gan neu ar ran ysgol neu sefydliad neu gyflogwr, a

(b)ar gyfer disgyblion sydd o oedran ysgol gorfodol, neu’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond sydd o dan 19 oed.

(3)Y gofyniad yw—

(a)y caiff y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati ei dyfarnu gan gorff cydnabyddedig fel cymhwyster a gymeradwywyd, a

(b)os yw’r ffurf ar y cymhwyster yn ddarostyngedig i amod sy’n cyfyngu ar ddyfarniad, na ddarperir y cwrs mewn ffordd sy’n arwain at ddyfarnu’r cymhwyster i berson ac eithrio yn unol â’r amod hwnnw.

(4)Yn is-adran (3)(b), mae amod sy’n cyfyngu ar ddyfarniad yn amod y mae cymeradwyaeth i’r ffurf ar gymhwyster o dan Ran 4 yn ddarostyngedig iddo ac sy’n ymwneud â’r person neu’r disgrifiad o berson y caniateir i’r cymhwyster gael ei ddyfarnu iddo.

(5)Y gofyniad yw—

(a)y caiff y ffurf ar y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati ei dyfarnu gan gorff cydnabyddedig ac y caiff ei dynodi o dan adran 29, a

(b)os yw Cymwysterau Cymru wedi pennu dibenion o dan adran 30(6) y mae’r dynodiad i gael effaith atynt, na ddarperir y cwrs mewn ffordd sy’n arwain at ddyfarnu’r cymhwyster ac eithrio yn unol â’r dibenion hynny.

(6)Mewn perthynas ag ysgol a gynhelir, rhaid i’r awdurdod lleol a’r corff llywodraethu gyflawni eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau nad eir yn groes i is-adran (1)(b).

(7)Nid yw’r cyfyngiad a osodir gan yr adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â darparu cwrs addysg neu hyfforddiant i berson sydd ag anhawster dysgu.

(8)Nid yw’r cyfyngiad ychwaith yn gymwys mewn cysylltiad â chwrs addysg neu hyfforddiant a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddiben yr adran hon.

(9)Caiff dynodiad o dan is-adran (8) wneud darpariaeth—

(a)yn gyffredinol mewn cysylltiad â chwrs neu ddisgrifiad o gwrs, neu

(b)mewn cysylltiad â chwrs neu ddisgrifiad o gwrs a ddarperir mewn amgylchiadau, neu a ddarperir i berson neu ddisgrifiad o berson, a bennir yn y dynodiad.

(10)O ran dynodiad o dan is-adran (8)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu.

(11)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gwrs sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster yn cynnwys cyfeiriadau at gwrs sy’n un o ddau neu ragor o elfennau sy’n arwain at ffurf ar y cymhwyster.

(12)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff awdurdodedig” (“authorised body”) yw—

    (a)

    Gweinidogion Cymru;

    (b)

    awdurdod lleol yng Nghymru;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—

    (a)

    ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol;

    (b)

    ysgol arbennig gymunedol.

Amlinellu rolau Cymwysterau Cymru ac Ofqual

35Dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd yng Nghymru: cyfyngu ar gymhwyso amodau a osodir gan Ofqual

(1)Nid yw unrhyw amod y mae cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu gan Ofqual o dan adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) (cydnabod cyrff dyfarnu) yn ddarostyngedig iddo yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ddyfarniad, neu at ddibenion unrhyw ddyfarniad, yng Nghymru gan y corff hwnnw o ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dyfarnu fel cymhwyster a gymeradwywyd (ond nid yw hyn yn effeithio ar gymhwyso, os oes cymhwyso, yr amodau hynny mewn cysylltiad â dyfarnu, neu at ddibenion dyfarnu, yng Nghymru ffurf ar gymhwyster nad yw wedi ei dyfarnu fel cymhwyster a gymeradwywyd, hyd yn oed os yw’r ffurf honno wedi ei dynodi o dan adran 29).

(2)Yn unol â hynny, yn adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, ar ôl is-adran (9), mewnosoder—

(10)See section 35 of the Qualifications Wales Act 2015 for provision about the effect of conditions imposed by or under this section, in respect of or for the purposes of the award in Wales by an awarding body of a form of a qualification awarded as an approved qualification (for which see section 22(4) of that Act).

(3)Yn yr adran hon ystyr “Ofqual” yw’r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau a sefydlwyd o dan adran 127 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

(4)At ddibenion yr adran hon ac adran 36 , dyfarnu ffurf ar gymhwyster yng Nghymru yw ei dyfarnu i bersonau a asesir mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

36Cyfyngu ar gymhwyso amodau a osodir gan Gymwysterau Cymru

(1)Nid yw unrhyw amod o fewn is-adran (2) ond yn gymwys mewn cysylltiad â dyfarnu, neu at ddibenion dyfarnu, yng Nghymru gan gorff dyfarnu ffurf ar gymhwyster y cydnabyddir y corff o dan Ran 3 mewn cysylltiad â’i dyfarnu.

(2)Yr amodau yw’r amodau y mae cydnabyddiaeth o’r corff o dan adran 8 neu 9 yn ddarostyngedig iddynt.

RHAN 7PWERAU GORFODI CYMWYSTERAU CYMRU

37Pŵer i roi cyfarwyddydau

(1)Os ymddengys i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod y mae ei gydnabyddiaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru gyfarwyddo’r corff i gymryd, neu i beidio â chymryd, camau penodedig, gyda golwg ar sicrhau cydymffurfedd â’r amod.

(2)Os ymddengys i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod y mae’r gymeradwyaeth honno yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru gyfarwyddo’r corff i gymryd, neu i beidio â chymryd, camau penodedig gyda golwg ar sicrhau cydymffurfedd â’r amod.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu o dan yr adran hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff o dan sylw am ei fwriad i wneud hynny.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi rhesymau Cymwysterau Cymru dros fwriadu rhoi’r cyfarwyddyd;

(b)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd.

(5)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.

(6)Rhaid i gorff dyfarnu gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan yr adran hon.

(7)O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn mandadol ar gais Cymwysterau Cymru.

38Pŵer i osod cosbau ariannol

(1)Os ymddengys i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu wedi methu â chydymffurfio ag amod y mae ei gydnabyddiaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru osod cosb ariannol ar y corff.

(2)Os ymddengys i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd wedi methu â chydymffurfio ag amod y mae’r gymeradwyaeth honno yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru osod cosb ariannol ar y corff.

(3)Gofyniad i dalu cosb i Gymwysterau Cymru yw “cosb ariannol” a phenderfynir ar swm y gosb ganddo yn unol â rheoliadau.

(4)Cyn gosod cosb ariannol, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff dyfarnu o dan sylw am ei fwriad i wneud hynny.

(5)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi rhesymau Cymwysterau Cymru dros fwriadu gosod y gosb;

(b)pennu swm arfaethedig y gosb;

(c)pennu cyfnod y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben, pa un ai i osod y gosb.

(6)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (5)(c) fod yn gyfnod o 28 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.

(7)Wrth benderfynu pa un ai i osod y gosb, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.

(8)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu gosod cosb ariannol, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff dyfarnu o dan sylw sy’n pennu—

(a)swm y gosb, a

(b)y cyfnod y mae rhaid gwneud taliad ynddo.

(9)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (8)(b) fod yn gyfnod o 28 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.

(10)Rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)sut y caniateir i daliad gael ei wneud,

(c)hawliau apelio o dan adran 39, a

(d)canlyniadau peidio â thalu.

(11)Rhaid i unrhyw symiau y mae Cymwysterau Cymru yn eu cael drwy gosb ariannol a osodir o dan yr adran hon neu log o dan adran 40 gael eu talu ganddo i Gronfa Gyfunol Cymru.

39Cosbau ariannol: apelau

(1)Caiff corff dyfarnu apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn—

(a)penderfyniad i osod cosb ariannol ar y corff o dan adran 38;

(b)penderfyniad o ran swm y gosb.

(2)Caniateir i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud ar y sail—

(a)na ddigwyddodd yr achos o dorri amod y gosodwyd cosb ariannol mewn cysylltiad ag ef, neu

(b)bod y penderfyniad fel arall—

(i)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(ii)yn anghywir yn y gyfraith; neu

(iii)yn afresymol.

(3)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, mae’r gofyniad i dalu’r gosb wedi ei atal dros dro hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl neu hyd nes y penderfynir arni.

(4)O ran apêl o dan yr adran hon caiff y Tribiwnlys—

(a)tynnu’n ôl y gofyniad i dalu’r gosb;

(b)cadarnhau’r gofyniad hwnnw;

(c)amrywio’r gofyniad hwnnw;

(d)dychwelyd y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad i dalu’r gosb, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i Gymwysterau Cymru.

40Cosbau ariannol: llog

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys os nad yw cosb ariannol gyfan, neu ran ohoni, a osodir ar gorff dyfarnu o dan adran 38 wedi ei thalu ar ddiwedd y cyfnod sy’n dod i ben â’r dyddiad cymwys.

(2)Y dyddiad cymwys yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y dyddiad olaf y caniateir i daliad gael ei wneud yn unol â’r hysbysiad a roddir o dan adran 38(8);

(b)y dyddiad olaf y caiff y corff dyfarnu wneud apêl o dan adran 39 mewn cysylltiad â’r gosb, os na wneir apêl o’r fath ar neu cyn y dyddiad hwnnw;

(c)os gwneir apêl o dan adran 39 mewn cysylltiad â’r gosb ar neu cyn y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (b)—

(i)dyddiad olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y penderfynir ar yr apêl, neu

(ii)os tynnir yr apêl yn ôl cyn y penderfynir arni, y diwrnod olaf o’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y tynnir yr apêl yn ôl.

(3)Mae swm y gosb nad yw wedi ei dalu am y tro yn dwyn llog, sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cymwys, ar y gyfradd am y tro a bennir yn adran 17 o Ddeddf Dyfarniadau 1838 (p.110) (ac nid yw hefyd yn dwyn llog fel dyled dyfarniad o dan yr adran honno).

(4)Ni chaniateir i gyfanswm y llog a osodir o dan is-adran (3) fod yn fwy na swm y gosb.

(5)Nid yw llog yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan gaiff y gofyniad i dalu cosb ariannol ei atal dros dro o dan adran 39(3).

41Adennill costau ar gyfer gosod sancsiynau

(1)Caiff Cymwysterau Cymru, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i gorff dyfarnu y gosodwyd sancsiwn arno dalu’r costau yr aeth Cymwysterau Cymru iddynt mewn cysylltiad â gosod y sancsiwn.

(2)Mae’r cyfeiriadau yn is-adran (1) at osod sancsiwn yn gyfeiriadau at—

(a)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 37;

(b)gosod cosb ariannol o dan adran 38;

(c)tynnu cydnabyddiaeth yn ôl o dan baragraff 19 o Atodlen 3.

(3)Mae “costau” yn cynnwys, ymhlith pethau eraill—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(4)Rhaid i hysbysiad a roddir i gorff dyfarnu o dan is-adran (1)—

(a)pennu’r swm y mae’n ofynnol ei dalu,

(b)pennu’r cyfnod y mae rhaid gwneud y taliad ynddo, ac

(c)cynnwys dadansoddiad manwl o’r swm a bennir.

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (4)(b) fod yn gyfnod o 28 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.

(6)Rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)sut y caniateir i daliad gael ei wneud,

(b)hawliau apelio o dan adran 42, ac

(c)canlyniadau peidio â thalu.

42Adennill costau: apelau

(1)Caiff corff dyfarnu apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn—

(a)penderfyniad o dan adran 41(1) i’w gwneud yn ofynnol i’r corff dalu costau;

(b)penderfyniad o ran swm y costau hynny.

(2)Caniateir i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud ar y sail—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn y gyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol.

(3)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, mae’r gofyniad i dalu’r costau wedi ei atal dros dro hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl neu hyd nes y penderfynir arni.

(4)O ran apêl o dan yr adran hon caiff y Tribiwnlys—

(a)tynnu’n ôl y gofyniad i dalu’r costau;

(b)cadarnhau’r gofyniad hwnnw;

(c)amrywio’r gofyniad hwnnw;

(d)dychwelyd y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad i dalu’r costau, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i Gymwysterau Cymru.

43Costau: llog

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys os nad yw’r swm cyfan o gostau, neu ran ohono, y mae’n ofynnol i gorff dyfarnu ei dalu o dan adran 41(1), wedi ei dalu ar ddiwedd y cyfnod sy’n dod i ben â’r dyddiad cymwys.

(2)Y dyddiad cymwys yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y dyddiad olaf y caniateir i daliad gael ei wneud yn unol â’r hysbysiad a roddir o dan adran 41;

(b)y dyddiad olaf y caiff y corff dyfarnu wneud apêl o dan adran 42 mewn cysylltiad â’r costau, os na wneir apêl o’r fath ar neu cyn y dyddiad hwnnw;

(c)os gwneir apêl o dan adran 42 mewn cysylltiad â’r costau ar neu cyn y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (b)—

(i)dyddiad olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y penderfynir ar yr apêl, neu

(ii)os tynnir yr apêl yn ôl cyn y penderfynir arni, y diwrnod olaf o’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y tynnir yr apêl yn ôl.

(3)Mae’r swm o’r costau nad yw wedi ei dalu am y tro yn dwyn llog, sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cymwys, ar y gyfradd am y tro a bennir yn adran 17 o Ddeddf Dyfarniadau 1838 (p.110) (ac nid yw hefyd yn dwyn llog fel dyled dyfarniad o dan yr adran honno).

(4)Ni chaniateir i gyfanswm y llog a osodir o dan is-adran (3) fod yn fwy na swm y costau.

(5)Nid yw llog yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan gaiff y gofyniad i dalu’r costau ei atal dros dro o dan adran 42(3).

44Mynd i mewn i fangre a’i harolygu

(1)Caiff person awdurdodedig wneud cais i ynad heddwch am orchymyn o dan yr adran hon mewn cysylltiad â mangre a feddiannir gan gorff cydnabyddedig.

(2)Dim ond os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni bod y gofynion yn is-adrannau (3) i (5) wedi eu bodloni y caiff wneud gorchymyn o dan yr adran hon.

(3)Y gofyniad cyntaf yw bod sail resymol dros gredu bod y corff wedi methu â chydymffurfio—

(a)ag amod y mae ei gydnabyddiaeth yn ddarostyngedig iddo, neu

(b)ag amod y mae cymeradwyaeth o dan Ran 4 o ffurf ar gymhwyster a ddyfernir ganddo yn ddarostyngedig iddo.

(4)Yr ail ofyniad yw—

(a)bod cais i fynd i mewn i fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, neu

(b)y byddai gofyn am gael mynd i mewn yn debygol o danseilio’r diben o gael mynd i mewn.

(5)Y trydydd gofyniad yw bod angen mynd i mewn i’r fangre er mwyn canfod a fu achos o dorri’r amod y mae’r gofyniad yn is-adran (3) wedi ei fodloni drwy gyfeirio ato.

(6)Pan fo gorchymyn o dan yr adran hon mewn grym, caiff person awdurdodedig ac unrhyw gwnstabl sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig yn unol â’r gorchymyn, at ddiben canfod a fu achos o dorri amod y cyfeirir ato yn is-adran (3)—

(a)mynd i mewn i’r fangre a bennir yn y gorchymyn;

(b)arolygu a chopïo cofnodion a dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre neu eu symud o’r fangre;

(c)ei gwneud yn ofynnol cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur neu ddyfais electronig arall y deuir o hyd iddi yn y fangre, ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig y deuir o hyd iddo yn y fangre, sy’n cael eu defnyddio neu wedi eu defnyddio mewn cysylltiad â chofnodion neu ddogfennau eraill, eu harolygu a gwirio eu gweithrediad;

(d)ei gwneud yn ofynnol—

(i)i’r person sy’n defnyddio neu sydd wedi bod yn defnyddio’r ddyfais electronig neu y mae’r ddyfais electronig yn cael ei defnyddio felly neu wedi ei defnyddio felly ar ei ran, neu

(ii)i unrhyw berson sy’n gyfrifol am y ddyfais, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â gweithrediad y ddyfais, y cyfarpar neu’r deunydd,

roi unrhyw gymorth i’r person awdurdodedig sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person awdurdodedig (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, rhoi gwybodaeth ar gael i’w harolygu neu i’w chopïo ar ffurf ddarllenadwy).

(7)Rhaid i orchymyn o dan yr adran hon bennu—

(a)y fangre y mae’n ymwneud â hi;

(b)y cyfnod y mae’r gorchymyn mewn grym ar ei gyfer.

(8)Caniateir i orchymyn o dan yr adran hon—

(a)caniatáu neu ei gwneud yn ofynnol i gwnstabl fynd gyda’r person awdurdodedig;

(b)cyfyngu ar yr amser y caniateir i’r pŵer mynd i mewn a roddir gan y gorchymyn gael ei arfer;

(c)ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad am y gorchymyn gael ei roi i’r corff cydnabyddedig o dan sylw.

(9)Caniateir (os oes angen) i gwnstabl sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig yn unol â’r gorchymyn ddefnyddio grym rhesymol er mwyn galluogi arfer y pwerau a roddir gan y gorchymyn.

(10)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at berson awdurdodedig yn gyfeiriadau at aelod o staff Cymwysterau Cymru sydd wedi ei awdurdodi (yn gyffredinol neu’n benodol) gan Gymwysterau Cymru at ddibenion yr adran hon.

RHAN 8ATODOL

Gweithgareddau masnachol

45Darparu gwasanaethau etc gan Gymwysterau Cymru

(1)Caiff Cymwysterau Cymru, ar sail fasnachol, ddarparu gwasanaethau ymgynghori a gwasanaethau eraill mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â chymwysterau.

(2)Caniateir i wasanaethau gael eu darparu o dan yr adran hon ar y telerau hynny ac yn ddarostyngedig i’r amodau hynny (os oes telerau ac amodau) y caiff Cymwysterau Cymru benderfynu arnynt, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) o ran ffioedd a godir gan Gymwysterau Cymru.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, ffurfio cwmni i ddarparu gwasanaethau o dan yr adran hon.

(4)Cymwysterau Cymru sydd i fod yr unig aelod o unrhyw gwmni a ffurfir o dan is-adran (3).

Adolygu ac ymchwil

46Adolygu ac ymchwil

(1)Caiff Cymwysterau Cymru adolygu’n gyson—

(a)dyfarnu cymwysterau a gymeradwywyd gan gorff cydnabyddedig;

(b)dyfarnu ffurfiau ar gymhwyster sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 gan gorff cydnabyddedig;

(c)unrhyw weithgareddau eraill corff cydnabyddedig y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol i gydnabyddiaeth y corff;

(d)unrhyw agwedd arall ar gymwysterau.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru adolygu’n gyson y priod rolau sydd ganddo ef a chyrff dyfarnu mewn cysylltiad â system gymwysterau Cymru.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru gynnal neu gomisiynu gwaith ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â chymwysterau.

Is-swyddogaethau

47Datganiad polisi a datganiad ynghylch ymgynghori

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio datganiad o’i bolisi (“datganiad polisi”) mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan—

(a)Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu);

(b)Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);

(c)Rhan 5 (dynodi cymwysterau eraill);

(d)Rhan 7 (pwerau gorfodi Cymwysterau Cymru);

(e)adran 45 (darparu gwasanaethau etc gan Gymwysterau Cymru);

(f)adran 46(1) (adolygiadau).

(2)Rhaid i’r datganiad polisi gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)yr amgylchiadau pan fo cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu yn debygol o gael ei gwneud yn ddarostyngedig i amod arbennig;

(b)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu pa un ai i ddynodi ffurf ar gymhwyster o dan adran 29, wrth benderfynu ar y cyfnod y mae dynodiad o’r fath i gael effaith ar ei gyfer ac wrth benderfynu pa un ai i ddirymu dynodiad o’r fath;

(c)y meini prawf sy’n debygol o gael eu cymhwyso gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu a yw’n briodol mewn unrhyw achos osod amod capio ffioedd er mwyn sicrhau gwerth am arian;

(d)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu ar y terfyn a bennir mewn amod capio ffioedd;

(e)cyfnod para tebygol amod capio ffioedd;

(f)yr amgylchiadau pan fo cyfarwyddyd yn debygol o gael ei roi i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo, a thestun tebygol unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol ag amod trosglwyddo;

(g)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu pa un ai i wneud taliad i gorff dyfarnu o dan baragraff 15 o Atodlen 3, ac wrth benderfynu ar swm unrhyw daliad o’r fath;

(h)yr amgylchiadau a’r adegau pan fo amodau arbennig yn debygol o gael eu hadolygu neu eu diwygio, a’r ffactorau sy’n debygol o gael eu hystyried mewn unrhyw adolygiad neu ddiwygiad;

(i)yr amgylchiadau pan fo Cymwysterau Cymru yn debygol o osod cosb ariannol o dan adran 38;

(j)y ffactorau y mae Cymwysterau Cymru yn debygol o’u hystyried wrth benderfynu ar swm cosb sydd i’w osod o dan yr adran honno.

(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru hefyd lunio datganiad sy’n nodi—

(a)yr amgylchiadau pan fo Cymwysterau Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau;

(b)ym mha fodd y mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad.

(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru adolygu’r datganiadau a lunnir o dan yr adran hon yn gyson, ac os yw’n ystyried ei bod yn briodol o ganlyniad i adolygiad, lunio datganiadau diwygiedig.

(5)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi unrhyw ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a lunnir o dan yr adran hon.

48Cwynion

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion a wneir mewn cysylltiad—

(a)ag arfer ei swyddogaethau;

(b)â dyfarnu cymwysterau a gymeradwywyd gan gorff cydnabyddedig;

(c)â dyfarnu ffurfiau ar gymhwyster sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 gan gorff cydnabyddedig;

(d)ag unrhyw weithgareddau eraill corff cydnabyddedig y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol i gydnabyddiaeth y corff.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r trefniadau.

(3)Caiff y trefniadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y math o gŵyn y maent yn gymwys mewn cysylltiad â hi;

(b)i gŵyn gael ei hatgyfeirio at berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru.

(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

49Cynllun codi ffioedd

(1)Caiff Cymwysterau Cymru godi ffioedd sydd i’w talu gan gorff dyfarnu mewn cysylltiad â’r costau y mae’n mynd iddynt mewn perthynas â’r corff hwnnw mewn cysylltiad—

(a)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3 (cydnabod cyrff dyfarnu),

(b)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau),

(c)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 5 (dynodi cymwysterau eraill),

(d)ag arfer ei swyddogaethau o dan adran 46(1) i (c) (adolygu cymwysterau a gymeradwywyd, cymwysterau sydd wedi eu dynodi a chyrff cydnabyddedig), neu

(e)â delio â chŵyn yn erbyn corff dyfarnu o dan y trefniadau a wneir o dan adran 48.

(2)Rhaid i unrhyw ffioedd a godir gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu codi yn unol â chynllun a luniwyd ac a gyhoeddwyd gan Gymwysterau Cymru sy’n nodi’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r materion hynny.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

(4)Mae’r cynllun (ac unrhyw gynllun diwygiedig) i’w drin fel pe na bai ond yn cael effaith os caiff ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

50Grantiau

(1)Caiff Cymwysterau Cymru roi grantiau i berson os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Cymwysterau Cymru.

(2)Caniateir i grant o dan yr adran hon gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau (gan gynnwys amodau o ran ad-dalu).

51Darparu gwybodaeth neu gyngor

Os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru, rhaid i Gymwysterau Cymru ddarparu unrhyw wybodaeth neu gyngor i Weinidogion Cymru, ar faterion sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a bennir yn y cais.

52Cydweithio

Caiff Cymwysterau Cymru gydweithio â pherson arall os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Cymwysterau Cymru.

53Dyletswydd i roi sylw i bolisi llywodraeth a materion eraill

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw agweddau ar bolisi llywodraeth, ac i unrhyw faterion eraill, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

(2)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

54Cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol gan Gymwysterau Cymru

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion yn is-adran (2) wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan—

(a)Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu);

(b)Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);

(c)Rhan 7 (pwerau gorfodi Cymwysterau Cymru);

(d)adran 46(1)(a) i (c) (adolygu cymwysterau a gymeradwywyd, cymwysterau sydd wedi eu dynodi a chyrff cydnabyddedig);

(e)adran 48 (cwynion).

(2)Yr egwyddorion yw—

(a)y dylid cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol mewn ffordd sy’n dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson, a

(b)mai dim ond at achosion pan fo angen gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol.

RHAN 9CYFFREDINOL

55Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(c)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud, oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau a wneir o dan adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol);

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 38(3) (pŵer i osod cosbau ariannol);

(c)rheoliadau a wneir o dan adran 59 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

56Dehongli cyfeiriadau at “cymhwyster”

(1)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymhwyster, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb, yn gyfeiriadau at gymhwyster academaidd neu gymhwyster galwedigaethol a ddyfernir yng Nghymru, ac eithrio—

(a)gradd sylfaen;

(b)gradd gyntaf;

(c)gradd ar lefel uwch.

(2)Mae cymhwyster i’w ddyfarnu yng Nghymru, at ddibenion yr adran hon, os oes personau, neu y gellir disgwyl yn rhesymol bod personau, sy’n ceisio cael y cymhwyster sy’n cael, neu a fydd yn cael, neu y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt gael, eu hasesu mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

(3)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at ddyfarnu cymhwyster yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)dyfarnu credydau mewn cysylltiad ag elfennau cymhwyster;

(b)dyfarnu cymhwyster gan gorff naill ai ar y cyd neu gydag eraill.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ffurf ar gymhwyster yn gyfeiriadau at y fersiwn benodol o gymhwyster sy’n cael ei chynnig, neu sydd i’w chynnig, gan gorff dyfarnu penodol.

57Dehongli cyffredinol a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio

(1)Mae darpariaethau’r Ddeddf hon a rhai Deddf Addysg 1996 (p.56) i’w darllen fel pe bai pob un ohonynt wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996 (ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (2)).

(2)Pan roddir, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, ystyr i ymadrodd sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo yn Neddf Addysg 1996 (p.56), mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno, yn lle’r ystyr a roddir at ddibenion Deddf Addysg 1996 (p.56).

(3)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “amod arbennig” (“special condition”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 4 o Atodlen 3;

  • mae i “amod capio ffioedd” (“fee capping condition”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 3;

  • mae i “amod trosglwyddo” (“transfer condition”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 12 o Atodlen 3;

  • mae i “corff cydnabyddedig” (“recognised body”) yr ystyr a roddir yn adran 12(2);

  • ystyr “corff dyfarnu” (“awarding body”) yw person sy’n dyfarnu, neu sy’n bwriadu dyfarnu, cymhwyster;

  • mae i “cosb ariannol” (“monetary penalty”) yr ystyr a roddir yn adran 38(3);

  • ystyr “cwmni” yw cwmni fel y diffinnir “company” yn adran 1(1) o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p.46);

  • mae i “cydnabyddiaeth” (“recognition”) yr ystyr a roddir yn adran 12(2);

  • mae i “cymhwyster” (“qualification”) yr ystyr a roddir yn adran 56;

  • ystyr “cymhwyster a gymeradwywyd” (“approved qualification”) yw ffurf ar gymhwyster a gymeradwywyd gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 4 (cymhwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);

  • mae i “cymhwyster blaenoriaethol” (“priority qualification”) yr ystyr a roddir yn adran 13(6);

  • mae i “cymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig” (“unrestricted priority qualification”) yr ystyr a roddir yn adran 13(6);

  • mae i “cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig” (“restricted priority qualification”) yr ystyr a roddir yn adran 13(6);

  • ystyr “darparwr dysgu” (“learning provider”) yw person sy’n darparu addysg neu hyfforddiant sy’n arwain at gymhwyster;

  • ystyr “dysgwyr” (“learners”) yw personau sy’n ceisio cael cymwysterau, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael cymwysterau;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

  • mae i “meini prawf cydnabod cyffredinol” (“general recognition criteria”) yr ystyr a roddir yn adran 5(1);

  • mae i “meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster” (“qualification specific recognition criteria”) yr ystyr a roddir yn adran 6(1);

  • ystyr “prif nodau” (“principal aims”) Cymwysterau Cymru yw’r nodau a restrir yn adran 3(1);

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad o fewn y sector addysg uwch;

  • mae i “system gymwysterau Cymru” (“Welsh qualification system”) yr ystyr a roddir yn adran 3(3);

  • ystyr “trefniadau asesu” (“assessment arrangements”), mewn perthynas â chymhwyster, yw trefniadau ar gyfer asesu’r sgiliau perthnasol, yr wybodaeth berthnasol a’r ddealltwriaeth berthnasol mewn perthynas â’r cymhwyster;

  • “yr wybodaeth berthnasol, y sgiliau perthnasol neu’r ddealltwriaeth berthnasol” (“relevant knowledge, skills or understanding”), mewn perthynas â chymhwyster, yw’r wybodaeth, y sgiliau neu’r ddealltwriaeth y mae’n ofynnol eu dangos at ddiben penderfynu pa un ai i ddyfarnu’r cymhwyster i berson.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon dim ond os yw’r gweithgareddau a gynhelir gan berson at ddibenion dangos yr wybodaeth berthnasol, y sgiliau perthnasol neu’r ddealltwriaeth berthnasol yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru yr asesir y person yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, mewn cysylltiad â chymhwyster.

(5)Mae gan berson anhawster dysgu, at ddibenion y Ddeddf hon, os oes gan y person hwnnw—

(a)anghenion addysgol arbennig, neu

(b)anhawster i ddysgu sy’n llawer mwy na’r rhan fwyaf o bersonau sydd o’r un oedran â’r person, neu

(c)anabledd sydd naill ai’n atal neu’n rhwystro’r person rhag defnyddio cyfleusterau addysgol o’r math a ddarperir yn gyffredinol i bersonau o’r un oedran.

(6)Ond, nid yw person i’w gymryd fel pe bai ganddo anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu’r ffurf ar iaith) a ddefnyddir, neu a fydd yn cael ei defnyddio, i addysgu’r person yn wahanol i’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) sydd wedi ei siarad ar unrhyw adeg yng nghartref y person.

(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gorff yn cael ei gydnabod mewn cysylltiad â chymhwyster i’w dehongli yn unol ag adran 12.

(8)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ddyfarnu ffurf ar gymhwyster fel cymhwyster a gymeradwywyd i’w dehongli yn unol ag adran 22(4).

58Diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.

59Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “deddfiad” yw deddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, sydd wedi ei gynnwys yn un o’r canlynol neu wedi ei wneud o dan un ohonynt⁠—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

60Dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 1;

(b)adran 2(3);

(c)adrannau 55 i 57;

(d)adran 59;

(e)yr adran hon;

(f)adran 61;

(g)Atodlen 2.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

61Enw byr a chynnwys y Ddeddf fel un o’r Deddfau Addysg

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015.

(2)Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

(cyflwynwyd gan adran 2)

ATODLEN 1CYMWYSTERAU CYMRU

RHAN 1SEFYDLU CYMWYSTERAU CYMRU

Statws

1Nid yw Cymwysterau Cymru i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

Aelodaeth

2Mae Cymwysterau Cymru i gynnwys yr aelodau a ganlyn—

(a)person a benodir o dan baragraff 10 yn brif weithredwr Cymwysterau Cymru (“y prif weithredwr”);

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru i gadeirio Cymwysterau Cymru (“y cadeirydd”);

(c)o leiaf wyth a dim mwy na deg person arall a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn (“aelodau arferol”).

Y cadeirydd ac aelodau arferol

3(1)Mae’r cadeirydd a’r aelodau arferol yn dal swyddi ac yn eu gadael yn unol â thelerau ac amodau eu penodiadau.

(2)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon, Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu ar y telerau a’r amodau hynny.

4(1)Mae person wedi ei anghymwyso rhag bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol os yw’r person—

(a)yn aelod o gorff dyfarnu a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff;

(b)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi.

(2)Mae person yn peidio â dal swydd cadeirydd neu aelod arferol os yw’r person hwnnw yn dod yn anghymwys.

5(1)Mae’r cadeirydd i’w benodi am dymor o hyd at dair blynedd.

(2)Dim ond unwaith y caniateir i berson gael ei ailbenodi yn gadeirydd.

6(1)Mae aelodau arferol i’w penodi am dymor o hyd at dair blynedd.

(2)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd aelod arferol gael ei ailbenodi.

(3)Ni chaiff telerau unrhyw ailbenodiad ganiatáu i aelod arferol ddal swydd am gyfanswm o fwy na chwe blynedd (pa un a yw’r cyfnod hwnnw yn gyfnod parhaus ai peidio).

(4)Ond pan na fo person a benodwyd o’r blaen yn aelod arferol wedi dal swydd o’r fath am gyfnod yn union cyn hynny o dair blynedd neu ragor, mae cyfnod neu gyfnodau blaenorol y person hwnnw fel aelod arferol i’w diystyru at ddibenion is-baragraff (3).

7Caiff y cadeirydd neu aelod arferol ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ac i Gymwysterau Cymru.

8Caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd neu aelod arferol o’i swydd os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r person yn gallu cyflawni swyddogaethau’r swydd, neu ei fod yn anaddas i’w cyflawni, neu fel arall yn methu â’u cyflawni.

9Caiff Cymwysterau Cymru, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu tâl, lwfansau a phensiwn i berson sy’n gadeirydd neu’n aelod arferol neu sydd wedi bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol, neu mewn cysylltiad â hwy.

Y prif weithredwr a staff eraill

10(1)Mae’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru—

(a)ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arnynt, a

(b)am gyfnod o hyd at dair blynedd.

(2)Cymwysterau Cymru sydd i benodi (neu ailbenodi) person yn brif weithredwr wedi hynny.

11Ni chaniateir i berson gael ei benodi yn brif weithredwr os yw’r person—

(a)yn aelod o gorff dyfarnu a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff;

(b)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi.

12Nid yw penodiad blaenorol person yn brif weithredwr yn effeithio ar gymhwystra’r person hwnnw i gael ei ailbenodi.

13Mae’r prif weithredwr yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

14Caiff Cymwysterau Cymru benodi aelodau eraill o staff.

15Ac eithrio mewn perthynas â’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr o dan baragraff 10(1), mae’r canlynol i’w benderfynu gan Gymwysterau Cymru, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)telerau ac amodau ei staff (gan gynnwys tâl a lwfansau);

(b)talu neu wneud darpariaeth i dalu pensiwn i aelod o’i staff neu gyn-aelod o’i staff, neu mewn cysylltiad ag ef.

16Nid yw gwasanaeth fel aelod o staff Cymwysterau Cymru yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

Pwyllgorau

17(1)Caiff Cymwysterau Cymru sefydlu pwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn—

(a)sefydlu is-bwyllgorau;

(b)diddymu is-bwyllgorau a sefydlir ganddo.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru hefyd ddiddymu is-bwyllgorau a sefydlir o dan y paragraff hwn.

(4)Caiff Cymwysterau Cymru dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, ond

(b)nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff.

18(1)Caiff Cymwysterau Cymru, mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, sefydlu pwyllgor ar y cyd ag unrhyw berson.

(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn fel “cyd-bwyllgor”.

(3)Caiff cyd-bwyllgor sefydlu is-bwyllgorau (“cyd-is-bwyllgorau”).

(4)Caiff Cymwysterau Cymru dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor, ond

(b)nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff.

Dirprwyo

19(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i—

(a)aelod o Gymwysterau Cymru neu aelod o’i staff;

(b)pwyllgor a sefydlir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 17;

(c)cyd-bwyllgor.

(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu arnynt.

20(1)Caiff pwyllgor a sefydlir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 17 ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlir ganddo.

(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau y mae’r pwyllgor yn penderfynu arnynt, ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Gymwysterau Cymru o ran yr hyn y caiff pwyllgor a sefydlir ganddo ei wneud neu beidio â’i wneud.

21(1)Caiff cyd-bwyllgor ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlir ganddo.

(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau y mae’r cyd-bwyllgor yn penderfynu arnynt, ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Gymwysterau Cymru a’r person y sefydlodd y cyd-bwyllgor gydag ef o ran yr hyn y caiff y cyd-bwyllgor ei wneud neu beidio â’i wneud.

Gweithdrefn

22Caiff Cymwysterau Cymru reoleiddio—

(a)ei weithdrefnau ei hun (gan gynnwys cworwm), a

(b)gweithdrefn (gan gynnwys cworwm) ei bwyllgorau (ac eithrio cyd-bwyllgorau).

23Caiff pwyllgor a sefydlir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 17 reoleiddio gweithdrefn (gan gynnwys cworwm) unrhyw is-bwyllgor a sefydlir ganddo.

24Caiff cyd-bwyllgor reoleiddio—

(a)ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm), a

(b)gweithdrefn (gan gynnwys cworwm) unrhyw is-bwyllgor a sefydlir ganddo.

25Nid effeithir ar ddilysrwydd trafodion Cymwysterau Cymru, pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan baragraff 17, neu drafodion cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor, gan—

(a)swydd wag;

(b)penodiad diffygiol.

Cofrestr buddiannau

26(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru sefydlu a chynnal system ar gyfer datgan a chofrestru buddiannau ei aelodau.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi cofnodion a gofnodir yng nghofrestr buddiannau’r aelodau.

Pwerau atodol

27(1)Caiff Cymwysterau Cymru wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy.

(2)Ond ni chaniateir i Gymwysterau Cymru, heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)caffael neu waredu tir neu unrhyw eiddo arall, am gydnabyddiaeth o swm sydd uwchlaw’r trothwy gwariant;

(b)cael benthyg neu roi benthyg arian.

(3)Y trothwy gwariant yw pa swm bynnag (os oes swm) a bennir mewn hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru i Gymwysterau Cymru at ddibenion y paragraff hwn.

(4)Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (3)—

(a)pennu trothwyon gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o dir neu eiddo arall, a

(b)cael ei amrywio neu ei ddirymu gan Weinidogion Cymru.

Adroddiadau blynyddol ac adroddiadau eraill

28(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i Gymwysterau Cymru lunio adroddiad (“yr adroddiad blynyddol”) sy’n rhoi manylion am—

(a)sut y mae Cymwysterau Cymru wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod (gan gynnwys drwy gyfeirio at ei brif nodau);

(b)gweithgareddau a blaenoriaethau arfaethedig Cymwysterau Cymru am y cyfnod adrodd nesaf.

(2)Mae’r wybodaeth sydd i’w chynnwys o dan is-baragraff (1)(a) yn cynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a)manylion casgliadau unrhyw asesiad a gynhelir gan Gymwysterau Cymru, yn ystod y cyfnod adrodd, o effaith arfer ei swyddogaethau ar—

(i)system gymwysterau Cymru;

(ii)dysgwyr, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch;

(b)manylion o ran sut y mae Cymwysterau Cymru wedi cynnwys rhanddeiliaid wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod adrodd;

(c)manylion am unrhyw gasgliadau y daethpwyd iddynt, yn ystod y cyfnod adrodd, o ganlyniad i unrhyw waith ymchwil a gynhaliwyd gan neu ar ran Cymwysterau Cymru o dan adran 46(3).

(3)Yn is-baragraff (2)(b) ystyr “rhanddeiliaid” yw’r personau hynny y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried bod ganddynt fuddiant yn arferiad ei swyddogaethau.

(4)Caiff yr adroddiad blynyddol gynnwys unrhyw wybodaeth arall sy’n briodol ym marn Cymwysterau Cymru.

(5)Yn y paragraff hwn ystyr “cyfnod adrodd” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2(1) i rym ac sy’n dod i ben â 31 Awst 2016; a

(b)wedi hynny, pob cyfnod olynol o 12 mis.

29Rhaid i Gymwysterau Cymru—

(a)gosod copi o’r adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)cyhoeddi’r adroddiad blynyddol.

30Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n briodol yn ei farn ef, lunio a chyhoeddi adroddiadau eraill ar faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau.

Ariannu

31(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i Gymwysterau Cymru o unrhyw symiau ac yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran ad-dalu) y maent yn penderfynu arnynt.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw delerau ac amodau y mae grantiau a wneir o dan is-baragraff (1) yn ddarostyngedig iddynt.

Cyfrifon ac archwilio

32(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru gadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon.

(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio datganiad o gyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â’r cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff y cyfarwyddydau wneud darpariaeth o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad;

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno;

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy;

(d)unrhyw wybodaeth arall sydd i fynd gyda’r datganiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd a roddwyd ganddynt o dan y paragraff hwn.

33(1)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gymwysterau Cymru gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.

34Ym mharagraffau 32 a 33 ystyr “blwyddyn ariannol” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2(1) i rym ac sy’n dod i ben â’r 31 Mawrth a ganlyn;

(b)wedi hynny, pob cyfnod olynol o 12 mis.

Cynnal ymchwiliadau i’r defnydd o adnoddau

35(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd sydd wedi ei wneud o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau Cymwysterau Cymru.

(2)Nid yw is-baragraff (1) i’w ddehongli fel pe bai’n rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi Cymwysterau Cymru.

RHAN 2DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)

36Yn Atodlen 2A i Ddeddf Safonau Gofal 2000 (personau sy’n ddarostyngedig i adolygiad gan y comisiynydd o dan adran 72B), ar ôl paragraff 10, mewnosoder—

10AQualifications Wales.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36)

37Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), yn y man priodol mewnosoder—

  • Qualifications Wales.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10)

38Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ymchwilio i gwynion etc: awdurdodau rhestredig), o dan yr is-bennawd “Education and training”, ar y diwedd mewnosoder—

  • Qualifications Wales.

Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p.30)

39Yn Atodlen 2 i Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (personau y mae eu swyddogaethau yn ddarostyngedig i adolygiad o dan adran 3), o dan yr is-bennawd “Education and training”—

(a)hepgorer y cofnod “The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales”, a

(b)ar y diwedd mewnosoder—

  • Qualifications Wales.

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p.15)

40Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan yr is-bennawd “Other educational bodies”, ar y diwedd mewnosoder⁠—

  • Qualifications Wales.

(a gyflwynwyd gan adran 2)

ATODLEN 2TROSGLWYDDO EIDDO A STAFF I GYMWYSTERAU CYMRU

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o gynlluniau sy’n darparu—

(a)i staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ddod yn aelodau o staff Cymwysterau Cymru, a

(b)i eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru gael eu trosglwyddo i Gymwysterau Cymru.

(2)Mae’r pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun o dan yr Atodlen hon (“cynllun trosglwyddo”) yn cynnwys—

(a)eiddo, hawliau a rhwymedigaethau na ellid eu trosglwyddo fel arall;

(b)eiddo a gaffaelir, a hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.

(3)Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, atodol, gysylltiedig, drosiannol neu ddarfodol, er enghraifft er mwyn—

(a)creu hawliau, neu osod rhwymedigaethau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(d)gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchenogaeth eiddo neu ddefnydd ohono;

(e)gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Lywodraeth Cynulliad Cymru neu Weinidogion Cymru mewn offeryn neu ddogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir gael eu trin fel cyfeiriadau at Gymwysterau Cymru;

(f)gwneud darpariaeth sydd yr un fath â darpariaeth a wneir gan y rheoliadau TUPE, neu sy’n debyg iddi, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddo.

2Caiff cynllun trosglwyddo ddarparu—

(a)ar gyfer addasu drwy gytundeb;

(b)i addasiadau gael effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun gwreiddiol i rym.

3At ddibenion yr Atodlen hon—

(a)mae unigolyn sydd â chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil i gael ei drin fel pe bai’n gyflogedig yn rhinwedd contract cyflogaeth, a

(b)mae telerau cyflogaeth yr unigolyn yn y gwasanaeth sifil i gael eu hystyried fel pe baent yn ffurfio telerau’r contract cyflogaeth.

4Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “gwasanaeth sifil” (“civil service”) yw gwasanaeth sifil y Wladwriaeth;

  • ystyr “rheoliadau TUPE” (“TUPE regulations”) yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (OS 2006/246);

  • mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys rhoi les;

  • mae cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau sy’n ymwneud â chontract cyflogaeth.

5Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o gynllun trosglwyddo a wneir o dan yr Atodlen hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(a gyflwynwyd gan adran 11)

ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU

Cyfnod para cydnabyddiaeth

1(1)Mae’r gydnabyddiaeth o gorff dyfarnu yn cael effaith o ba ddyddiad bynnag a bennir gan Gymwysterau Cymru wrth gydnabod y corff.

(2)Mae’n peidio â chael effaith ar yr achlysur cynharaf o’r canlynol—

(a)pan gaiff ei hildio o dan baragraff 17;

(b)pan gaiff ei thynnu’n ôl o dan baragraff 19;

(c)pan fydd y corff dyfarnu (yn achos corff a gydnabyddir o dan adran 9) yn peidio â chael ei gydnabod o dan adran 8.

Amodau cydnabod safonol

2(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio a chyhoeddi amodau (yr ”amodau safonol”) y mae (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4)) pob cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu i fod yn ddarostyngedig iddynt.

(2)Caiff yr amodau safonol, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch cydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir i gorff cydnabyddedig gan Gymwysterau Cymru o dan y paragraff hwn.

(3)Caniateir i amodau safonol gwahanol gael eu gosod at ddibenion gwahanol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at—

(a)disgrifiadau gwahanol o gyrff dyfarnu;

(b)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster (gan gynnwys drwy gyfeirio at ba un a yw cymhwyster yn gymhwyster a gymeradwywyd neu’n gymhwyster sydd wedi ei ddynodi o dan adran 29 ai peidio);

(c)amgylchiadau gwahanol y dyfernir cymhwyster odanynt;

(d)disgrifiadau gwahanol o berson y dyfernir cymhwyster iddo.

(4)Caiff Cymwysterau Cymru benderfynu, mewn achos penodol, nad yw cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu i fod yn ddarostyngedig i amod safonol a bennir yn y penderfyniad a fyddai fel arall yn gymwys.

(5)Caniateir i benderfyniad o fewn is-baragraff (4) gael ei wneud naill ai ar adeg rhoi’r gydnabyddiaeth o dan sylw, neu wedi hynny, a chaiff Cymwysterau Cymru ei ddirymu.

(6)Ni chaiff yr amodau safonol gynnwys—

(a)amodau capio ffioedd (gweler paragraffau 6 i 11 am y rhain);

(b)amodau trosglwyddo (gweler paragraffau 12 i 16 am y rhain).

3(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r amodau safonol; ac os yw’n gwneud hynny, mae pob cydnabyddiaeth (pa un a’i rhoddir cyn neu ar ôl i’r diwygiadau ddod i rym) i fod yn ddarostyngedig i’r amodau fel y’u diwygiwyd.

(2)Mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 2(3) a (4).

(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r amodau safonol, rhaid iddo—

(a)cyhoeddi’r amodau fel y’u diwygiwyd,

(b)hysbysu pob corff cydnabyddedig am y diwygiadau, a pha bryd y maent i gael effaith.

(4)Caiff Cymwysterau Cymru ddarparu bod diwygiad i’r amodau i gael effaith ar ddyddiadau gwahanol mewn perthynas â chyrff gwahanol, neu mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o gorff.

(5)Nid yw diwygiad i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith mewn perthynas â chorff cyn i’r corff gael ei hysbysu amdano.

Amodau arbennig y caniateir i gydnabyddiaeth fod yn ddarostyngedig iddynt

4(1)Caniateir i’r gydnabyddiaeth o gorff, yn ychwanegol, gael ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill (“amodau arbennig”) a bennir gan Gymwysterau Cymru, naill ai ar adeg cydnabod y corff neu wedi hynny.

(2)Caiff yr amodau arbennig gynnwys—

(a)amodau capio ffioedd;

(b)amodau trosglwyddo;

(c)amodau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir o dan y paragraff hwn gan Gymwysterau Cymru.

(3)Caiff amodau arbennig wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at—

(a)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster (gan gynnwys drwy gyfeirio at ba un a yw cymhwyster yn gymhwyster a gymeradwywyd neu’n gymhwyster sydd wedi ei ddynodi o dan adran 29 ai peidio);

(b)amgylchiadau gwahanol y dyfernir cymhwyster odanynt;

(c)disgrifiadau gwahanol o berson y dyfernir cymhwyster iddo.

5(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio neu ddirymu amod arbennig.

(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio neu’n dirymu amod arbennig, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r corff o dan sylw am y diwygiad neu’r dirymiad, a

(b)pennu pa bryd y mae’r diwygiad neu’r dirymiad i ddod i rym.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(b) beidio â rhagflaenu’r dyddiad hysbysu o dan is-baragraff (2)(a).

(4)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 11 (diwygio amod capio ffioedd).

Amodau capio ffioedd

6(1)Mae amod capio ffioedd yn amod arbennig sy’n cyfyngu ar y swm a godir gan gorff cydnabyddedig mewn cysylltiad â—

(a)dyfarnu gan y corff i berson gymhwyster a gymeradwywyd,

(b)dyfarnu gan y corff i berson ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi o dan adran 29, neu

(c)darparu gan y corff unrhyw wasanaeth neu gyfleuster arall mewn cysylltiad â dyfarnu gan y corff i berson gymhwyster a gymeradwywyd neu ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi o dan adran 29, yn ôl y digwydd,

pan fo’r cwrs addysg neu hyfforddiant sy’n arwain at y cymhwyster, ac y mae’r person o dan sylw yn ymgymryd ag ef, yn cael ei gyllido’n gyhoeddus.

(2)Mae cwrs addysg neu hyfforddiant yn cael ei gyllido’n gyhoeddus, at ddibenion y paragraff hwn,—

(a)os y’i cyllidir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru, neu

(b)os y’i darperir gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru.

(3)Yn y paragraff hwn, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

(a)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol;

(b)ysgol arbennig gymunedol.

7Dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni ei bod yn briodol gosod amod capio ffioedd er mwyn sicrhau gwerth am arian y caiff wneud hynny.

Y weithdrefn ar gyfer gosod amodau capio ffioedd

8(1)Cyn gosod amod capio ffioedd, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff o dan sylw hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi’r amod capio ffioedd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu ei osod;

(b)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu gosod yr amod;

(c)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i’w osod.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i osod yr amod, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig.

9(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu gosod yr amod capio ffioedd, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi gwybod i’r corff am ei hawl o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 10 i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,

(b)datgan y dyddiad olaf y caniateir gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac

(c)pennu’r dyddiad y mae’r amod, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gymryd effaith.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(c) fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 10.

Adolygu amodau capio ffioedd

10(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau i benderfyniad o dan baragraff 9 i osod amod capio ffioedd fod yn ddarostyngedig i adolygiad ar gais y corff cydnabyddedig o dan sylw.

(2)Rhaid i’r trefniadau—

(a)pennu’r cyfnod y caniateir gwneud cais am adolygiad ynddo,

(b)gwneud darpariaeth i‘r person sy’n cynnal yr adolygiad wneud argymhellion i Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r amod capio ffioedd o dan sylw,

(c)gwneud darpariaeth i Gymwysterau Cymru, ar ôl ystyried yr argymhellion hynny, naill ai cadarnhau neu wrthdroi ei benderfyniad i osod yr amod, neu newid yr amod o dan sylw, a

(d)ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff o dan sylw am ganlyniad yr adolygiad.

(3)Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru gynnal adolygiad.

(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i osod amod, neu’n newid yr amod o dan sylw, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff o dan sylw—

(a)sy’n nodi’r amod, fel y’i cadarnhawyd neu fel y’i newidiwyd,

(b)sy’n rhoi rhesymau dros y cadarnhad neu’r newid, ac

(c)sy’n datgan y dyddiad y bydd yr amod, neu’r amod fel y’i newidiwyd, yn cymryd effaith.

Diwygio amodau capio ffioedd

11Mae paragraffau 8 i 10 yn gymwys mewn cysylltiad â diwygio amod capio ffioedd o dan baragraff 5 fel pe bai’r diwygiad yn gyfystyr â gosod amod capio ffioedd.

Amodau trosglwyddo

12(1)Mae amod trosglwyddo yn amod arbennig sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff dyfarnu, yn achos digwyddiad a bennir yn yr amod, ac yn unol â chyfarwyddyd Cymwysterau Cymru, wneud trefniadau a bennir yn y cyfarwyddyd at ddiben sicrhau y caniateir i ffurf ar gymhwyster sy’n cael ei dyfarnu neu sydd wedi ei dyfarnu gan y corff gael ei dyfarnu gan gorff dyfarnu arall—

(a)pan fo’r ffurf ar gymhwyster wedi ei chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru, neu

(b)pan fo’r ffurf ar gymhwyster wedi ei dynodi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 29.

(2)Caiff y trefniadau gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ar gyfer trosglwyddo eiddo a hawliau ac ar gyfer gwneud taliadau.

(3)Dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo er mwyn osgoi effeithiau andwyol sylweddol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar gymhwyster y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi y caiff wneud hynny.

13(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo, rhaid iddo roi i’r corff o dan sylw hysbysiad am y cynnig.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(b)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd;

(c)pennu pa bryd y mae’n bwriadu penderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.

14(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu rhoi’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi i’r corff dyfarnu hysbysiad am y penderfyniad, sy’n nodi’r cyfarwyddyd.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi gwybod i’r corff am ei hawl i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,

(b)datgan y dyddiad olaf y caniateir gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac

(c)pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae’r cyfarwyddyd, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gael effaith.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(c) fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 16.

15Os yw Cymwysterau Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo, caiff, os yw’n ystyried ei bod yn rhesymol ac yn briodol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau, dalu digollediad i’r corff mewn cysylltiad â’r golled y mae’r corff wedi ei chael oherwydd cydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

Adolygu penderfyniad i roi cyfarwyddyd

16(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau i’w benderfyniad i roi’r cyfarwyddyd y cyfeirir ato ym mharagraff 14 fod yn ddarostyngedig i adolygiad ar gais y corff dyfarnu o dan sylw.

(2)Rhaid i’r trefniadau—

(a)pennu’r cyfnod y caniateir gwneud cais am adolygiad ynddo,

(b)gwneud darpariaeth i’r person sy’n cynnal yr adolygiad wneud argymhellion i Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r cyfarwyddyd,

(c)gwneud darpariaeth i Gymwysterau Cymru, ar ôl ystyried yr argymhellion hynny, naill ai cadarnhau neu wrthdroi ei benderfyniad i roi’r cyfarwyddyd, neu newid y cyfarwyddyd, a

(d)ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff o dan sylw am ganlyniad yr adolygiad.

(3)Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru gynnal adolygiad.

(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i roi cyfarwyddyd, neu’n newid y cyfarwyddyd o dan sylw, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff o dan sylw—

(a)sy’n nodi’r cyfarwyddyd, fel y’i cadarnhawyd neu fel y’i newidiwyd,

(b)sy’n rhoi rhesymau dros y cadarnhad neu’r newid, ac

(c)sy’n datgan y dyddiad y bydd y cyfarwyddyd, neu’r cyfarwyddyd fel y’i newidiwyd, yn cymryd effaith.

Ildio cydnabyddiaeth

17(1)Caiff corff cydnabyddedig roi hysbysiad (“hysbysiad idlio”) i Gymwysterau Cymru ei fod yn dymuno peidio â chael ei gydnabod mewn cysylltiad—

(a)â dyfarnu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu

(b)â phob cymhwyster y’i cydnabyddir mewn cysylltiad ag ef.

(2)Rhaid i hysbysiad ildio bennu’r dyddiad y mae’r corff yn dymuno peidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt o dan sylw pan ddaw i ben.

(3)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad ildio ddod i law, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig (“cydnabyddiaeth o ildio”) sy’n darparu bod y corff i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt hwnnw pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben neu, os yw Cymwysterau Cymru o’r farn ei bod yn briodol, pan ddaw dyddiad gwahanol i ben.

(4)Os yw’r gydnabyddiaeth o ildio yn pennu bod y corff i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt hwnnw pan ddaw dyddiad gwahanol i’r un a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, rhaid i’r gydnabyddiaeth o ildio roi rhesymau dros hyn.

(5)Mae cydnabyddiaeth yn y cyswllt o dan sylw yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio i ben.

(6)Wrth benderfynu a yw cydnabyddiaeth corff i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, neu pan ddaw dyddiad gwahanol i ben, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r canlynol—

(a)yr angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, a bennir yn yr hysbysiad ildio, a

(b)dymuniad y corff y dylai’r gydnabyddiaeth beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben.

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad ag ildio

18(1)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael y cymhwyster o dan sylw, neu gymhwyster o’r disgrifiad o dan sylw, wneud darpariaeth mewn cydnabyddiaeth o ildio o dan baragraff 17(3) sydd o fewn is-baragraff (2).

(2)Mae darpariaeth o fewn yr is-baragraff hwn yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y corff, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei drin at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn y gydnabyddiaeth o ildio, a

(b)mae’r corff i gael ei drin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben, at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(4)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio at ddibenion y paragraff hwn;

  • ystyr “dyddiad ildio” (“surrender date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel yr un y mae’r corff i beidio â chael ei gydnabod pan ddaw i ben.

Tynnu cydnabyddiaeth yn ôl

19(1)Os yw corff cydnabyddedig yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae cydnabyddiaeth mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu—

(a)cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu

(b)pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

(2)Os yw corff cydnabyddedig sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu⁠—

(a)cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu

(b)pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

Y weithdrefn ar gyfer tynnu cydnabyddiaeth yn ôl

20(1)Cyn tynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrth gorff cydnabyddedig o dan baragraff 19, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu tynnu cydnabyddiaeth yn ôl yn y cyswllt o dan sylw, a

(b)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl fel y’i pennir yn yr hysbysiad, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig.

21(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi gwybod i’r corff am ei hawl o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 22 i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,

(b)datgan y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac

(c)pennu’r dyddiad y mae’r tynnu’n ôl, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gymryd effaith pan ddaw i ben (y “dyddiad tynnu’n ôl”).

(3)Rhaid i’r dyddiad tynnu’n ôl fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 22.

(4)Ar unrhyw adeg cyn y dyddiad tynnu’n ôl, caiff Cymwysterau Cymru benderfynu peidio â thynnu cydnabyddiaeth y corff yn ôl; ac os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo roi i’r corff hysbysiad i’r perwyl hwn.

(5)Wrth benderfynu ar y dyddiad tynnu’n ôl, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, y mae cydnabyddiaeth i gael ei thynnu’n ôl mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

Adolygu penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl

22(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau i benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrth gorff fod yn ddarostyngedig i adolygiad ar gais y corff o dan sylw.

(2)Rhaid i’r trefniadau—

(a)pennu’r cyfnod y caniateir gwneud cais am adolygiad ynddo,

(b)gwneud darpariaeth i’r person sy’n cynnal yr adolygiad wneud argymhellion i Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r tynnu’n ôl,

(c)gwneud darpariaeth i Gymwysterau Cymru, ar ôl ystyried yr argymhellion hynny, naill ai cadarnhau neu wrthdroi ei benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl, a

(d)ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff o dan sylw am ganlyniad yr adolygiad.

(3)Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru gynnal adolygiad.

(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff o dan sylw—

(a)sy’n rhoi rhesymau dros y cadarnhad, a

(b)sy’n datgan y dyddiad y bydd y tynnu’n ôl yn cymryd effaith pan ddaw i ben.

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thynnu’n ôl

23(1)Caiff hysbysiad o dan baragraff 21 neu 22 gynnwys darpariaeth o fewn is-baragraff (2), os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried bod y ddarpariaeth honno yn briodol at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael y cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, y mae cydnabyddiaeth i gael ei thynnu’n ôl mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

(2)Mae darpariaeth o fewn yr is-baragraff hwn yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y corff, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei drin at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth mewn hysbysiad o fewn is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn yr hysbysiad, a

(b)mae’r corff i gael ei drin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben, at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(4)Mae is-baragraff (5) yn gymwys—

(a)os yw hysbysiad o dan baragraff 21 yn cynnwys darpariaeth o fewn is-baragraff (2) (“y ddarpariaeth estyn wreiddiol”), a

(b)os yw adolygiad o’r penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl yn cael ei gynnal o dan baragraff 22.

(5)Nid yw’r ddarpariaeth estyn wreiddiol yn cael unrhyw effaith, at ddibenion is-baragraff (3)(b), onis cadarnheir mewn hysbysiad o dan baragraff 22 sy’n cadarnhau’r penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl.

(6)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad at ddibenion y paragraff hwn;

  • ystyr “dyddiad tynnu’n ôl” (“withdrawal date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad fel yr un y mae’r gydnabyddiaeth i gael ei thynnu’n ôl pan ddaw i ben.

(a gyflwynwyd gan adran 58)

ATODLEN 4DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Addysg 1996 (p.56)

1(1)Mae Deddf Addysg 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 408—

(a)yn is-adran (1)(a) ar ôl “2009” mewnosoder “or the provisions of the Qualifications Wales Act 2015”;

(b)yn is-adran (2)(e) hepgorer “or 99”;

(c)ar ôl is-adran (2)(e), mewnosoder—

(f)arrangements relating to qualifications within the meaning given in section 56 of the Qualifications Wales Act 2015 which are approved under Part 4 of that Act and to courses of education or training leading to such qualifications.

(3)Yn Atodlen 36A, yn y tabl ym mharagraff 2, yn y cofnod ar gyfer adrannau 96, 101 a 102 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000—

(a)yn y golofn gyntaf, hepgorer “and 102”;

(b)yn yr ail golofn, ar ôl “qualifications” mewnosoder “(in England)”.

Deddf Addysg 1997 (p.44)

2(1)Mae Deddf Addysg 1997 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 29, ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)In this section references to “school examinations and assessment” do not include examinations taken or assessments carried out for the purpose of the award of a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015.

(3)Hepgorer—

(a)adran 30;

(b)adran 32(3), (3A) a (4);

(c)adrannau 32ZA i 32C.

(4)Yn adran 54 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)yn is-adran (2) hepgorer “32AB(2) or”;

(b)hepgorer is-adran (2A).

Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21)

3(1)Mae Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 96—

(a)yn is-adran (2)—

(i)yn y geiriau agoriadol, hepgorer “or 99”;

(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “maintained school” mewnosoder “in England”;

(b)yn lle is-adran (5) rhodder—

(5)In this section “a relevant qualification” means a qualification to which Part 7 of the Apprenticeships, Skills, Children and Learning Act 2009 applies.;

(c)yn is-adran (9), yn lle “102 “local authority” has the same meaning as” rhodder “101 “local authority” has the same meaning as “local authority in England””.

(3)Yn y croesbennawd yn union cyn adran 96, ar y diwedd mewnosoder “: England”.

(4)Yn adran 98 (y daw ei henw’n “Approved qualifications”), yn is-adran (1) hepgorer y geiriau o “in its” i’r diwedd.

(5)Hepgorer adran 99.

(6)Yn adran 100—

(a)yng ngeiriau agoriadol is-adran (1), hepgorer “in its application to England”;

(b)hepgorer is-adran (2).

(7)Yn adran 101 (y daw ei henw’n “Enforcement”), yn is-adran (1) hepgorer “in its application to England”.

(8)Hepgorer adran 102.

(9)Hepgorer adran 103(4).

Deddf Addysg 2002 (p.32)

4Hepgorer paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg 2002.

Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238)

5Hepgorer paragraff 72 o Atodlen 1 i Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Cyngor) 2005.

Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Awdurdod) 2005 (O.S. 2005/3239)

6Hepgorer paragraffau 14, 15, 18(c), (ch) a (d) a 30 o Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Awdurdod) 2005.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)

7Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ar ôl is-adran (2)(l) mewnosoder—

(la)Qualifications Wales,.

Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25)

8Hepgorer adrannau 160(1) a (3) a 162 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22)

9(1)Mae Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 253A(6) yn y diffiniad o “relevant qualification”, yn lle “by section 30(5) of the Education Act 1997” rhodder “to “qualification” by section 56 of the Qualifications Wales Act 2015”.

(3)Hepgorer paragraffau 45 ac 48 o Atodlen 6.

(4)Hepgorer paragraffau 15, 16(3), 17 i 19 a 29 o Atodlen 12.

Deddf Addysg 2011 (p.21)

10Hepgorer adran 24 o Ddeddf Addysg 2011.

Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (p.6)

11(1)Mae Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 32, yn is-adran (1), yn y diffiniad o “relevant further education body”, yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at ddiwedd paragraff (b) rhodder “, or to qualifications awarded by bodies in respect of the award of which they are recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

(3)Yn Atodlen 6, o dan y pennawd “Education, child care etc”, yn y cofnod olaf (sy’n ymwneud â chorff llywodraethu neu berchennog sefydliad nas rhestrir fel arall), yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at ddiwedd paragraff (a) rhodder “, or to qualifications awarded by bodies in respect of the award of which they are recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

(4)Yn Atodlen 7, o dan y pennawd “Education, child care etc”, yn y cofnod olaf (sy’n ymwneud â chorff llywodraethu neu berchennog sefydliad nas rhestrir fel arall), yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at ddiwedd paragraff (a) rhodder “, or to qualifications awarded by bodies in respect of the award of which they are recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill