Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Legislation Crest

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

2015 dccc 4

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cynllunio datblygu cenedlaethol, strategol a lleol yng Nghymru; i wneud darpariaeth i geisiadau penodol am ganiatâd cynllunio a cheisiadau penodol eraill gael eu gwneud i Weinidogion Cymru; i wneud darpariaethau eraill ynghylch rheoli datblygu a cheisiadau am ganiatâd cynllunio; i wneud darpariaeth ynghylch gorfodi, apelau a gweithdrefnau penodol eraill ym maes cynllunio; i ddiwygio Deddf Tiroedd Comin 2006; ac at ddibenion cysylltiedig.

[6 Gorffennaf 2015]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn: