Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

24Dehongli

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a roddir gan adran 14;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

  • ystyr “cam-drin” (“abuse”) yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol;

  • ystyr “cam-drin domestig” (“domestic abuse”) yw cam-drin a ddaw o du person sy’n gysylltiedig neu wedi bod yn gysylltiedig â’r dioddefwr;

  • ystyr “canllawiau statudol” (“statutory guidance”) yw canllawiau o dan adran 15;

  • ystyr “diben y Ddeddf hon” (“purpose of this Act”) yw’r diben a nodir yn adran 1;

  • ystyr “trais ar sail rhywedd” (“gender based violence”) yw—

    (a)

    trais, bygythiadau o drais neu aflonyddu sy’n codi yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol;

    (b)

    anffurfio organau cenhedlu benywod;

    (c)

    gorfodi person (pa un ai drwy rym corfforol neu orfodi drwy fygythiadau neu ddulliau seicolegol eraill) i ymrwymo i seremoni briodas grefyddol neu sifil (pa un a yw’n rhwymo mewn cyfraith ai peidio);

  • ystyr “trais rhywiol”(“sexual violence”) yw camfanteisio rhywiol, aflonyddu rhywiol neu fygythiadau o drais o natur rywiol.

(2)Mae person yn gysylltiedig â pherson arall at ddibenion y diffiniad o “cam-drin domestig” yn is-adran (1) os ydynt—

(a)yn briod â’i gilydd neu wedi bod yn briod â’i gilydd;

(b)yn bartneriaid sifil i’w gilydd neu wedi bod yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c)yn byw gyda’i gilydd neu wedi bod yn byw gyda’i gilydd mewn perthynas deuluol barhaus (pa un a ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw);

(d)yn byw neu wedi byw ar yr un aelwyd; ac at y diben hwn mae person yn aelod o aelwyd person arall—

(i)os yw’r person fel arfer yn byw gyda’r person arall fel aelod o’i deulu, neu

(ii)os y gellid disgwyl yn rhesymol i’r person fyw gyda’r person arall hwnnw;

(e)yn berthnasau i’w gilydd;

(f)wedi cytuno i briodi ei gilydd (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(g)wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil rhyngddynt (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(h)mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd, neu wedi bod mewn perthynas o’r fath;

(i)mewn perthynas â phlentyn, y naill a’r llall yn rhiant i’r plentyn neu â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath.

(3)Os yw plentyn wedi ei fabwysiadu neu’n dod o fewn is-adran (4), mae dau berson hefyd yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion y diffiniad o “cam-drin domestig” yn is-adran (1)—

(a)os yw un yn rhiant naturiol i’r plentyn neu’n rhiant i riant naturiol o’r fath, a

(b)y person arall yw—

(i)y plentyn, neu

(ii)person sydd wedi dod yn rhiant i’r plentyn yn rhinwedd gorchymyn mabwysiadu, sydd wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu, neu y mae’r plentyn wedi ei leoli gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu ar unrhyw adeg.

(4)Mae plentyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw asiantaeth fabwysiadu, o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), wedi ei hawdurdodi i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (gosod plentyn â chydsyniad rhiant) neu’r plentyn wedi dod yn destun gorchymyn o dan adran 21 o’r Ddeddf honno (gorchmynion lleoli), neu

(b)os yw’r plentyn yn cael ei ryddhau ar gyfer ei fabwysiadu yn rhinwedd gorchymyn a wneir—

(i)yng Nghymru a Lloegr, o dan adran 18 o Ddeddf Mabwysiadu 1976 (p.36), neu

(ii)yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 17(1) neu 18(1) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987 (O.S. 1987/2203), neu

(c)os yw’r plentyn yn destun gorchymyn parhauster yn yr Alban sy’n cynnwys rhoi’r awdurdod i fabwysiadu.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “aflonyddu” (“harassment”) yw llwybr ymddygiad gan berson y mae’n gwybod, neu y dylai wybod, ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu ar y llall; ac at ddiben y diffiniad hwn—

    (a)

    dylai person wybod bod ei ymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu, neu’n cynnwys aflonyddu, pe bai person rhesymol sy’n meddu ar yr un wybodaeth o’r farn bod y llwybr ymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu ar berson arall, neu’n cynnwys aflonyddu ar berson arall, a

    (b)

    mae “ymddygiad” yn cynnwys siarad;

  • ystyr “anffurfio organau cenhedlu benywod” (“female genital mutilation”) yw gweithred sy’n drosedd o dan adrannau 1, 2 neu 3 o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 (p.31);

  • ystyr “cam-drin ariannol” (“financial abuse”) yw—

    (a)

    bod arian neu eiddo arall yn cael ei ddwyn,

    (b)

    bod person yn cael ei dwyllo,

    (c)

    bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall, a

    (d)

    bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

  • ystyr “camfanteisio rhywiol” (“sexual exploitation”) yw rhywbeth a wneir i berson neu mewn perthynas â pherson—

    (a)

    sy’n cynnwys cyflawni trosedd o dan Ran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p.42), fel y mae’n cael effaith yng Nghymru a Lloegr, neu

    (b)

    a fyddai’n cynnwys cyflawni trosedd o’r fath pe bai’n cael ei wneud yng Nghymru a Lloegr;

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” (“parental responsibility”) yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41);

  • mae i “cytundeb partneriaeth sifil” (“civil partnership agreement”) yr ystyr a roddir i “civil partnership agreement” gan adran 73 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33);

  • ystyr “gorchymyn mabwysiadu” (“adoption order”) yw gorchymyn mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption order” gan adran 72(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 neu adran 46(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

  • ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â pherson, yw rhiant, tad-cu/taid, mam-gu/nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 mlwydd oed.