xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod perthnasol ar y modd y dylai’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon (“canllawiau statudol”).
(2)Gallai’r canllawiau statudol, ymysg pethau eraill, ymdrin â—
(a)y camau y caiff awdurdod eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu newid agweddau mewn perthynas â hwy (er enghraifft, drwy ddynodi aelod o staff at y diben hwnnw neu drwy ymgymryd â rhaglen addysg gyhoeddus neu gynorthwyo â rhaglen o’r fath);
(b)comisiynu cyngor arbenigol neu gymorth arall yn ymwneud â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan awdurdodau perthnasol;
(c)yr amgylchiadau pan fo’n briodol i bersonau sy’n gweithredu ar ran awdurdod perthnasol holi person a yw’n dioddef trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu mewn perygl o’u dioddef;
(d)y camau sy’n briodol pan fo gan berson sy’n gweithredu ar ran awdurdod perthnasol reswm i amau bod person yn dioddef trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu mewn perygl o’u dioddef;
(e)polisïau’r gweithle i hybu lles cyflogeion awdurdodau perthnasol y gallai trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio arnynt;
(f)hyfforddiant i aelodau a staff awdurdod perthnasol;
(g)rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau perthnasol neu gan awdurdod perthnasol â pherson arall;
(h)cydweithredu rhwng awdurdodau perthnasol neu rhwng awdurdod perthnasol a phersonau eraill.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)dyroddi canllawiau statudol i awdurdodau perthnasol yn gyffredinol neu i un awdurdod penodol neu ragor;
(b)dyroddi canllawiau statudol gwahanol i wahanol awdurdodau perthnasol;
(c)diwygio neu ddirymu canllawiau statudol drwy ganllawiau pellach;
(d)dirymu canllawiau statudol drwy ddyroddi hysbysiad i’r awdurdod perthnasol y’i cyfeirir ato.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canllawiau statudol, neu hysbysiad sy’n dirymu canllawiau o’r fath, yn datgan—
(a)y’u cyhoeddir o dan yr adran hon, a
(b)y dyddiad y bydd yn cael effaith.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu i ganllawiau statudol, neu hysbysiadau sy’n dirymu canllawiau o’r fath, gael eu cyhoeddi.