xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Addysg

10Canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.

(2)Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg uwch ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru a CCAUC ddyroddi canllawiau o dan yr adran hon—

(a)a gyfeirir at sefydliad penodol,

(b)mewn cysylltiad â chyrsiau neu raglenni ymchwil (gan gynnwys cynnwys cyrsiau neu raglenni o’r fath neu’r modd y maent yn cael eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu),

(c)mewn cysylltiad â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu

(d)mewn cysylltiad â’r meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd.

(4)Rhaid i gorff llywodraethu y dyroddir canllawiau iddo o dan yr adran hon roi sylw iddynt.

(5)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru a CCAUC ymgynghori â’r personau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Rhaid i ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gael eu cyhoeddi.

(7)At ddibenion yr adran hon, mae sefydliad—

(a)yng Nghymru os yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbwl neu’n bennaf yng Nghymru,

(b)o fewn y sector addysg bellach os yw’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) (“Deddf 1992”), ac

(c)o fewn y sector addysg uwch os yw’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf 1992.

(8)Hyd 31 Awst 2017, mae “sefydliad o fewn y sector addysg uwch” hefyd yn cynnwys prifysgol sy’n cael ei thrin fel pe bai’n sefydliad rheoleiddiedig at ddiben y ddarpariaeth drosiannol a wneir gan Ran 2 o’r Atodlen i Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (dccc 1).

(9)Yn yr adran hon mae i “corff llywodraethu” yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90 o Ddeddf 1992.