Nodiadau Esboniadol i Deddf Trais Yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Nodiadau Esboniadol

Adrannau 14 i 17 – Ystyr “awdurdod perthnasol”; pŵer i ddyroddi canllawiau statudol; ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru; dyletswydd i ddilyn canllawiau statudol

24.Mae adran 15(1) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ar sut y dylai’r awdurdodau arfer eu swyddogaethau er mwyn cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Nodir ystyr “awdurdodau perthnasol” yn adran 14 fel awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol (ceir diffiniad pellach o’r ddau yma yn adran 24), awdurdod tân ac achub yng Nghymru ac un o ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

25.Mae adran 15(2) yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o faterion y gallai’r canllawiau sôn amdanynt. Gallai’r canllawiau ymdrin â’r modd y gallai awdurdodau gynyddu ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â diben y Ddeddf hon. Er enghraifft, gallai canllawiau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i fod yn eiriolwr, mewn ysgolion a lleoliadau eraill, dros fentrau sy’n berthnasol i ymdrin â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; gallai mentrau o’r fath gynnwys codi ymwybyddiaeth o ddiben y Ddeddf neu ddatblygu ffyrdd o wella arferion a safonau o ran y dulliau a ddefnyddir i gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Gellid dyroddi canllawiau hefyd mewn perthynas â helpu i annog gweithwyr proffesiynol (megis staff meddygol damweiniau ac achosion brys) sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol i holi dioddefwyr posibl ynghylch camdriniaeth neu drais mewn amgylchiadau penodol a, phan fo’n briodol, i weithredu i geisio lleihau dioddefaint a niwed. Yn ogystal, gallai canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gefnogi’r gwaith o hyfforddi staff o fewn awdurdodau perthnasol. Ymgynghorodd Gweinidogion Cymru ar Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar 23 Hydref 2014. Er enghraifft, gallai canllawiau gynorthwyo awdurdodau perthnasol i ddefnyddio’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol fel sylfaen ar gyfer hyfforddi staff yn y maes hwn, gan gynnwys sut i helpu eu staff i holi a gweithredu.

26.Mae adran 17 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau perthnasol i ddilyn unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan adran 15 o’r Ddeddf. Nod y ddyletswydd hon yw sicrhau dull cyson ac effeithiol o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru. Nid yw awdurdod perthnasol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i’r graddau y bo’n penderfynu, yn unol ag adran 17(2), ar bolisi amgen mewn perthynas â phwnc y canllawiau. O dan amgylchiadau o’r fath rhaid i’r awdurdod benderfynu ar ei bolisi amgen a dyroddi datganiad polisi yn nodi ei ddull amgen o fynd o’i chwmpas hi (gweler adran 18 am y gofynion sy’n gymwys i ddatganiadau o’r fath). Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i awdurdod perthnasol geisio ffordd o ymdrin â’r mater sy’n wahanol, yn llwyr neu yn rhannol, i’r hyn a nodir yn y canllawiau statudol; gallai hynny ddigwydd, er enghraifft, pe bai polisi amgen a fabwysiedir gan awdurdod lleol yn darparu dull sy’n fwy cydnaws ag anghenion lleol.

27.Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r polisi amgen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod perthnasol yn debygol o gyfrannu at ddiben y Ddeddf mae adran 19 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd i awdurdod perthnasol. Gallai’r cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod perthnasol gymryd unrhyw gamau er mwyn cydymffurfio â chanllawiau a ddyroddwyd i’r awdurdod o dan adran 15. Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

Back to top