Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Legislation Crest

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

2015 dccc 3

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wella trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; i wella trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr cam-drin a thrais o’r fath; i wella’r cymorth sydd ar gael i bobl yr effeithir arnynt gan gamdriniaeth a thrais o’r fath; ac i’w gwneud yn ofynnol penodi Cynghorydd Cenedlaethol ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

[29 Ebrill 2015]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Cyflwyniad

1Diben y Ddeddf hon

(1)Diben y Ddeddf hon yw gwella—

(a)trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;

(b)trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;

(c)y cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

(2)Gweler adran 24 am y diffiniadau o “trais ar sail rhywedd”, “cam-drin domestig” a “trais rhywiol”.

2Trais yn erbyn menywod a merched

(1)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau perthnasol roi sylw (ynghyd â phob mater perthnasol arall) i’r angen i ddileu neu leihau unrhyw ffactorau sy’n—

(a)cynyddu’r risg o drais yn erbyn menywod a merched, neu

(b)gwaethygu effaith trais o’r fath ar ddioddefwyr.

(2)Yn yr adran hon—

  • ystyr “swyddogaethau perthnasol” (“relevant functions”) yw’r swyddogaethau o dan adrannau 3, 4, 5, 6, 7(2), 8, 10, 11, 15, 16(1), 17, 19, 20, 21, 22(1) a (4), ond nid yw’n cynnwys unrhyw swyddogaethau sy’n arferadwy o dan adran 5 gan berson nad yw’n awdurdod lleol nac yn Fwrdd Iechyd Lleol;

  • ystyr “trais yn erbyn menywod a merched” (“violence against women and girls”) yw trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol pan fo’r dioddefwr yn fenywaidd.

Strategaeth genedlaethol

3Dyletswydd i baratoi, cyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth (“strategaeth genedlaethol”) sy’n—

(a)pennu amcanion a fydd, os y’u cyflawnir, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon;

(b)pennu o fewn pa gyfnodau y bydd Gweinidogion Cymru yn disgwyl cyflawni’r amcanion a bennir;

(c)dynodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru bennu amcanion mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(3)Rhaid i’r strategaeth genedlaethol gyntaf gael ei chyhoeddi heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad cynnal yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl cychwyn yr adran hon.

(4)Heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredinol dilynol, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r strategaeth genedlaethol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r strategaeth genedlaethol ar unrhyw adeg arall.

(6)Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu diwygio’r strategaeth genedlaethol yn dilyn adolygiad, rhaid iddynt gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy cyn—

(a)cyhoeddi’r strategaeth genedlaethol gyntaf o dan yr adran hon;

(b)diwygio’r strategaeth genedlaethol.

(8)Yn y rhan hon, ystyr “etholiad cyffredinol” yw—

(a)y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), neu

(b)y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol eithriadol o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.

4Dyletswydd i weithredu’r strategaeth genedlaethol

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau, gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth genedlaethol ddiweddaraf a gyhoeddwyd.

Strategaethau lleol

5Dyletswydd i baratoi strategaethau lleol

(1)Rhaid i awdurdod lleol, a Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, baratoi, ar y cyd, strategaeth (“strategaeth leol”) ar gyfer ardal yr awdurdod lleol.

(2)Rhaid i strategaeth leol—

(a)pennu amcanion y byddant, os cânt eu cyflawni, ym marn yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn cyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon;

(b)pennu o fewn pa gyfnodau y bydd yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu cyflawni’r amcanion a bennir;

(c)dynodi’r camau y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir.

(3)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol bennu amcanion sy’n ymwneud ag ardal gyfan yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni.

(4)Caiff strategaeth leol hefyd gynnwys darpariaeth yn ymwneud â chamau gweithredu penodol y bydd yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn disgwyl i’r canlynol eu cymryd mewn perthynas ag ardal yr awdurdod lleol—

(a)unrhyw awdurdod cyhoeddus sydd â swyddogaethau y mae modd iddynt gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon, neu

(b)unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y mae modd i’w weithgareddau gyfrannu at ymgyrraedd at y diben hwnnw.

(5)Ond mae’n ofynnol cael caniatâd y corff neu’r person o dan sylw cyn cynnwys mewn strategaeth leol unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â chamau gweithredu a grybwyllir yn is-adran (4).

6Cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol

(1)Rhaid cyhoeddi strategaeth leol gyntaf awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol heb fod yn hwyrach na un flwyddyn ar ôl dyddiad cynnal yr etholiad arferol cyntaf wedi dyddiad cychwyn adran 5(1).

(2)Heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn ar ôl dyddiad pob etholiad arferol dilynol, rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol adolygu eu strategaeth leol.

(3)Mewn perthynas ag awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cânt adolygu eu strategaeth leol ar unrhyw adeg arall, a

(b)rhaid iddynt adolygu eu strategaeth leol os cânt eu cyfarwyddo yn ysgrifenedig i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b) nodi’r rhesymau dros roi’r cyfarwyddyd.

(5)Os bydd awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu diwygio eu strategaeth leol ar ôl adolygiad, rhaid iddynt gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy cyn—

(a)cyhoeddi eu strategaeth leol gyntaf;

(b)diwygio eu strategaeth leol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “etholiad arferol” yw etholiad a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr i awdurdodau lleol).

7Materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol

(1)Wrth baratoi ac adolygu strategaeth leol, rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i—

(a)y strategaeth genedlaethol ddiweddaraf a gyhoeddwyd;

(b)yr asesiad diweddaraf ar gyfer ardal yr awdurdod lleol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol);

(c)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn yn ardal yr awdurdod lleol;

(d)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â mynd i’r afael â cham-drin sylweddau yn ardal yr awdurdod lleol;

(e)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â lleihau aildroseddu yn ardal yr awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi sylw i unrhyw beth a bennir yn y rheoliadau wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol;

(b)cynnal asesiadau pellach at ddiben y Ddeddf hon mewn perthynas ag unrhyw fater a bennir yn y rheoliadau.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (2) i gael ei arfer drwy offeryn statudol.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sydd wedi eu gwneud o dan is-adran (2) yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

8Dyletswydd i weithredu strategaethau lleol

(1)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau, gymryd pob cam sy’n rhesymol er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth leol ddiweddaraf ar gyfer ei ardal a gyhoeddwyd.

(2)Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol y paratôdd yr awdurdod y strategaeth ar y cyd ag ef, wrth arfer ei swyddogaethau, gymryd pob cam sy’n rhesymol er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth.

Addysg

9Gwybodaeth am ddarpariaeth addysgol i hybu diben y Ddeddf hon

(1)Mae Deddf Addysg 1996 (p.56) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 29, ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6A)The Welsh Ministers may, by regulations, require local authorities in Wales to publish prescribed information, at such times and in such manner as may be prescribed, for the purpose of providing information to the public about whether, and if so how, local authority education functions are being exercised to promote the purpose of the Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015 (see section 1 of that Act).

(3)Yn adran 408—

(a)yn is-adran (4)(f), hepgorer “and”;

(b)yn is-adran (4)(g), ar ôl “409” mewnosoder “; and”;

(c)ar ôl is-adran (4)(g), mewnosoder—

(h)in so far as subsection (1) applies in relation to Wales, sections 403 and 404”;

(d)ar ôl is-adran (8), mewnosoder—

(8A)In exercising their functions under subsection (1), the Welsh Ministers must have regard to the desirability of information being available to parents and others about whether, and if so how, any parts of the curriculum and any educational provision at maintained schools (other than maintained nursery schools) promote the purpose of the Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015 (see section 1 of that Act).

(4)Yn adran 569(2B), ar ôl “sections” mewnosoder “29(6A),”.

10Canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.

(2)Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg uwch ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru a CCAUC ddyroddi canllawiau o dan yr adran hon—

(a)a gyfeirir at sefydliad penodol,

(b)mewn cysylltiad â chyrsiau neu raglenni ymchwil (gan gynnwys cynnwys cyrsiau neu raglenni o’r fath neu’r modd y maent yn cael eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu),

(c)mewn cysylltiad â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu

(d)mewn cysylltiad â’r meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd.

(4)Rhaid i gorff llywodraethu y dyroddir canllawiau iddo o dan yr adran hon roi sylw iddynt.

(5)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru a CCAUC ymgynghori â’r personau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Rhaid i ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gael eu cyhoeddi.

(7)At ddibenion yr adran hon, mae sefydliad—

(a)yng Nghymru os yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbwl neu’n bennaf yng Nghymru,

(b)o fewn y sector addysg bellach os yw’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) (“Deddf 1992”), ac

(c)o fewn y sector addysg uwch os yw’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf 1992.

(8)Hyd 31 Awst 2017, mae “sefydliad o fewn y sector addysg uwch” hefyd yn cynnwys prifysgol sy’n cael ei thrin fel pe bai’n sefydliad rheoleiddiedig at ddiben y ddarpariaeth drosiannol a wneir gan Ran 2 o’r Atodlen i Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (dccc 1).

(9)Yn yr adran hon mae i “corff llywodraethu” yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90 o Ddeddf 1992.

Mesur perfformiad tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon

11Dangosyddion cenedlaethol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y gellir eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon;

(b)gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)O ran dangosydd cenedlaethol—

(a)rhaid iddo gael ei fynegi fel gwerth y gellir ei fesur neu nodwedd y gellir ei mesur yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;

(b)caiff fod yn fesuradwy dros ba gyfnod bynnag sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru;

(c)caiff fod yn fesuradwy mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r dangosyddion perfformiad ar unrhyw adeg.

(4)Pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion perfformiad o dan is-adran (3), rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyhoeddi’r dangosyddion fel y’u diwygiwyd, a

(b)gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol (gan gynnwys dangosyddion a ddiwygir o dan is-adran (3)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn eu hystyried yn briodol.

12Adroddiadau cynnydd blynyddol gan Weinidogion Cymru

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad ar—

(a)y cynnydd a wnaed ganddynt o ran cyflawni’r amcanion yn y strategaeth genedlaethol;

(b)y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon yng Nghymru gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a gyhoeddir o dan adran 11.

(2)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r strategaeth genedlaethol yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, rhaid i’r adroddiad gynnwys esboniad o’r rhesymau dros y diwygiad hwnnw.

(3)Rhaid i unrhyw adroddiad o dan yr adran hon a gyhoeddir yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol gynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol yn y dyfodol ac unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol arall sy’n ymwneud â diben y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(4)Yn is-adran (3), mae’r cyfeiriad at ddyddiad etholiad cyffredinol yn gyfeiriad at y dyddiad y caiff etholiad cyffredinol arferol ei gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (neu’r dyddiad y byddai’n cael ei gynnal heblaw am adran 5(5) o’r Ddeddf honno).

(5)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a’i osod gerbon y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

13Adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol

(1)Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt o ran cyflawni’r amcanion a bennir yn eu strategaeth leol.

(2)Pan fo awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol wedi diwygio eu strategaeth yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, rhaid i’r adroddiad gynnwys esboniad o’r rhesymau dros y diwygiad.

(3)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

Canllawiau a chyfarwyddydau mewn perthynas â diben y Ddeddf hon

14Ystyr “awdurdod perthnasol”

Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)awdurdod tân ac achub yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(d)un o ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).

15Pŵer i ddyroddi canllawiau statudol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod perthnasol ar y modd y dylai’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon (“canllawiau statudol”).

(2)Gallai’r canllawiau statudol, ymysg pethau eraill, ymdrin â—

(a)y camau y caiff awdurdod eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu newid agweddau mewn perthynas â hwy (er enghraifft, drwy ddynodi aelod o staff at y diben hwnnw neu drwy ymgymryd â rhaglen addysg gyhoeddus neu gynorthwyo â rhaglen o’r fath);

(b)comisiynu cyngor arbenigol neu gymorth arall yn ymwneud â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan awdurdodau perthnasol;

(c)yr amgylchiadau pan fo’n briodol i bersonau sy’n gweithredu ar ran awdurdod perthnasol holi person a yw’n dioddef trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu mewn perygl o’u dioddef;

(d)y camau sy’n briodol pan fo gan berson sy’n gweithredu ar ran awdurdod perthnasol reswm i amau bod person yn dioddef trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu mewn perygl o’u dioddef;

(e)polisïau’r gweithle i hybu lles cyflogeion awdurdodau perthnasol y gallai trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio arnynt;

(f)hyfforddiant i aelodau a staff awdurdod perthnasol;

(g)rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau perthnasol neu gan awdurdod perthnasol â pherson arall;

(h)cydweithredu rhwng awdurdodau perthnasol neu rhwng awdurdod perthnasol a phersonau eraill.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dyroddi canllawiau statudol i awdurdodau perthnasol yn gyffredinol neu i un awdurdod penodol neu ragor;

(b)dyroddi canllawiau statudol gwahanol i wahanol awdurdodau perthnasol;

(c)diwygio neu ddirymu canllawiau statudol drwy ganllawiau pellach;

(d)dirymu canllawiau statudol drwy ddyroddi hysbysiad i’r awdurdod perthnasol y’i cyfeirir ato.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canllawiau statudol, neu hysbysiad sy’n dirymu canllawiau o’r fath, yn datgan—

(a)y’u cyhoeddir o dan yr adran hon, a

(b)y dyddiad y bydd yn cael effaith.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu i ganllawiau statudol, neu hysbysiadau sy’n dirymu canllawiau o’r fath, gael eu cyhoeddi.

16Ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio canllawiau statudol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â pha bersonau bynnag sy’n briodol yn eu barn hwy, ar ddrafft o’r canllawiau.

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o’r canllawiau, ni chaiff Gweinidogion Cymru ei ddyroddi ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Oni wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r canllawiau (neu’r canllawiau diwygiedig) ar ffurf y drafft hwnnw.

(5)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)bydd yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)ni fydd yn cynnwys unrhyw adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn rhwystro gosod drafft newydd o ganllawiau arfaethedig neu ganllawiau diwygiedig arfaethedig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

17Dyletswydd i ddilyn canllawiau statudol

(1)Rhaid i awdurdod perthnasol ddilyn y llwybr a nodir yn y canllawiau a ddyroddir iddo yn unol â’r Ddeddf hon wrth arfer pŵer neu ddyletswydd (gan gynnwys pŵer neu ddyletswydd sy’n dibynnu ar farn yr awdurdod o dan sylw); ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon.

(2)Nid yw awdurdod perthnasol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) i’r graddau—

(a)y bo’r awdurdod o dan sylw o’r farn bod rheswm da dros iddo beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau penodol o achosion, neu beidio â’u dilyn o gwbl,

(b)y bo’r awdurdod yn penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â phwnc y canllawiau, ac

(c)y bo datganiad polisi a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 18 yn cael effaith.

(3)Pan fo is-adran (2) yn gymwys yn achos awdurdod y mae’r adran hon yn gymwys iddo—

(a)rhaid i’r awdurdod ddilyn y drefn a nodir yn y datganiad polisi, a

(b)dim ond i’r graddau nad yw pwnc y canllawiau yn cael ei ddisodli gan y datganiad polisi y mae’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1).

(4)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (3) yn gymwys i awdurdod perthnasol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y canllawiau statudol neu ddatganiad polisi mewn achos penodol neu gategori o achos.

18Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol

(1)Rhaid i ddatganiad polisi a ddyroddir o dan adran 17(2) nodi—

(a)sut y mae’r awdurdod perthnasol yn bwriadu i swyddogaethau gael eu harfer mewn ffordd wahanol i’r llwybr a nodir yn yn canllawiau statudol, a

(b)rhesymau’r awdurdod dros fwriadu dilyn y drefn wahanol honno.

(2)Caiff awdurdod sydd wedi dyroddi datganiad polisi—

(a)dyroddi datganiad polisi diwygiedig;

(b)rhoi hysbysiad sy’n dirymu datganiad polisi.

(3)Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig) ddatgan—

(a)ei fod yn cael ei ddyroddi o dan adran 17(2), a

(b)ar ba ddyddiad y bydd yn cael effaith.

(4)Rhaid i awdurdod sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig), neu’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—

(a)trefnu i ddatganiad neu hysbysiad gael ei gyhoeddi;

(b)anfon copi o unrhyw ddatganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.

19Cyfarwyddydau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddir gan awdurdod perthnasol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn llwyr neu’n rhannol) yn debygol o gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod perthnasol i gymryd unrhyw gamau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddiben sicrhau bod yr awdurdod yn arfer swyddogaethau yn unol â’r canllawiau statudol a ddyroddwyd i’r awdurdod yn unol â’r Ddeddf hon.

(3)Rhaid i awdurdodau perthnasol sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gydymffurfio ag ef; mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n dibynnu ar farn yr awdurdod perthnasol.

(4)Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo gael ei roi ar ffurf ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd pellach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru, neu ar eu rhan.

Cynghorydd Cenedlaethol

20Cynghorydd Cenedlaethol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person fel Cynghorydd Cenedlaethol.

(2)Mae’r person a benodir yn Gynghorydd Cenedlaethol yn dal ei swydd yn unol â thelerau’r penodiad.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu treuliau, tâl cydnabyddiaeth a lwfansau mewn cysylltiad â’r Cynghorydd Gweinidogol.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau mewn cysylltiad â phersonau a fu’n Gynghorydd Gweinidogol, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau mewn cysylltiad â phersonau a fu’n Gynghorydd Gweinidogol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu i’r Cynghorydd Gweinidogol—

(a)y cyfryw staff, a

(b)y cyfryw adeiladau, cyfarpar a chyfleusterau eraill,

ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol ar gyfer arfer swyddogaethau’r Cynghorydd Cenedlaethol.

21Swyddogaethau’r Cynghorydd

(1)Mae’r Cynghorydd Cenedlaethol i arfer y swyddogaethau canlynol, yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru—

(a)cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig (gweler is-adran (2));

(b)darparu cynhorthwy arall i Weinidogion Cymru wrth iddynt ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig;

(c)gwneud gwaith ymchwil mewn perthynas ag ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon, mynd i’r afael â materion cysylltiedig neu ymchwilio i weld a yw cam-drin o unrhyw fath yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag anghydraddoldeb o unrhyw fath rhwng pobl o wahanol ryw, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol;

(d)darparu cyngor a chynhorthwy arall, gyda cydsyniad Gweinidogion Cymru, i unrhyw berson ar faterion sy’n ymwneud ag ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion perthnasol;

(e)cynhyrchu adroddiadau ar unrhyw fater sy’n berthnasol i ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig.

(2)Ystyr “mater cysylltiedig” at ddiben is-adran (1) yw camdriniaeth sydd, ym marn y Cynghorydd Cenedlaethol, yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag anghydraddoldeb o unrhyw fath rhwng pobl o wahanol ryw, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.

(3)Os bydd y Cynghorydd Cenedlaethol yn gofyn i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Cynghorydd, rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â’r cais oni fo’r awdurdod yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r awdurdod.

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (3) hysbysu’r Cynghorydd Cenedlaethol yn ysgrifenedig am y rhesymau dros y penderfyniad.

22Cynllun blynyddol ac adroddiadau blynyddol

(1)Cyn 30 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol rhaid i’r Cynghorydd Gweinidogol—

(a)paratoi cynllun blynyddol yn nodi sut y mae’r Cynghorydd Gweinidogol yn bwriadu arfer swyddogaethau’r Cynghorydd Gweinidogol yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol, a

(b)cyflwyno’r cynllun blynyddol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)Rhaid i gynllun blynyddol—

(a)datgan amcanion a blaenoriaethau’r Cynghorydd Gweinidogol ar gyfer y flwyddyn ariannol mae’r adroddiad yn ymwneud â hi;

(b)datgan unrhyw faterion y mae’r Cynghorydd Gweinidogol yn bwriadu adrodd arnynt o dan adran 21(1)(e) yn ystod y flwyddyn honno;

(c)datgan unrhyw weithgareddau eraill mae’r Cynghorydd Cenedlaethol yn bwriadu ymgymryd â hwy wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

(3)Caiff y Cynghorydd Cenedlaethol ymgynghori ag unrhyw berson wrth baratoi cynllun blynyddol.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun blynyddol heb addasiadau neu gydag addasiadau y cytunir arnynt gyda’r Cynghorydd Cenedlaethol.

(5)Cyn 30 Medi ym mhob blwyddyn ariannol rhaid i’r Cynghorydd Cenedlaethol yrru adroddiad at Weinidogion Cymru ynghylch y modd yr arferwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

(6)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y canlynol—

(a)asesiad o’r graddau y cyflawnwyd amcanion a blaenoriaethau’r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi;

(b)datganiad o’r materion y mae’r Cynghorydd Cenedlaethol wedi adrodd arnynt o dan adran 21(1)(e) yn ystod y flwyddyn honno;

(c)datganiad o’r gweithgareddau eraill yr ymgymerodd y Cynghorydd Cenedlaethol â hwy wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

23Cyhoeddi adroddiadau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)pob cynllun blynyddol a phob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol, a

(b)pob adroddiad a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol, os yw’r adroddiad yn cael ei grybwyll mewn cynllun blynyddol a gymeradwywyd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad a anfonir atynt gan y Cynghorydd Cenedlaethol nas crybwyllir mewn cynllun blynyddol sydd wedi ei gymeradwyo.

(3)Cyn cyhoeddi unrhyw gynllun neu adroddiad, caiff Gweinidogion Cymru hepgor unrhyw ddeunydd ohono y byddai ei gyhoeddi, ym marn Gweinidogion Cymru—

(a)yn annymunol am resymau sy’n ymwneud â diogelwch gwladol,

(b)yn gallu peryglu diogelwch unigolyn, neu

(c)yn gallu niweidio ymchwiliad i drosedd neu erlyniad trosedd.

Cyffredinol

24Dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a roddir gan adran 14;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

  • ystyr “cam-drin” (“abuse”) yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol;

  • ystyr “cam-drin domestig” (“domestic abuse”) yw cam-drin a ddaw o du person sy’n gysylltiedig neu wedi bod yn gysylltiedig â’r dioddefwr;

  • ystyr “canllawiau statudol” (“statutory guidance”) yw canllawiau o dan adran 15;

  • ystyr “diben y Ddeddf hon” (“purpose of this Act”) yw’r diben a nodir yn adran 1;

  • ystyr “trais ar sail rhywedd” (“gender based violence”) yw—

    (a)

    trais, bygythiadau o drais neu aflonyddu sy’n codi yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol;

    (b)

    anffurfio organau cenhedlu benywod;

    (c)

    gorfodi person (pa un ai drwy rym corfforol neu orfodi drwy fygythiadau neu ddulliau seicolegol eraill) i ymrwymo i seremoni briodas grefyddol neu sifil (pa un a yw’n rhwymo mewn cyfraith ai peidio);

  • ystyr “trais rhywiol”(“sexual violence”) yw camfanteisio rhywiol, aflonyddu rhywiol neu fygythiadau o drais o natur rywiol.

(2)Mae person yn gysylltiedig â pherson arall at ddibenion y diffiniad o “cam-drin domestig” yn is-adran (1) os ydynt—

(a)yn briod â’i gilydd neu wedi bod yn briod â’i gilydd;

(b)yn bartneriaid sifil i’w gilydd neu wedi bod yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c)yn byw gyda’i gilydd neu wedi bod yn byw gyda’i gilydd mewn perthynas deuluol barhaus (pa un a ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw);

(d)yn byw neu wedi byw ar yr un aelwyd; ac at y diben hwn mae person yn aelod o aelwyd person arall—

(i)os yw’r person fel arfer yn byw gyda’r person arall fel aelod o’i deulu, neu

(ii)os y gellid disgwyl yn rhesymol i’r person fyw gyda’r person arall hwnnw;

(e)yn berthnasau i’w gilydd;

(f)wedi cytuno i briodi ei gilydd (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(g)wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil rhyngddynt (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(h)mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd, neu wedi bod mewn perthynas o’r fath;

(i)mewn perthynas â phlentyn, y naill a’r llall yn rhiant i’r plentyn neu â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath.

(3)Os yw plentyn wedi ei fabwysiadu neu’n dod o fewn is-adran (4), mae dau berson hefyd yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion y diffiniad o “cam-drin domestig” yn is-adran (1)—

(a)os yw un yn rhiant naturiol i’r plentyn neu’n rhiant i riant naturiol o’r fath, a

(b)y person arall yw—

(i)y plentyn, neu

(ii)person sydd wedi dod yn rhiant i’r plentyn yn rhinwedd gorchymyn mabwysiadu, sydd wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu, neu y mae’r plentyn wedi ei leoli gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu ar unrhyw adeg.

(4)Mae plentyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw asiantaeth fabwysiadu, o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), wedi ei hawdurdodi i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (gosod plentyn â chydsyniad rhiant) neu’r plentyn wedi dod yn destun gorchymyn o dan adran 21 o’r Ddeddf honno (gorchmynion lleoli), neu

(b)os yw’r plentyn yn cael ei ryddhau ar gyfer ei fabwysiadu yn rhinwedd gorchymyn a wneir—

(i)yng Nghymru a Lloegr, o dan adran 18 o Ddeddf Mabwysiadu 1976 (p.36), neu

(ii)yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 17(1) neu 18(1) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987 (O.S. 1987/2203), neu

(c)os yw’r plentyn yn destun gorchymyn parhauster yn yr Alban sy’n cynnwys rhoi’r awdurdod i fabwysiadu.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “aflonyddu” (“harassment”) yw llwybr ymddygiad gan berson y mae’n gwybod, neu y dylai wybod, ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu ar y llall; ac at ddiben y diffiniad hwn—

    (a)

    dylai person wybod bod ei ymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu, neu’n cynnwys aflonyddu, pe bai person rhesymol sy’n meddu ar yr un wybodaeth o’r farn bod y llwybr ymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu ar berson arall, neu’n cynnwys aflonyddu ar berson arall, a

    (b)

    mae “ymddygiad” yn cynnwys siarad;

  • ystyr “anffurfio organau cenhedlu benywod” (“female genital mutilation”) yw gweithred sy’n drosedd o dan adrannau 1, 2 neu 3 o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 (p.31);

  • ystyr “cam-drin ariannol” (“financial abuse”) yw—

    (a)

    bod arian neu eiddo arall yn cael ei ddwyn,

    (b)

    bod person yn cael ei dwyllo,

    (c)

    bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall, a

    (d)

    bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

  • ystyr “camfanteisio rhywiol” (“sexual exploitation”) yw rhywbeth a wneir i berson neu mewn perthynas â pherson—

    (a)

    sy’n cynnwys cyflawni trosedd o dan Ran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p.42), fel y mae’n cael effaith yng Nghymru a Lloegr, neu

    (b)

    a fyddai’n cynnwys cyflawni trosedd o’r fath pe bai’n cael ei wneud yng Nghymru a Lloegr;

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” (“parental responsibility”) yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41);

  • mae i “cytundeb partneriaeth sifil” (“civil partnership agreement”) yr ystyr a roddir i “civil partnership agreement” gan adran 73 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33);

  • ystyr “gorchymyn mabwysiadu” (“adoption order”) yw gorchymyn mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption order” gan adran 72(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 neu adran 46(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

  • ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â pherson, yw rhiant, tad-cu/taid, mam-gu/nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 mlwydd oed.

25Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn derbyn y Cydsyniad Brenhinol—

  • adran 1;

  • adran 24;

  • yr adran hon;

  • adran 26.

(2)Daw adran 10 ac adrannau 14 i 21 i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn derbyn y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

(a)pennu gwahanol ddyddiau at wahanol ddibenion;

(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth ddarfodol neu drosiannol y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

26Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.