57Dehongli
(1)Yn y Ddeddf hon—
ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;
mae i “annigonol” (“inadequate”), mewn perthynas ag ansawdd addysg neu gwrs, yr ystyr a roddir yn adran 18;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw cyfnod o 12 mis;
mae i “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”), mewn perthynas â sefydliad y mae cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef, yr ystyr a roddir yn adran 5;
ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
mae “corff llywodraethu” (“governing body”) i’w ddehongli fel a ganlyn—
(a)mewn perthynas â darparwr hyfforddiant na fyddai, oni bai am yr adran hon, yn cael ei ystyried yn sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
(b)mewn perthynas â darparwr a ddynodir o dan adran 3, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
(c)mewn perthynas ag unrhyw sefydliad arall, mae iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 90(2) o’r Ddeddf honno;
(d)mewn perthynas â darparwr allanol nad yw’n sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a ragnodir o dan adran 5;
mae i “cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu” (“compliance and reimbursement direction”) yr ystyr a roddir yn adran 11;
ystyr “cyfle cyfartal” (“equality of opportunity”) yw cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch;
mae i “cynllun a gymeradwywyd” (“approved plan”) yr ystyr a roddir yn adran 7;
mae i “cynllun ffioedd a mynediad” (“fee and access plan”) yr ystyr a roddir yn adran 2;
mae i “darparwr allanol” (“external provider”) yr ystyr a roddir yn adran 17;
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)Deddf Seneddol;
(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol neu o dan Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru);
ystyr “ffioedd” (“fees”) yw ffioedd ar gyfer neu fel arall mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs, gan gynnwys ffioedd derbyn, cofrestru, dysgu a graddio, a ffioedd sy’n daladwy i sefydliad am ddyfarnu neu achredu unrhyw ran o’r cwrs, ond ac eithrio—
(a)ffioedd sy’n daladwy am fwyd neu lety;
(b)ffioedd sy’n daladwy am wibdeithiau mae (gan gynnwys unrhyw elfen ddysgu o’r ffioedd hynny);
(c)ffioedd sy’n daladwy am fod yn bresennol mewn unrhyw seremoni raddio neu seremoni arall;
(d)unrhyw ffioedd eraill a ragnodir at ddibenion yr adran hon;
mae i “ffioedd cwrs rheoleiddiedig“ (“regulated course fees”) yr ystyr a roddir yn adran 10;
mae i “ffioedd uwchlaw’r terfyn” (“excess fees”) yr ystyr a roddir yn adran 11;
mae “gofynion cyffredinol” (“general requirements”) mewn perthynas â chynllun a gymeradwywyd, i’w ddarllen yn unol ag adran 6;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
mae i “person cymhwysol” (“qualifying person”) yr ystyr a roddir yn adran 5;
ystyr “rhagnodedig” ac ”a ragnodir” (“prescribed”) yw rhagnodedig drwy reoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
mae “sefydliad” (“institution”) yn cynnwys unrhyw ddarparwr hyfforddiant (pa un a fyddai’r darparwr hyfforddiant fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad ai peidio);
mae i “sefydliad rheoleiddiedig” (“regulated institution”) yr ystyr a roddir yn adran 7;
mae i “terfyn ffioedd” (“fee limit”) yr ystyr a roddir yn adran 5;
mae i “terfyn ffioedd cymwys” (“applicable fee limit”) yr ystyr a roddir yn adran 10.
(2)Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005).
(3)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at sefydliad yng Nghymru—
(a)yn gyfeiriadau at sefydliad y mae ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, a
(b)yn cynnwys y Brifysgol Agored.