48Dyletswydd i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaiddLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd gan gynnwys, yn benodol, rhyddid sefydliadau—
(a)i benderfynu ar gynnwys cyrsiau penodol a’r dull o’u haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,
(b)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, ac
(c)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 48 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(e)