RHAN 2DARPARIAETH DROSIANNOL
Cynlluniau a gymeradwywyd o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004
27Mae paragraff 28 yn gymwys i’r graddau y mae cynllun o dan Ddeddf 2004 yn pennu terfyn nad yw’r ffioedd sy’n daladwy gan berson sy’n berson cymhwysol i fynd uwch ei law, neu’n darparu ar gyfer penderfynu ar y terfyn hwnnw—
(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs sy’n gwrs cymhwysol, a
(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs ac sy’n dechrau yn ystod y cyfnod trosiannol (“blwyddyn academaidd drosiannol”).
28Mae’r cynllun i’w drin yn ystod y cyfnod trosiannol fel pe bai’n gynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7, at ddibenion—
(a)adran 4(4)(b);
(b)adrannau 10 i 12, 14, 15(1)(a) ac 16;
(c)adrannau 17 i 23;
(d)adran 24(2)(a);
(e)adran 28(2);
(f)adrannau 51(1)(e), 52(3) a 54(1);
(g)unrhyw ddeddfiad arall, pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a bennir mewn rheoliadau (“deddfiad cymwysedig”).
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraff 30.
29(1)At y diben hwn—
(a)mae’r cynllun i’w drin fel pe bai wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 ar y diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym;
(b)mae’r cyfnod, sef y cyfnod trosiannol (gweler is-baragraff (2)), i’w drin fel y cyfnod a bennir yn y cynllun o dan adran 4;
(c)mae’r terfyn a ddarperir gan y cynllun ar gyfer cwrs a blwyddyn academaidd drosiannol i’w drin fel y terfyn ffioedd cymwys ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn academaidd o dan sylw;
(d)mae’r sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i’w drin fel pe bai’n sefydliad rheoleiddiedig.
(2)Y cyfnod trosiannol yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2017.
(3)Mae “cynllun o dan Ddeddf 2004” yn gynllun a gymeradwywyd o ran Cymru, o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, cyn i’r paragraff hwn ddod i rym.
30(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 28(a) i (f), neu ddeddfiad cymwysedig, i gynllun o dan Ddeddf 2004 yn ystod y cyfnod trosiannol.
(2)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) ddarparu’r canlynol o ran darpariaeth neu ddeddfiad cymwysedig—
(a)nid yw i fod yn gymwys i gynllun o dan Ddeddf 2004 yn ystod y cyfnod trosiannol, neu
(b)mae i fod yn gymwys gydag addasiadau.
Aelodau’r Pwyllgor Asesu Ansawdd
31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd, yn union cyn i adran 25 ddod i rym, yn aelod o’r Pwyllgor Asesu Ansawdd a sefydlwyd gan CCAUC o dan adran 70(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“yr hen bwyllgor”).
(2)Pan ddaw adran 25 i rym, daw’r person yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan yr adran honno (“y pwyllgor newydd”).
(3)Mae aelodaeth y person o’r pwyllgor newydd—
(a)ar yr un telerau â phenodiad y person i’r hen bwyllgor, a
(b)am gyfnod sy’n gyfatebol i gyfnod y penodiad hwnnw sy’n parhau i fod pan ddaw adran 25 i rym.