Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Pwerau atodol at y diben o fonitro etc

36Rheolaeth ariannol: pwerau mynd i mewn ac arolygu

(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34(2), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig;

(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—

(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).

(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.

(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.