xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad

2Cais gan sefydliad am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad

(1)Caiff corff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (3) wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad.

(2)Mae cynllun ffioedd a mynediad yn gynllun sy’n cydymffurfio ag adrannau 4 i 6.

(3)Mae sefydliad o fewn yr is-adran hon yn sefydliad yng Nghymru—

(a)sy’n darparu addysg uwch, a

(b)sy’n elusen.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.

3Dynodi darparwyr addysg uwch eraill

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg uwch o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.

(2)Mae darparwr addysg uwch o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—

(a)sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen, ond

(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (4)(d), mae darparwr addysg uwch a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, fel pe bai’n sefydliad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud cais am ddynodiad;

(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);

(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);

(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel sefydliad at ddibenion rhagnodedig).

Cynnwys cynllun ffioedd a mynediad

4Y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad bennu cyfnod y mae i gael effaith mewn cysylltiad ag ef.

(2)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir fod yn hwy na dwy flynedd.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) i roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a grybwyllir am y tro yn yr is-adran honno.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)CCAUC,

(b)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef yn gyfeiriadau at y cyfnod a bennir ynddo o dan yr adran hon.

5Terfyn ffioedd

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad—

(a)pennu terfyn ffioedd, neu

(b)darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd,

mewn perthynas â phob cwrs cymhwysol ac mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd berthnasol (ac at y diben hwn caiff bennu terfynau ffioedd gwahanol neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd gwahanol mewn perthynas â chyrsiau gwahanol ac mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd perthnasol gwahanol).

(2)At y diben hwn—

(a)mae terfyn ffioedd, mewn perthynas â chwrs, yn derfyn na chaniateir i’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol, mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â’r cwrs, fynd uwch ei law;

(b)mae cwrs cymhwysol yn gwrs, o unrhyw ddisgrifiad rhagnodedig, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(c)mae blwyddyn academaidd berthnasol, mewn perthynas â chwrs, yn flwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs, ac y mae ffioedd yn daladwy i’r sefydliad mewn cysylltiad â hi, ac sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef.

(3)Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn pennu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, ni chaniateir i’r terfyn ffioedd a bennir fynd uwchlaw pa swm bynnag a ragnodir at ddibenion yr adran hon (“yr uchafswm”).

(4)Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, rhaid i’r cynllun bennu nad yw’r terfyn ffioedd y penderfynir arno yn unol â’r cynllun i fynd uwchlaw’r uchafswm.

(5)Mae person cymhwysol, at ddibenion is-adran (2)(a), yn berson—

(a)nad yw’n fyfyriwr rhyngwladol, a

(b)sy’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion yr adran hon.

(6)Ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn rhagnodi cwrs ôl-radd, oni bai ei fod yn gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(7)Yn ogystal, ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn gwahaniaethu—

(a)mewn perthynas â chyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, rhwng cyrsiau gwahanol ar sail y pynciau y rhoddir yr hyfforddiant hwnnw arnynt;

(b)mewn perthynas â chyrsiau eraill, rhwng cyrsiau gwahanol ar yr un lefel neu ar lefel gyffelyb ar sail y meysydd astudio neu ymchwil y maent yn ymwneud â hwy.

(8)Mae myfyriwr rhyngwladol yn berson nad yw’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (codi ffioedd uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad rhagnodedig â’r Deyrnas Unedig) at ddibenion is-adran (1) neu (2) o’r adran honno.

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo ffioedd sy’n daladwy i berson, mewn cysylltiad â pherson cymhwysol yn ymgymryd â chwrs, neu â rhan o gwrs, a ddarperir ar ran sefydliad, i’w trin at ddibenion is-adran (2)(a) fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad hwnnw mewn cysylltiad â’r person cymhwysol yn ymgymryd â’r cwrs.

6Hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys unrhyw ddarpariaethau a ragnodir sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.

(2)Caiff cynllun ffioedd a mynediad hefyd gynnwys darpariaethau pellach sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.

(3)Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (1) i’w cynnwys mewn cynllun yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—

(a)cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);

(b)cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);

(c)darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr (neu sicrhau bod cymorth o’r fath yn cael ei ddarparu);

(d)rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell (neu sicrhau bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhoi ar gael).

(4)Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi i’w cynnwys mewn cynllun hefyd yn cynnwys darpariaethau—

(a)sy’n nodi amcanion sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(b)sy’n nodi gwybodaeth am wariant mewn cysylltiad â’r amcanion hynny;

(c)sy’n ymwneud â’r monitro gan y corff llywodraethu o—

(i)cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun;

(ii)y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni unrhyw amcanion a nodir yn y cynllun yn rhinwedd paragraff (a).

(5)Ond ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi darpariaethau i’w cynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad gael ei arfer er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gynllun sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n cyfeirio at gyrsiau penodol neu at y dull o addysgu, goruchwylio neu asesu cyrsiau,

(b)sy’n ymwneud â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliad fynd i wariant, mewn unrhyw flwyddyn academaidd, o swm sy’n mynd uwchlaw swm incwm ffioedd cymhwysol y sefydliad y gellir ei briodoli i’r flwyddyn academaidd honno.

(6)At ddibenion yr adran hon—

(a)swm incwm ffioedd cymhwysol sefydliad y gellir ei briodoli i flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd hynny sy’n daladwy i’r sefydliad, mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno, y mae terfyn ffioedd a bennir yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn gymwys mewn perthynas ag ef, neu y mae’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu arno;

(b)“grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol”, mewn perthynas â chynllun ffioedd a mynediad, yw grwpiau nad oes ganddynt, ar ddyddiad cymeradwyo’r cynllun o dan adran 7, gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ofynion cyffredinol cynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun yn rhinwedd yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud (neu beidio â gwneud) pethau penodedig.

Cymeradwyo etc cynllun ffioedd a mynediad

7Cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad

(1)Os gwneir cais i CCAUC i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad o dan adran 2, rhaid i CCAUC drwy roi hysbysiad i’r corff llywodraethu o dan sylw naill ai—

(a)cymeradwyo’r cynllun, neu

(b)gwrthod y cynllun.

(2)Ond ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef o fewn adran 2(3).

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun o dan yr adran hon.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, y cyfnod pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad ac sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon mewn grym yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y’i cymeradwyir o dan yr adran hon, ac sy’n dod i ben ar ba un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—

(a)y diwrnod y daw’r cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i ben;

(b)os caiff cymeradwyaeth CCAUC i’r cynllun ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a roddir o dan adran 38 neu 39, dyddiad yr hysbysiad.

(5)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd yn gyfeiriadau at gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon ac sydd mewn grym ar hyn o bryd;

(b)mae cyfeiriadau at sefydliad rheoleiddiedig yn gyfeiriadau at sefydliad y mae cynllun a gymeradwywyd yn ymwneud ag ef (ond gweler adrannau 26 a 27(8)).

(6)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 37(5) (peidio â chymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd).

(7)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan is-adran (1)(b), gweler adrannau 41 i 44.

8Cyhoeddi cynllun a gymeradwywyd

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig gyhoeddi cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae cynllun i’w gyhoeddi.

9Amrywio cynllun a gymeradwywyd

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig amrywio cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu mai dim ond os caiff amrywiad ei gymeradwyo gan CCAUC y mae i gymryd effaith.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth i amrywiad a phenderfynu ar y ceisiadau hynny.

Cydymffurfio â’r terfyn ffioedd

10Terfynau ar ffioedd myfyrwyr

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (2) sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)Mae sefydliad yn dod o fewn yr is-adran hon os yw cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud ag ef wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).

(3)“Ffioedd cwrs rheoleiddiedig” yw’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol—

(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, a

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs hwnnw, pan fo’r flwyddyn honno yn dechrau ar adeg o fewn y cyfnod a bennir o dan adran 4 yng nghynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).

(4)Cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yw’r cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar o dan adran 7 mewn perthynas â’r sefydliad.

(5)Y terfyn ffioedd cymwys yw—

(a)mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn pennu terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw;

(b)mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw fel y penderfynir arno yn unol â’r cynllun.

11Cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag adran 10(1).

(2)Caiff CCAUC gyfarwyddo’r corff llywodraethu i wneud naill ai un o’r canlynol neu’r ddau—

(a)cydymffurfio ag adran 10(1);

(b)ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r sefydliad.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon (“cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu”) bennu⁠—

(a)y camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at y diben o gydymffurfio ag adran 10(1);

(b)y modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y gall gael ei roi ar waith.

(4)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (4).

(6)Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 10(1) y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

12Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu

(1)Caiff CCAUC ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at y diben o gydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw sefydliad arall o fewn adran 2(3) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu y mae cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu wedi ei roi iddo, wrth gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

(4)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu, gweler adrannau 41 i 44.

Cydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd

13Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd

(1)Os yw’r amod yn is-adran (2) neu (3) wedi ei ddiwallu, caiff CCAUC roi cyfarwyddyd o fewn is-adran (4) i gorff llywodraethu sefydliad.

(2)Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni—

(a)bod methiant wedi bod gan y corff llywodraethu i gydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad, a

(b)ar adeg y methiant, fod y cynllun ffioedd a mynediad wedi ei gymeradwyo o dan adran 7.

(3)Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu yn debygol o fethu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(4)Mae cyfarwyddyd o fewn yr is-adran hon yn gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(5)Ond ni chaiff CCAUC roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(6)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Contractau

14Dilysrwydd contractau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gontract sy’n darparu ar gyfer talu ffioedd cwrs rheoleiddiedig i sefydliad, gan berson cymhwysol ac mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)At ddibenion unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi o dan y contract, ac unrhyw drafodion mewn cysylltiad â’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai’n darparu ar gyfer talu ffioedd mewn swm sy’n gyfatebol i’r terfyn ffioedd cymwys.

(3)Ac eithrio fel y darperir yn is-adran (2), nid yw’r contract yn ddi-rym nac yn anorfodadwy o ganlyniad i ddarparu ar gyfer talu ffioedd sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

Cynlluniau a gymeradwywyd: cydymffurfedd ac effeithiolrwydd

15Dyletswydd CCAUC i fonitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd

(1)Rhaid i CCAUC—

(a)monitro cydymffurfedd ag adran 10(1);

(b)monitro cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd;

(c)gwerthuso effeithiolrwydd pob cynllun a gymeradwywyd;

(d)gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol.

(2)At ddibenion yr adran hon, effeithiolrwydd cynllun a gymeradwywyd yw ei effeithiolrwydd o ran hybu—

(a)cyfle cyfartal, a

(b)addysg uwch.

16Monitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd: dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i CCAUC unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan CCAUC at ddiben ei swyddogaethau o dan adran 15.

(2)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn ys is-adran honno.