Adran 27 – Dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi Cod
81.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC lunio Cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig, ei gyhoeddi a’i adolygu’n gyson.
82.Mae is-adran (2) yn rhoi enghreifftiau o’r materion y caiff y Cod ymdrin â hwy. Gall y materion hyn fod yn debyg i’r gofynion a welir ym Memorandwm Ariannol CCAUC gyda’r sefydliadau y mae’n eu cyllido a’r Cod Ymarfer Archwilio y mae CCAUC yn ei gyhoeddi ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys:
yr amgylchiadau hynny pan fo angen cydsyniad CCAUC cyn bod sefydliad yn ymrwymo i drafodion penodedig;
trefniadau archwilio a chyfrifyddu; a
darparu gwybodaeth i CCAUC (er enghraifft, copïau o gyfrifon).
83.Caiff y Cod osod gofynion y mae rhaid i sefydliadau rheoleiddiedig gydymffurfio â hwy a rhoi canllawiau y mae rhaid i sefydliadau rheoleiddiedig eu hystyried wrth reoli eu materion ariannol.
84.Er mai CCAUC fydd yn llunio’r Cod, rhagwelir y bydd y Cod yn ceisio sicrhau fframwaith rheolaeth mewn cysylltiad â materion ariannol sefydliad rheoleiddiedig sy’n debyg i’r hyn a osodir ar hyn o bryd ar sefydliadau sy’n cael arian CCAUC gan delerau ac amodau cyllido.