Sylwebaeth Ar Adrannau O’R Ddeddf

Rhan 2 – Cynlluniau Ffioedd a Mynediad

Adran 10 – Terfyn ar ffioedd myfyrwyr

31.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad, y mae cynllun ffioedd a mynediad wedi ei gymeradwyo mewn perthynas ag ef, sicrhau nad yw “ffioedd cwrs rheoleiddiedig” yn mynd uwchlaw’r “terfyn ffioedd cymwys”, pa un a yw’r cynllun ffioedd mewn grym o hyd ai peidio.

32.Mae “ffioedd cwrs rheoleiddiedig” wedi ei diffinio yn adran 10(3). Maent yn ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol mewn cysylltiad â’r person hwnnw yn ymgymryd â chwrs cymhwysol mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cwrs hwnnw sy’n dechrau yn ystod y cyfnod y mae cynllun ffioedd y sefydliad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar yn ymwneud ag ef (sef y cyfnod a bennir o dan adran 4). Y “terfyn ffioedd cymwys” yw’r terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw a nodir yng nghynllun ffioedd a mynediad y sefydliad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar.

33.Bydd yn ofynnol i sefydliad sydd â chynllun mewn grym sicrhau bod y ffioedd ar gyfer blynyddoedd academaidd sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef yn cydymffurfio â’r terfyn ffioedd cymwys. Pan fo cynllun sefydliad wedi dod i ben (pan fo’r cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef wedi dod i ben), neu pan fo CCAUC wedi tynnu ei gymeradwyaeth i gynllun yn ôl o dan naill ai adran 38 (dyletswydd CCAUC i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) neu adran 39 (pŵer CCAUC i dynnu cymeradwyaeth yn ôl), bydd yn ofynnol i gorff llywodraethu’r sefydliad sicrhau bod ffioedd ar gyfer blynyddoedd academaidd sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun ffioedd yn ymwneud ag ef yn parhau i gydymffurfio â’r terfyn ffioedd cymwys. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd CCAUC yn tynnu ei gymeradwyaeth i gynllun sefydliad yn ôl, na fydd myfyrwyr cymhwysol yn y sefydliad yn colli’r diogelwch o ran ffioedd a fyddai wedi bod ynghlwm wrth y terfyn ffioedd yn ystod y cyfnod yr oedd y cynllun a dynnwyd yn ôl yn ymwneud ag ef.