Deddf Tai (Cymru) 2014

96Cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlantLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan awdurdod tai lleol reswm i gredu y gallai ceisydd y mae person o dan 18 oed yn preswylio gydag ef fel arfer, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef—

(a)bod yn anghymwys i gael cymorth,

(b)bod yn ddigartref ac nad yw dyletswydd o dan adran 68, 73 neu 75 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd, neu

(c)bod o dan fygythiad o ddigartrefedd ac nad yw dyletswydd o dan adran 66 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd.

(2)Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i sicrhau—

(a)bod y ceisydd yn cael ei wahodd i gydsynio i atgyfeirio’r ffeithiau hanfodol am ei achos i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, a

(b)os yw’r ceisydd wedi rhoi’r cydsyniad hwnnw, bod yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei hysbysu am y ffeithiau hynny ynghyd â phenderfyniad dilynol yr awdurdod mewn perthynas â’i gais.

(3)Nid oes unrhyw beth yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer ar wahân i’r adran hon i ddatgelu gwybodaeth sy’n ymdrin ag achos y ceisydd i’r adran gwasanaethau cymdeithasol heb gydsyniad y ceisydd.

(4)Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol wneud trefniadau i sicrhau, pan fo’n penderfynu fel awdurdod tai lleol bod ceisydd yn anghymwys i gael cymorth, wedi dod yn ddigartref yn fwriadol neu wedi dod o dan fygythiad o ddigartrefedd yn fwriadol, fod ei adran dai yn rhoi’r cyfryw gyngor a chynhorthwy i’r adran gwasanaethau cymdeithasol ag y caiff yr adran gwasanaethau cymdeithasol ofyn yn rhesymol amdanynt.

(5)Yn yr adran hon, mewn perthynas â chyngor sir neu fwrdeistref sirol—

  • ystyr “yr adran dai” (“the housing department”) yw’r personau hynny sy’n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol;

  • ystyr “yr adran gwasanaethau cymdeithasol” (“the social services department”) yw’r personau hynny sy’n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o dan Ran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 96 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 47