Deddf Tai (Cymru) 2014

76Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i benLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 75(1) yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), , (6) neu (7), os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn derbyn—

(a)cynnig o lety addas o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai), F1...

[F2(aa)cynnig o lety addas yng Nghymru o dan denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, neu]

(b)cynnig o lety addas [F3(yn Lloegr)] o dan denantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).

(3)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod—

(a)cynnig o lety interim addas o dan adran 75,

(b)cynnig sector rhentu preifat, neu

(c)cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996,

y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.

(4)At ddibenion yr adran hon mae cynnig yn gynnig sector rhentu preifat—

[F4(a)os yw’n gynnig o—

(i)tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas â llety yng Nghymru sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu

(ii)tenantiaeth fyrddaliol sicr a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety yn Lloegr sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,]

(b)os yw’n cael ei wneud, gyda chymeradwyaeth yr awdurdod, yn unol â threfniadau a wneir rhwng yr awdurdod a’r landlord gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 75 i ben, ac

(c)[F5mewn perthynas â llety yn Lloegr,] mae’r denantiaeth sy’n cael ei chynnig yn denantiaeth cyfnod penodedig am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Mewn achos cyfyngedig, rhaid i’r awdurdod tai lleol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddwyn ei ddyletswydd i ben drwy sicrhau cynnig sector rhentu preifat; at y diben hwn, ystyr “achos cyfyngedig” yw achos pan na fyddai awdurdod tai lleol yn fodlon fel a grybwyllir yn adran 75(1) heb roi sylw i berson cyfyngedig (gweler adran 63(5)).

(6)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu

(b)o dan adran 75.

(7)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei brif neu ei unig gartref, llety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu

(b)o dan adran 75.

(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 75(1) yn dod i ben.

[F6(9)Yn yr adran hon—

  • mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);

  • mae i “tenantiaeth cyfnod penodedig” (“fixed term tenancy”) mewn perthynas â llety yn Lloegr yr ystyr a roddir i “fixed term tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).]