Deddf Tai (Cymru) 2014

7Gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddoLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ni chaniateir i landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig wneud unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn perthynas â’r annedd oni bai—

(a)bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,

(b)mai’r peth a wneir yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud rhywbeth ar ran y landlord, neu

(c)bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.

(2)Y pethau yw—

(a)casglu rhent;

(b)bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;

(c)gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;

(d)gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;

(e)cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;

(f)cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.

(3)Ni chaiff landlord annedd a oedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, ond nad yw bellach yn ddarostyngedig i’r denantiaeth ddomestig honno, gadarnhau cyflwr neu gynnwys yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau, at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r denantiaeth oni bai—

(a)bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)mai’r peth sy’n cael ei wneud yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud hynny ar ran y landlord, neu

(c)bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—

(a)diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bethau yn is-adran (2) neu (3) (gan gynnwys pethau a ychwanegir o dan baragraff (b)) na chaiff landlord ei wneud oni bai bod unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) o is-adran (1) neu (3) yn gymwys (yn ôl y digwydd);

(b)ychwanegu disgrifiadau pellach o bethau at ddibenion yr adran hon (gan gynnwys drwy ddiwygio’r Rhan hon).

(5)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) neu (3) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (5) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

(7)Yn is-adran (1) ystyr “asiant awdurdodedig” yw—

(a)person sy’n drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,

(b)awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio), neu

(c)mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth yn unig, cyfreithiwr cymwysedig (o fewn yr ystyr a roddir i “qualified solicitor” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfreithwyr 1974), person sy’n gweithredu ar ran cyfreithiwr o’r fath neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 7 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3A. 7 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2

I4A. 7 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(d)