64Sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gaelLL+C
(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r modd y caiff awdurdod tai lleol sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—
(a)drwy drefnu i berson ac eithrio’r awdurdod ddarparu rhywbeth;
(b)drwy ddarparu rhywbeth ei hun;
(c)drwy ddarparu rhywbeth, neu drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r ceisydd.
(2)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu er mwyn sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—
(a)cyfryngu;
(b)taliadau ar ffurf grant neu fenthyciad;
(c)gwarantau y bydd taliadau yn cael eu gwneud;
(d)cefnogaeth i reoli dyled, ôl-ddyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent;
(e)mesurau diogelwch i geiswyr sydd mewn perygl o wynebu camdriniaeth;
(f)eiriolaeth neu gynrychiolaeth arall;
(g)llety;
(h)gwybodaeth a chyngor;
(i)gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau eraill.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol mewn perthynas â sut y gallant hwy sicrhau neu helpu i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i geisydd ei feddiannu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 64 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(c), Atod. Rhn. 3
I3A. 64 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 15