Deddf Tai (Cymru) 2014

55Ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefeddLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae person yn ddigartref os nad oes unrhyw lety ar gael i’r person ei feddiannu, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—

(a)â hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,

(b)â thrwydded datganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu

(c)yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol cyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant.

(2)Mae person yn ddigartref hefyd os oes gan y person lety ond—

(a)nad yw’n gallu cael mynediad iddo, neu

(b)mae’n strwythur, yn gerbyd neu’n gwch symudol, sydd wedi ei ddylunio neu ei addasu i bobl fyw ynddo ac nad oes unrhyw fan lle mae’r person â’r hawl neu’r caniatâd i’w leoli ac hefyd i fyw ynddo.

(3)Ni chaniateir i berson gael ei drin fel person sydd â llety oni bai ei fod yn lety y byddai’n rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.

(4)Mae person o dan fygythiad o ddigartrefedd os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 55 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 6