xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Pwerau Gweinidogion CymruLL+C

42CyfarwyddiadauLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.

(4)Mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 42 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3A. 42 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2

I4A. 42 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(u)