2Ystyr y prif dermauLL+C
(1)Yn y Rhan hon—
ystyr “annedd” (“dwelling”) yw adeilad neu ran o adeilad a feddiennir neu y bwriedir ei feddiannu fel annedd ar wahân, ynghyd ag unrhyw fuarth, gardd, tai allan ac atodynnau sy’n perthyn iddo neu a fwynheir gydag ef fel arfer, pan fo’r annedd gyfan yng Nghymru;
ystyr “eiddo ar rent” (“rental property”) yw annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth o’r fath;
ystyr “landlord” (“landlord”)—
(a)mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, yw’r landlord uniongyrchol neu, mewn perthynas â thenant statudol, y person a fyddai, ar wahân i’r denantiaeth statudol, â’r hawl i feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth, a
(b)mewn perthynas ag annedd nad yw’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, y person a fyddai’n landlord uniongyrchol pe bai’r annedd yn cael ei gosod o dan denantiaeth ddomestig;
ystyr “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tennancy”) yw—
(a)[F1tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, ac eithrio pan fo’r contract meddiannaeth—
(i)yn gontract safonol â chymorth, neu
(ii)hefyd yn les hir at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (“Deddf 1993”) neu, yn achos les rhanberchnogaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “shared ownership lease” gan adran 7(7) o Ddeddf 1993), a fyddai’n les o’r fath pe bai cyfran y tenant (o fewn yr ystyr a roddir gan yr adran honno) yn 100 y cant;]
(b)tenantiaeth reoleiddiedig at ddibenion Deddf Rhenti 1977, neu
(c)tenantiaeth y mae annedd yn cael ei gosod fel annedd ar wahân oddi tani ac sydd o ddisgrifiad a bennir at ddibenion y Rhan hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
(2)Yn yr adran hon, ystyr “tenant statudol” a “tenantiaeth statudol” yw tenant statudol neu denantiaeth statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory tenant” a “statutory tenancy” yn Neddf Rhenti 1977.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 2(1) wedi eu hamnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 2 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 2 mewn grym ar 23.11.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(b)